Galw ar Lafur i gydweithio gyda phleidiau eraill yn San Steffan
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud wrth gynhadledd Llafur y dylai'r blaid fod yn barod i gydweithio gyda phleidiau eraill yn San Steffan.
Dywedodd Mark Drakeford ei bod yn ddyletswydd arnyn nhw i "wneud popeth yn eu gallu i ddod i rym".
Mae hefyd wedi bod yn trafod budd diwygio etholiadol, cyn i'r gynhadledd gynnal pleidlais ar y pwnc.
Mae rhai o fewn Llafur yn galw am newid ond mae arweinydd y blaid drwy'r DU, Syr Keir Starmer, wedi dweud nad yw hynny'n flaenoriaeth.
Yn hanesyddol mae'r blaid wedi ffafrio'r system bleidleisio cyntaf-heibio'r-terfyn, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU, ond mae 'na bwysau cynyddol ar yr arweinydd i newid hynny.
Mae rhai o fewn Llafur am i'r blaid gefnogi cynrychiolaeth gyfrannol (CG) - sef yr egwyddor fod nifer y seddi mae plaid yn eu hennill yn adlewyrchu nifer y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw.
Mae aelodau'r blaid i drafod a phleidleisio ar gynrychiolaeth gyfrannol yn y gynhadledd, ond mae ffynonellau wedi awgrymu i'r 大象传媒 na fydd hynny'n dod yn rhan o'u maniffesto.
Mae Senedd Cymru eisoes yn defnyddio elfennau CG er mwyn ethol aelodau rhanbarthol.
Yn y dyfodol fe fydd yn symud yn llwyr oddi wrth y system cyntaf-heibio'r-terfyn, o dan gynlluniau Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Mae Llafur Cymru mewn cytundeb i gydweithredu gyda Phlaid Cymru ers iddyn nhw ennill etholiad 2021, ond heb ddigon o fwyafrif i reoli'r Senedd ar eu pen eu hunain.
'Erioed wedi llywodraethu ar ein hunain'
Wrth annerch cynhadledd y blaid yn Lerpwl ddydd Llun, dywedodd Mr Drakeford y byddai penderfyniad Llafur Cymru i gefnogi'r newidiadau etholiadol yn "sicrhau y byddai pob pleidlais i Lafur yng Nghymru yn cyfri tuag at greu'r llywodraeth Lafur Cymreig nesaf".
Dywedodd: "Tra bod Llafur wedi ffurfio'r llywodraeth yng Nghymru bob amser, dy'n ni erioed wedi llywodraethu ar ein pen ein hunain.
"Ni'n canolbwyntio ar y meysydd ble mae pleidiau blaengar yn gallu cytuno, gwleidyddiaeth sy'n cydnabod safle Llafur fel y blaid gryfaf, ond sydd hefyd yn gwybod nag oes gan unrhyw blaid fonopoli ar syniadau da neu flaengar."
Gan gyfeirio at gyllideb fach Llywodraeth y DU'r wythnos ddiwethaf, dywedodd: "Yn wyneb y penderfyniadau ofnadwy'r wythnos ddiwethaf, mae'n ddyletswydd gwneud popeth y gallwn ni i gymryd a gweithredu grym, ar ran y corff enfawr o bobl weddus ar hyd a lled y DU."
Yn 么l Mr Drakeford mae 'na "siom cynyddol" nad yw llwyddiant Llafur yng Nghymru wedi cael ei adlewyrchu mewn rhannau eraill o'r DU.
Dywedodd: "Y rheswm canolog pam mae ein plaid yn bodoli, y rheswm mae ein haelodau yn gwneud popeth y'n ni'n ofyn ganddyn nhw... yw ein bod ni'n ceisio ennill grym gwleidyddol.
"Ry'n ni'n gwneud hynny am mai dyna'r unig ffordd y gallan ni wella bywydau'r rhai sy'n dibynnu ar y Blaid Lafur, sy'n dibynnu ar ein plaid i greu gwell dyfodol i ni gyd."
Yn gynharach roedd y cyn-Ganghellor Cysgodol, John McDonnell wedi awgrymu fod Syr Keir Starmer yn ymddwyn fel brenin yngl欧n 芒 CG.
Mewn cyfweliad 芒 phapur newydd yr Observer, roedd Syr Keir wedi awgrymu na fyddai'n cynnwys addewid am ddiwygio etholiadol ym maniffesto Llafur.
Ond mewn rali dros CG, dywedodd Mr McDonnell: "Rwy'n credu fod yn rhaid ei atgoffa fod ein penderfyniadau i gyd yn cael eu gwneud yn ddemocrataidd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2022
- Cyhoeddwyd23 Medi 2021
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2021