'Cronfa frys' ysgol yn y Rhondda i helpu plant a'u rhieni
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol yn y Rhondda yn codi arian ar gyfer cronfa frys i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd talu am fwyd ac ynni.
Bu Ysgol Nantgwyn yn Nhonypandy yn cefnogi 16 o deuluoedd yn ystod y pandemig drwy eu pantri cymunedol.
Ond mae staff wedi gweld yr angen yn cynyddu dros y misoedd diwethaf.
Mae'r ysgol wedi rhoi arian i deuluoedd am drydan ar gyfer y penwythnos, wedi darparu trainers a hyd yn oed gwely.
Ar adegau mae staff wedi cyfrannu o'u pocedi eu hunain.
Eu gobaith yw y bydd yr arian sy'n cael ei godi trwy gerdded am 24 awr ym Mannau Brycheiniog, gan ddechrau nos Wener, yn sail ar gyfer cronfa am yr hir dymor.
Yn 么l y dirprwy bennaeth, Ryan Evans mae mwy a mwy o ddisgyblion a'u teuluoedd yn estyn am gymorth.
"Mae gyda ni'r argyfwng costau byw, a biliau'n codi, a nawr morgeisi'n codi hefyd ac mae ein teuluoedd yn gadael i ni wybod eu bod yn ei chael hi'n anodd," meddai.
"Rydyn ni wedi cael rhai teuluoedd yn gorfod wynebu'r cwestiwn p'un ai i roi'r gwres canolog ymlaen neu i roi bwyd ar y bwrdd."
Mae'r ysgol eisoes yn defnyddio cronfa i helpu gyda biliau trydan neu fwyd mewn argyfwng, ac ar adegau mae staff wedi talu eu hunain.
Gan ddisgwyl y bydd y galw'n cynyddu, mae nifer o staff yn codi arian drwy gymryd rhan yn y daith gerdded ar fynydd Pen y Fan dros y penwythnos.
'Plentyn yn mynd 芒 bar sebon adref'
Mae'r gronfa 'argyfwng' ar ben y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gyda chynllun cyfnewid gwisg ysgol a phantri cymunedol.
Mae rhai o ddisgyblion yr ysgol yn gwirfoddoli yn y pantri yn trefnu'r silffoedd a chroesawu pobl sy'n dod yno i gasglu bwyd.
Fe all pobl gyfrannu at yr hyn maen nhw'n ei gymryd os ydyn nhw'n gallu, ond does 'na ddim pwysau i wneud.
Dywedodd Emma Beasley, rheolwr busnes yr ysgol - sy'n gyfrifol am y pantri - bod y gwasanaeth yn "rhan o ofalu am blentyn".
"Maen nhw'n gwybod ein bod ni'n poeni ac mae hynny'n help mawr i gryfhau'r perthnasau sydd gyda ni gyda phlant yn yr ysgol," meddai.
Mae hynny i'w weld trwy "eu hymddygiad a'u lles yn yr ysgol.
"Mae gweld plentyn yn dod mewn i fynd 芒 bar o sebon i fynd adre yn dorcalonnus, ond ar yr un pryd i'r plentyn yna mae'n anhygoel achos mae'n nhw'n gwybod ei fod e yma iddyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd3 Medi 2022