'Dylid defnyddio Cymru, nid Wales yn rhyngwladol' - Plaid
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth Cymru "arddel defnyddio Cymru yn hytrach na Wales yn rhyngwladol", medd Plaid Cymru.
Byddai "rhoi 'Cymru' wrth galon" strategaeth newydd yn helpu i "hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy", meddai Luke Fletcher AS ar ran y blaid.
Gwnaed yr alwad yng nghyswllt Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Llywodraeth Cymru.
Un o them芒u allweddol y strategaeth yw y "bydd gan ddigwyddiadau yng Nghymru 'Gymreictod' penodol, ni waeth beth fo'u maint, eu graddfa na'u lleoliad. Bydd hyn yn cynnwys y Gymraeg, yn adlewyrchu Brand Cymru Wales, a meini prawf y Ddeddf Llesiant".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch o ddefnyddio Cymru a Wales, oherwydd mae'r ddau yn perthyn i bob un ohonom."
'Diolch'
Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru wedi gosod cynsail wrth ddefnyddio Cymru yn hytrach na Wales.
Dywedodd Rob Dowling, pennaeth cynnwys ac ymgysylltu'r gymdeithas, wrth y 大象传媒 bod eu defnydd o eiriau yn Gymraeg yn unig wedi cynyddu, "mewn ffordd gynhwysol a hygyrch", yn ystod ymgyrch eiconig Euro 2016 a bod hynny "wedi helpu i'n gwahaniaethu oddi wrth wledydd eraill".
Ar 么l cyrraedd y rowndiau terfynol yn Ffrainc, argraffwyd 'Diolch' ar grysau "gan wybod y byddai'r delweddau hynny yn cael eu dangos trwy'r byd", meddai.
'Hyderus'
Yn 2017, meddai Mr Dowling, gwnaed "y penderfyniad ymwybodol i ddefnyddio Cymru yn lle Wales, a oedd yn ddilyniant naturiol".
"Cafwyd cwynion yn awr ac yn y man, ond roeddem yn teimlo bod angen i ni fod yn hyderus wrth ei ddefnyddio. Mae'r rhan fwyaf o bobl ledled y DU yn deall y gair.
"Nawr mae cefnogwyr weithiau yn llafarganu Cymru nid Wales, yn enwedig pan rydyn ni'n chwarae yn Llanelli."
Eglurodd trwy enwi adrannau Cymru Premier, Cymru South, Cymru North ac ati, ei bod yn "gorfodi'r cyfryngau i'w ddefnyddio".
"A pham lai - maen nhw'n defnyddio La Liga, Bundesliga ac ati."
Mantais arall o ddefnyddio Cymru yn hytrach na Wales, meddai Rob Dowling yw trefn yr wyddor - "ar albyms sticer fe fydden ni tuag at y blaen nid y cefn, ac yng nghyfarfodydd FIFA bydden ni'n cael seddi yn nes at y blaen".
Dywedodd bod y gymdeithas yn ddiolchgar i'r arbenigwr ar gyfryngau cymdeithasol, Owen Williams, am roi'r ddolen Twitter @Cymru iddynt.
Defnyddiodd y gymdeithas y ddolen honno am y tro cyntaf yn Ionawr 2018 i gyhoeddi penodiad Ryan Giggs fel rheolwr newydd Cymru.
"Gallaf weld, yn seiliedig ar ein profiad ni, sut y gallai'r wlad elwa o ddefnyddio Cymru yn lle Wales", meddai Mr Dowling.
Wrth arwain dadl yn y Senedd, cyflwynodd y Ceidwadwyr Cymreig gynnig bod "digwyddiadau mawr yn helpu i roi hwb i swyddi a'r economi drwy arddangos Cymru i'r byd", ond maen nhw'n "gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dangos diffyg uchelgais wrth ddod 芒'r cyfleoedd hyn i Gymru".
Roedd y Ceidwadwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ailystyried y gan ganolbwyntio ar ddyhead, creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru".
Yn ogystal 芒 galw am ddefnyddio Cymru yn hytrach na Wales yn rhyngwladol, roedd gwelliant Plaid Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i sicrhau y caiff diwylliant a threftadaeth Cymru a'r Gymraeg eu hymwreiddio'n bellach yn y strategaeth, gan gynnwys digwyddiadau mawr cynhenid fel yr Eisteddfod Genedlaethol".
Cafodd cynnig y Ceidwadwyr ei wrthod o 14 pleidlais i 38, a gwelliant Plaid Cymru ei wrthod o 26 pleidlais i 27.
Dywed Gweinidog yr Economi Vaughan Gething bod Cymru yn wlad "a all gynnal digwyddiadau o'r radd flaenaf, gan gystadlu'n effeithiol 芒 goreuon y byd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022