Parhad safle antur yn 'eithriadol o bwysig' i'r gogledd

Ffynhonnell y llun, Richard Johnson

  • Awdur, Dafydd Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae'n "eithriadol o bwysig" bod un o atyniadau antur gogledd Cymru yn parhau ar agor, meddai arweinydd twristiaeth.

Daw wedi i berchnogion Adventure Parc Snowdonia yn Sir Conwy ddweud eu bod nhw'n chwilio am fuddsoddiad newydd.

Fe allai'r buddsoddiad hwnnw, "mewn egwyddor", ddigwydd o werthu'r safle, meddai'r perchnogion.

Ar 么l derbyn cyllid o 拢4m gan Lywodraeth Cymru, fe agorodd yr atyniad yn Nolgarrog yn 2015, gyda'r lag诺n syrffio mewndirol cyntaf o'i fath yn y byd.

Ond ni fydd modd syrffio yno am weddill 2022 oherwydd "problemau mecanyddol", gyda'r ganolfan hefyd wedi ei daro'n ariannol gan effeithiau'r pandemig.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn ymwybodol bod y busnes yn ystyried y dyfodol ond does dim penderfyniadau wedi eu gwneud hyd yma. Ry'n yn cadw golwg manwl ar ddatblygiadau."

'Trychineb petai'r safle'n cau'

Am y saith mlynedd diwethaf, mae'r ganolfan wedi chwarae rhan allweddol wrth ailfrandio'r gogledd fel cyrchfan antur, yn 么l Twristiaeth Gogledd Cymru, sy'n cynrychioli busnesau yn y sector.

Dywedodd prif weithredwr y mudiad hwnnw, Jim Jones: "Does gen i ddim amheuaeth y bydd yn parhau.

"Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig iawn i ni yng ngogledd Cymru achos 'dan ni wedi gwneud ein henw fel canolfan antur ar sail pethau fel Adventure Parc Snowdonia ac eraill.

"Mae'n si诺r ei fod o'n un o'n hatyniadau mwyaf yng ngogledd Cymru, mae'r buddsoddiad i'r safle wedi bod yn y miliynau.

"Mae'n bwysig nid yn unig i ardal wledig Conwy ond i enw da gogledd Cymru gyfan."

Disgrifiad o'r llun, Dyma oedd y lag诺n syrffio mewndirol cyntaf o'i fath yn y byd pan agorodd yn 2015

"Pan 'dach chi'n edrych ar y gwesty ei hun a'r gadwyn gyflenwi sy'n ei wasanaethu, mae'n anhygoel.

"Mi fuasai hi'n drychineb petai rhywbeth yn digwydd i'r safle, ond dwi'n gwbl si诺r y daw buddsoddwr ymlaen a pharhau 'efo'r gwaith da mae'r teulu Ainscough wedi ei wneud."

Colled 拢1.2m

Mae'r cyfrifon diweddaraf sydd ar gael gan y cwmni'n dangos eu bod wedi gwneud colled o 拢1.2m yn y flwyddyn ddaeth i ben yn Ionawr 2021, ar 么l bod ynghau am ran helaeth o'r 12 mis blaenorol oherwydd y pandemig.

Yng ngwanwyn 2021, ailagorodd yr atyniad gyda gwesty newydd 106 ystafell Hilton Garden Inn, a chanolfan antur dan do.

Roedd hyn ar 么l buddsoddiad pellach o 拢3.9m gan Lywodraeth Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Byddai'n "drychineb" i economi dwristiaeth y gogledd petai'r safle'n cau, meddai Jim Jones

Dywedodd un o gyfarwyddwyr Adventure Parc Snowdonia yn ddiweddar eu bod yn chwilio am fuddsoddiad.

"Rydym ni'n falch iawn o'r hyn sydd wedi ei gyflawni yn y safle ond dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi gweld heriau mawr a chostau annisgwyl sylweddol.

"Tra bod gwesty'r Hilton Garden Inn and Spa wedi perfformio'n dda ers agor ym Mai 2021 ac wedi gwneud i'r parc yr hyn roeddem ni'n ei ddisgwyl, rydym yn gobeithio y bydd unrhyw fuddsoddiad pellach yn adeiladu ar yr hyn rydym ni wedi ei greu yn y dyffryn ac yn mynd 芒 ni i lefel arall.

"Mae'n gynnar iawn yn y broses ac er, mewn egwyddor, y gallai'r buddsoddiad ddod fel rhan o werthiant, dydyn ni ddim yn gwybod ar hyn o bryd."

Ffynhonnell y llun, Richard Johnson

Disgrifiad o'r llun, Mae'r safle wedi cynnal digwyddiadau rhyngwladol ers agor

Fe gafodd y lag诺n ei daro gan nifer o broblemau technegol ar 么l agor yn 2015.

Fis Awst eleni, bu'n rhaid stopio'r tonnau am weddill y flwyddyn oherwydd "problemau mecanyddol".

Dywedodd datganiad ar wefan y cwmni bod "maint y gwaith trwsio'n golygu y bydd angen gwagu'r chwe miliwn galwyn o dd诺r ffres ac i wneud pethau'n waeth, byddem yn annhebygol o ail-lenwi oherwydd y sychder sydd trwy Brydain ar hyn o bryd".

"I leihau'r effaith ar ein cwsmeriaid ac i sicrhau ein bod yn dal i fedru darparu antur a mwynhad y tu allan am weddill yr haf a'r hydref, rydym wedi penderfynu parhau yn 2022 heb greu tonnau."

Disgrifiad o'r llun, Wrth i boblogrwydd syrffio gynyddu, mae Llywelyn Williams yn gweld cyfle da i fuddsoddwyr

Roedd y syrffiwr Llywelyn Williams yn un o'r rhai a drefnodd Bencampwriaethau Syrffio Addasol Cymru yn Nolgarrog yn ddiweddar, ac mae'n dweud ei bod hi'n drist bod y syrffio wedi dod i stop yr haf yma.

"Dwi'n gwneud diwrnodau syrffio i bobl anabl ac o'n i fod i wneud un yna y mis yma, ond bechod maen nhw wedi cau. Ond dwi'n gobeithio at flwyddyn nesaf gewn ni drefnu hynny.

"Mae'r pyllau yma'n popio fyny ar draws y byd r诺an a mae o'n 'neud syrffio yn haws mewn environment saff.

"Fyswn i'n meddwl bod o'n investment da achos mae syrffio'n mynd yn fwy poblogaidd.

"Mae o yn yr Olympics ers 2020 a 'dan ni'n gobeithio gael o yn y Paralympics erbyn 2028.

"'Efo'r olygfa sydd o gwmpas 'efo'r afon a'r mynyddoedd, mae o'n lle lovely."