Pum munud gydag Elinor Wyn Reynolds

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Elinor Wyn Reynolds

Mae hi'n caru geiriau ac yn caru Caerfyrddin - Bardd y Mis Radio Cymru mis Hydref ydi Elinor Wyn Reynolds.

Rydych chi wedi gweithio efo geiriau drwy gydol eich gyrfa - fel golygydd, awdur, cyfieithydd, bardd a darlledwraig. O ble daeth y cariad at iaith?

Diolch Cymru Fyw am ddechre gyda chwestiwn anodd...

Reit. Wy jyst yn caru geiriau, pan o'n ni'n blant roedd pawb yn teulu ni'n caru geiriau hefyd. Mae'n well gyda fi eiriau na cherddoriaeth, tase'n rhaid i fi ddewis rhyngddyn nhw. Ma' geiriau'n gallu cael y fath effaith, ma' geiriau'n medru gwneud gwahaniaeth, ma' geiriau'n gallu newid pethau (yn y galon ac yn y byd).

Y peth yw hefyd, ar lefel hollol sylfaenol rydyn ni bob un ohonom yn mwynhau stori dda, yn mwynhau cyfathrebu a chael ein diddanu, felly mae pob un ohonom yn mwynhau geiriau, yntydyn ni? Mi o'n i hefyd yn mwynhau posibilrwydd y dudalen wag, lân, gallai unrhyw beth gael ei ysgrifennu arno, ac mae'r posibilrwydd hwnnw'n dal i fy nghynhyrfu i.

Wy'n dod o deulu ble ry'n ni wedi mwynhau cael hwyl gyda geiriau, chwarae o gwmpas, gwneud jôcs neu acrobatics geiriol, creu geiriau newydd (ma' gen i gyfrol newydd yn dod mas cyn bo hir sef Anwyddoldeb... dydy'r gair hwnnw ddim mewn unrhyw eiriadur, ffact i chi), jyst bod yn sili gyda geiriau, (neu weithiau'n glyfar, gobeithio).

Pan o'n ni'n blant, mi greodd fy mrodyr gymeriad oedd yn seren action films ac yn gorffluniwr (bodybuilder) Cymreig, sef Arnold Rhosneigr, oedd yn rhyw chwarae ar yr enw Schwarzenegger...

Wel, fe wnaeth i ni chwerthin beth bynnag... am flynyddoedd....

Ar ôl byw mewn sawl rhan o Gymru, Caerfyrddin ydi'ch cartref ers blynyddoedd bellach. O'r holl lefydd eraill ble buoch chi'n byw, pa elfennau fyddech chi'n eu cymysgu gyda'i gilydd i greu'r dref, dinas neu bentref perffaith?

'Wy yn dwlu ar Gyfyrddin. Dyw e ddim yn rhy fawr nac yn rhy fach, mae e jyst reit. Dyw'r dre ddim yn brolio'i hunan, ond mae'n ddigon hapus ynddi ei hun wy'n teimlo. Er, licen i tase pwy bynnag sydd yng ngofal cynllunio'r dref yn gadael llonydd i rai pethe, peidio bwrw hen lefydd lawr ac adeiladu pethe newydd sy'n mynd i edrych yn ddi-raen yn gyflym, ac yn hytrach ystyried cofleidio hanes ac amrywiaeth y dre yn fwy creadigol a chyflawn gan drwsio ac adfer.

Er enghraifft mae olion Rhufeinig helaeth o dan y tarmac yn y dre, ond mae adeiladu fflatiau ar eu pennau yn fwy o flaenoriaeth na cheisio codi pethau hynafol i'r golwg eto ac ystyried mannau eraill ar gyfer fflatiau, a sdim ishe rhoi tarmac dros bob un blewyn glas sydd ynghanol y dre, bobl!

Ond wy'n dal i ddwlu ar y dre. Mae Caerfyrddin yn lle da i fagu teulu, mae'r plant wedi cael crwydro'r dre heb achosi gormod o boen meddwl i'w rhieni, ac mae digon i'w wneud. Bydde Mam yn arfer dweud, 'Ma pob dim yn Gyfyrddin.' O'dd hi ddim yn anghywir.

Disgrifiad o'r llun, Pont Aberteifi

Wy'n hoff iawn o Aberteifi hefyd, fues i'n byw yno am gyfnod, mae'n lle hynod braf gydag adeiladau ardderchog a hanes difyr tu hwnt.

Ond a bod yn hollol onest, wy'n credu mai ffordd o feddwl sy'n gwneud unrhyw le'n lle da, ac mae hynny dod o'r tu fewn i chi, eich bod chi medru gweld a gwerthfawrogi'r pethau sy'n gwneud bywyd yn werth ei fyw, fel arfer pethau bach yw'r pethau hynny. Ac wy ddim yn siŵr pa mor hapus fydden i i fyw tu fas i Gymru nawr chwaith. Fan hyn 'wy fod.

Rydych chi wedi cyhoeddi nifer fawr o gerddi unigol a pherfformio eich gwaith ers dechrau'r 1990au. Mae eich cyfrol gyntaf o farddoniaeth - Anwyddoldeb - ar fin dod o'r wasg. Oedd hwn yn brofiad gwahanol?

'Wy wedi casglu nifer o'r cerddi a sgrifennais i dros y blynyddoedd i'w cynnwys yn y gyfrol hon. O'u rhoi at ei gilydd, maen nhw'n dangos llwybr bywyd, y cerrig milltir a'r mannau ble ma' rhywun yn cael hoe. Mae yna gerddi newydd yn y gyfrol hefyd.

Ar glawr y gyfrol mae llun gan yr artist o'r Fenni, Sarah Snazell, fu farw yn ei thridegau cynnar ddiwedd 1999, y llun yw Five Ways, mae'n portreadu menyw ar ei thaith drwy ei bywyd, ac yn dangos yr holl lwybrau posibl y gallai eu cymryd a'r ffordd y daeth hi. Pan gasglais i'r cerddi ynghyd ar gyfer Anwyddoldeb 'wy'n meddwl i fi deimlo ychydig fel y fenyw yn y llun wrth ystyried y casgliad cerddi.

'Wy'n gwbod hefyd fod y gyfrol yn gymysgedd o bethau doniol a difrifol, 'wy am i chi chwerthin a llefen pan chi'n darllen y gyfrol!

Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Iaics! Bardd arall... mae cymaint.

Mae'r farddoniaeth sydd yn apelio ataf i fwyaf yn dueddol o fod yn uniongyrchol o ran arddull ac yn cyrraedd yn syth at fy nghalon neu fy mhen. 'Wy'n dwlu ar waith Elin ap Hywel, 'wy'n meddwl ei bod hi'n sgrifennu mor ddisglair.

'Wy'n lico gwaith beirdd o Loegr o'r ugeinfed ganrif cynnar hefyd, pobl fel Louis MacNiece, W. H. Auden, A. E. Housman. Mae John Donne, oedd yn sgrifennu yn yr unfed ganrif ar bymtheg a George Herbert, bardd o'r ail ganrif ar bymtheg yn rhai 'wy'n edmygu eu hawen. Mi fyswn i hefyd yn ddigon hapus i fod yn Shakespeare, roedd e'n amlwg yn ddyn amrywiol ac amryliw ei dalent.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yr awdur a'r bardd o America Maya Angelou, fu farw yn 2014

'Wy hefyd yn dwlu ar waith Maya Angelou a menywod cyhyrog eu mynegiant barddol sy'n dweud pethau yn y modd mwyaf ardderchog ac yn gwneud i iaith ganu.

Weles i Maya Angelou'n darllen yng Ngŵyl y Gelli unwaith, roedd hi'n anhygoel o dal, roedd hi'n gwisgo ffrog laes goch, drawiadol ac am ei phen edrychai fel tasai hi'n gwisgo tea-cosy aur, roedd hi'n edrych yn hollol, hollol wych. Fe drydanodd hi'r lle cyfan gyda'i geiriau gwefreiddiol a'i phresenoldeb bywiol a bywiog. Licen i tasen i'n gallu gwisgo tea-cosy aur am fy mhen, ac edrych yn wych.

Ar Twitter y dyddie yma, mae bardd o'r enw Brian Bilston yn ticlo fy ffansi'n aml, mae e mor glyfar, yn defnyddio'r cyfrwng at ddiben barddoniaeth heb golli dim o'i awen. Mae ei gerdd Refugees yn syfrdanol. O'i darllen un ffordd ac yna'i darllen o chwith, mae'n cyfleu dau ffordd o feddwl hollol begynnol sy'n bodoli yn ein byd ni.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

'Wy'n meddwl y bysen i'n hapus i fod wedi ysgrifennu unrhyw gerdd serch sy'n goroesi'r blynyddoedd ac yn para mor ifanc â'r diwrnod y cafodd hi ei hysgrifennu. Wedi'r cwbl, dim ond cariad sy'n bwysig yn yr hen fyd yma. Mae Philip Larkin yn dweud, 'What will survive of us is love', wel amen i hynny ddyweda i.

Am y rheswm hynny mi fyswn i'n hapus o fod wedi ysgrifennu rhai o sonedau Shakespeare felly. Mi fyswn i'n llawn mor hapus i fod yn Ann Griffiths neu'n William Williams Pantycelyn ar sail hynny, oherwydd mae'r emosiwn sydd yn rhai o emynau gorau Cymru yn goroesi am eu bod nhw'n dangos y fath ryferthwy o angerdd a chariad. Nice one, emynwyr Cymru!

Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?

W, mae gen i sawl peth ar y gweill, mae'n cadw fi mas o drwbwl. 'Wy'n dal i ysgrifennu cerddi achos ma' rhywbeth i'w ddweud o hyd achos mae bywyd mor blincin' ddiddorol.

Fe hoffwn i gychwyn ar sgrifennu nofel arall. Cyhoeddais i Gwirionedd tua thair blynedd yn ôl. Mae gen i rywbeth... syniad... hedyn... Dydw i ddim am ddweud mwy wrthoch chi Cymru Fyw, bydd rhaid i chi aros.

Hefyd o ddiddordeb: