Beirniadu cwmni 'haerllug' am ddirwy barcio uniaith Saesneg
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Bowys wedi beirniadu cwmni "haerllug" ar 么l iddo wrthod talu dirwy barcio uniaith Saesneg a dderbyniodd yn dilyn ymweliad 芒 Llangrannog.
Dywedodd Arwyn Groe, sy'n byw ger Llanfair Caereinion yn Sir Drefaldwyn, fod One Parking Solution bellach wedi anfon cwmni dyledion ar ei 么l i geisio hawlio'r arian.
Daw hynny wedi i achos tebyg yn erbyn yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone gael ei daflu allan o'r llys yn gynharach eleni, am na wnaeth One Parking Solution anfon cynrychiolydd i'r achos.
Mae One Parking Solution - cwmni preifat o Worthing, Gorllewin Sussex - wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru Fyw nad ydyn nhw am wneud sylw.
'Heb ddysgu gwers'
Fe dderbyniodd Mr Groe y ddirwy drwy'r post ym mis Awst, a dywedodd ei fod wedi ateb "yn gwrtais ddigon" i ddweud na fyddai'n talu am nad oedd yr ohebiaeth yn y Gymraeg.
Ond doedd One Parking Solution ddim hyd yn oed yn fodlon trafod y mater ymhellach, meddai - ac felly fe benderfynodd ddilyn esiampl Mr Schiavone, a gwrthod talu.
"Yn sicr, pwy a 诺yr be' fyswn i wedi 'neud oni bai am yr achos yna," meddai Mr Groe.
"Ond yn sicr mae'r ffaith bod Toni wedi gwneud y safiad i gychwyn yn sicr wedi bod yn ysbrydoliaeth."
Ychwanegodd: "Wrth gwrs y bysa hi 'di bod yn haws talu'r 拢40, ond nid dyna'r pwynt.
"Ac i ddeud y gwir 'dan ni i gyd fel Cymry'n debygol o roi i fewn yn rhy hawdd ar brydiau i roi i mewn i rymoedd o tu allan i Gymru sy'n barod iawn i wasgu arnon ni a'n hawliau fel pobl.
"Fyswn i'n teimlo'n euog yn talu'n dawel bach a di-asgwrn cefn a gadael i hyn basio."
Oherwydd agwedd y cwmni, meddai, nid yw'n bwriadu talu'r ddirwy o gwbl bellach hyd yn oed os daw llythyr Cymraeg maes o law.
"Maen nhw 'di dangos tipyn o haerllugrwydd tuag aton ni fel Cymry," meddai.
"Felly o'n i'n teimlo, gan bod nhw heb ddysgu gwers, bod hi'n bwysig iawn cadw'r pwysau yna arnyn nhw, iddyn nhw ddallt bod ni ddim yn mynd i roi fewn."
Galw am ddeddf llywodraeth
Dywedodd Tamsin Davies, is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, eu bod yn teimlo y dylai'r cwmni wneud y peth "moesol" a chynnig gohebiaeth Cymraeg oherwydd eu bod yn "gweithio mewn gwlad ddwyieithog".
Ond oherwydd eu bod yn gwmni preifat, mae'n cydnabod nad oes "rheidrwydd arnyn nhw i wneud", yn wahanol i gyrff cyhoeddus.
"Felly mae angen ymestyn y safonau iaith i gwmn茂au preifat fel rhain," meddai.
"Mae rheidrwydd ar Lywodraeth Cymru hefyd, achos os yw cwmn茂au'n anwybyddu'r alwad i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, fe ddylai'r llywodraeth newid hynny.
"Mae'r cwmni wedi gwastraffu lot o amser yn barod yn ymladd rhywbeth ddylen nhw fod yn darparu beth bynnag."
Cytuno 芒 hynny mae Mr Groe, gan ddweud bod cwmn茂au fel One Parking Solution yn glynu wrth eu safbwynt am eu bod yn "gwybod y gallai'r ddeddf fod ar eu hochr nhw".
"Felly mae'r neges yn glir i Lywodraeth Cymru i gryfhau'r ddeddf... wedyn bydd cwmn茂au fel rhain yn gorfod gyrru gohebiaeth yn Gymraeg," meddai.
"Ac o'r drafodaeth fer dwi wedi ei gael efo'r cwmni, dwi'n synhwyro pe bai'r ddeddf yn ei lle, fydden nhw ddim yn meddwl ddwywaith am wneud hynny."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn awyddus i weld pob sector yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ac mae cefnogi busnesau i ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg yn flaenoriaeth i ni.
"Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru.
"Rydym yn ymrwymedig i weithredu'r Mesur yn llawn ac yn dilyn rhaglen waith ar gyfer cyflwyno safonau'r Gymraeg i fwy o sectorau dros y blynyddoedd nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd26 Medi 2022