Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru 18-15 Yr Alban
Cic gosb gan y mewnwr Keira Bevan wedi 84 munud o chwarae wnaeth selio buddugoliaeth wefreiddiol i d卯m rygbi merched Cymru yn eu g锚m agoriadol yng Nghwpan Y Byd yn erbyn Yr Alban.
Roedd yn ymddangos bod ail gais gan Megan Gaffney wedi sicrhau g锚m gyfartal i'r Albanwyr tra bod Cymru lawr i 14 o chwaraewyr.
Ond roedd ceisiau hanner cyntaf Alisha Butchers a Kayleigh Powell - a pherfformiad siomedig maswr Yr Alban, Helen Nelson a fethodd pob un o'i chiciau at y pyst - yn ddigon yn y pen draw i Gymru ennill.
Elinor Snowsill gafodd ei henwi'n seren y g锚m, a oedd yn cael ei hystyried fel g锚m roedd y ddau d卯m wir angen ei hennill, gan mai Seland Newydd ac Awstralia yw'r ffefrynnau i fod ar frig Adran A.
Ond fe fydd yna le i gymal nesaf y bencampwriaeth ar gyfer y ddau d卯m gorau i ddod yn drydydd yn eu gr诺p, ac mae Cymru wedi cryfhau'r siawns o fod yn eu plith petaen nhw'n methu 芒 sicrhau pwyntiau yn erbyn y ddau d卯m hemisffer y de.
Fe lwyddodd Seland Newydd i drechu Awstralia 41-17 yng ng锚m agoriadol arall Adran A.
Cyn g锚m ddydd Sul, roedd Cymru a'r Alban wedi colli eu pum g锚m brawf ddiweddaf, ond fe gafodd t卯m Ioan Cunningham ddechrau gwell na'r arfer gan dreulio'r munudau cyntaf yn hanner y gwrthwynebwyr.
O fewn chwe munud roedden nhw pwynt ar y blaen diolch i gais Butchers a throsiad Snowsill.
Ymestynodd Snowsill y bwlch wedi cic gosb lwyddiannus ond fe darodd Yr Alban yn 么l pan diriodd y bachwr Lana Skeldon i wneud hi'n 10-5.
Wedi rhagor o chwarae ymosodol da, fe sgoriodd Powell ei chais Cwpan y Byd cyntaf ac roedd Cymru felly 15-5 ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Ond oedd Yr Alban yn fwy ymosodol wedi'r egwyl ac roedd yna gwestiynau hefyd ynghylch disgyblaeth merched Cymru.
Fe welodd y prop Cara Hope gerdyn melyn, ac yn fuan wedi hynny fe sgoriodd Gaffney ei chais cyntaf i wneud hi'n 15-10 wedi 67 munud.
Roedd yna gyfle gwych i Gymru wedi i Butchers wibio'n gampus cyn cael ei thaclo o fewn metr i'r lein. Dyna oedd ei chyfraniad olaf i'r g锚m wedi iddi adael y maes gydag anaf i'w choes.
Roedd yna gryn nerfusrwydd yn y 10 munud olaf wrth i Gymru gael trafferth ddal gafael ar y b锚l ac fe welodd Jasmine Joyce gerdyn melyn am ei tharo ymlaen yn fwriadol.
Fe wnaeth hynny greu mwy o ofod i Gaffney dirio am yr eildro, yn y 78fed munud, i ddod 芒'r sg么r yn gyfartal ond, yn ffodus i Gymru, roedd cic Nelson unwaith eto'n aflwyddiannus.
Roedd yn ymddangos mai cyfartal fyddai'r sg么r terfynol hefyd nes i'r Alban ildio cic gosb o 30 metr.
Gyda Snowsill erbyn hynny wedi cael ei heilyddio, Bevan felly oedd yn gyfrifol am i gic hwyr a seliodd y fuddugoliaeth i Gymru.