Eirin Dinbych: Dathlu'r unig eirin sy'n dod o Gymru
- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi mai Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd yw'r unig fath o eirin sy'n frodorol i Gymru?
Ar 1 Hydref bydd Gŵyl Eirin Dinbych yn cael ei chynnal yn Neuadd y Dref er mwyn dathlu'r ffrwyth sy'n unigryw i'r ardal.
Nia Williams, ysgfrifennydd Grŵp Eirin Dinbych fu'n rhoi hanes yr eirin i Terwyn Davies ar Troi'r Tir, Radio Cymru.
Eirinen gynhenid i Gymru
Y gred yw bod Eirin Dinbych wedi dechrau cael eu tyfu gan fynachod yn y 13eg ganrif, fyddai'n eu gwneud yn hÅ·n nac eirin Fictoria, a'r unig eirin sy'n dod o Gymru.
Eglura Nia: "Eirin Dinbych yw eirinen gynhenid i Gymru, yr unig un gyda llaw, a mae lot hynach nac unrhyw eirin eraill ry'n ni'n gwybod amdanyn nhw.
"Mae'r cofnod cyntaf ohoni yn 1785 a oedd hi yn eirinen oedd yn cael ei thyfu ar draws Dyffryn Clwyd, o'r Gororau, o'r môr draw at y mynyddoedd drwy Ddyffryn Clwyd, Rhuthun a Dinbych er mai enw tref Dinbych sydd wedi cael ei roi ar y math hyn o eirinen."
Yn nodweddiadol am ei lliw orennaidd-cochaidd gyda mannau melyn pan fo'r eirinen yn dechrau aeddfedu, mae ei blas hefyd yn arbennig:
"Mae'n unigryw mewn ffordd achos mae'n felys, mae'n feddal, mae'n flasus tu hwnt."
Diogelu'r ffrwyth
Yn 2019 fe dderbyniodd Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd statws bwyd gwarchodedig gan y Comisiwn Ewropeaidd ar ôl i Grŵp Eirin Dinbych wneud cais er mwyn codi ymwybyddiaeth am y ffrwyth. Bellach mae gan Eirin Dinbych yr un statws â chig oen a chig eidion Cymreig, a Halen Môn.
Ond nid yw'r daith i ddiogelu unig eirinen Cymru wedi bod yn un hawdd.
"Yn anffodus oherwydd natur amaeth yn yr hanner canrif diwethaf mae'r tir wedi mynd yn llawer fwy gwerthfawr yn enwedig yn Nyffryn Clwyd achos mae gyda ni'r ardal brin Gradd 1 o dir amaethyddol felly nath llawer o'r ffermwyr droi'r tir lle roedd perllannau eirin i fagu anifeiliaid, i dyfu cnydau, felly mae llawer o'r perllannau wedi diflannu yn yr hanner can mlynedd ddiwethaf.
"Wedyn nôl yn 2008 daeth grŵp bach at ei gilydd yn Ninbych, i weld a darganfod beth oedd yn unigryw am Ddinbych. Nid yn unig y castell a'r hanes sydd i'r dref, tref farchnad bwysig ar un amser, ond gweld bod llawer o bobl wedi anghofio am goed Eirin Dinbych ac am y ffrwyth, felly aed ati i drio dod a chynhyrchwyr bwyd a diod ynghyd a threfnu marchnad."
Gŵyl Eirin Dinbych
Cynhaliwyd Gŵyl Eirin Dinbych am y tro cyntaf yn Hydref 2009 a bob blwyddyn ers hynny, mae mwy o bobl wedi dod i ddysgu am Eirin Dinbych, ei dyfu a'i ddefnyddio mewn cynnyrch, ac yn bwysicaf oll, ei flasu.
Meddai Nia: "Ar y dechre falle mai chydig iawn o Eirin Dinbych oedd yn cael eu gwerthu yn y cynnyrch oedd yn cael eu gwerthu yn yr Ŵyl, ond erbyn hyn, erbyn i ni ddod i wbod lle mae lot o'r hen berllannau, rydyn ni wedi gallu gwneud yn siŵr bod unrhyw un sy'n gwerthu cynnyrch yn cynnwys Eirin Dinbych iawn."
Mae Nia yn edrych ymlaen at yr ŵyl eleni ac mae'n gobeithio croesawu pobl fydd yn profi blas melys Eirin Dinbych am y tro cyntaf.
"Mi fydd gwledd o stondinau bwyd a diod fydd wedi troi Eirin Dinbych i wahanol bethau fel jam, chutneys, cwrw, seidir, fodca, gwin - mae pobl jest yn troi eu llaw i 'neud pob math o bethau.
"Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn deall pwysigrwydd yr erinen sydd i'w ganfod yn Nyffryn Clwyd. Byddai'n wych petai mwy o ffermwyr, nid jest yn Nyffryn Clwyd, yn edrych i dyfu mwy o ffrwythau achos mae'r galw yna."
Hefyd o ddiddordeb: