Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
拢11m i geisio cadw pobl ifanc mewn cymunedau Cymraeg
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Bydd 拢11m yn cael ei wario gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf i hybu gweithgaredd economaidd mewn cymunedau Cymraeg yng Ngwynedd, M么n, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Mae cynllun Arfor 2 yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a'r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.
Yn 么l y llywodraeth, y nod yw "creu cyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd i aros yn eu cymunedau" a chreu "cymunedau mentrus" mewn ardaloedd Cymraeg.
Bydd yna arian hefyd ar gyfer hybu y defnydd o'r Gymraeg.
'Hynod bwysig' i aros yng nghefn gwlad
Yn 么l Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: "Mae'r cynllun yn adeiladu ar Arfor 1. Mi fyddwn ni yn cydweithio gyda phedwar awdurdod lleol sydd 芒'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg.
"Y nod yw rhoi cefnogaeth i gymunedau Cymraeg i gynyddu eu gweithgaredd economaidd."
Un sydd wedi elwa yn barod o gynllun Arfor 1 ydy Gruffydd Rees. Mae'n rhedeg busnes Gwenyn Gruffydd Cyf yn Nryslwyn ger Llandeilo.
"Gaethon ni help gan Arfor 1 just cyn y pandemig ac roedd hyn yn help enfawr. Roedd y busnes yn tyfu yn gloi iawn.
"Roedd yr offer roedden ni yn defnyddio i brosesu'r m锚l yn rhy fach, ac roedd hi'n anodd i ni dyfu fel busnes gyda beth oedd 'da ni.
"Roedd rhaid mynd mlaen i'r step nesaf, at y siopau mawr. Gaethon ni help gan Arfor i alluogi ni i brynu offer newydd mwy o faint a ni nawr yn gallu prosesu lot mwy o f锚l, bron dwbl beth oedden ni yn gallu."
Mae Mr Rees yn cefnogi rhoi cefnogaeth i hybu busnesau mewn cymunedau Cymraeg: "Fi'n credu bod hi'n bwysig iawn.
"Ni ar ffarm yng nghanol cefn gwlad. Ni wedi tyfu'r busnes yng nghefn gwlad heb orfod symud mewn i'r dref neu'r ddinas.
"Yng nghefn gwlad, y dylse busnesau bwyd fod. Mae'n hynod bwysig bod ni yn aros yng nghefn gwlad ac yn creu swyddi."
Yn 么l Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, mae yna le i wneud mwy i atal yr all-lifiad o bobl ifanc o siroedd y gorllewin: "Fi'n credu, i fod yn onest, mae angen swm sylweddol arno i wrth-droi y peth, mae maint y broblem yn enfawr.
"Mae'r arian yn rhoi cyfle gwych i ni i dreialu a chefnogi er mwyn ceisio datrys y broblem."