Lucy Letby: Nyrs yn pledio'n ddieuog i lofruddio saith o fabanod

Ffynhonnell y llun, SWNS

Disgrifiad o'r llun, Mae Lucy Letby yn gwadu llofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio 10 arall

Roedd nyrs sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio 10 arall yn "bresenoldeb maleisus cyson", mae llys wedi clywed.

Clywodd achos yn erbyn Lucy Letby, 32, honiadau ei bod hi wedi mynd ati am flwyddyn i ladd tra'n gweithio mewn adran i fabanod newydd-anedig yn Ysbyty Iarlles Caer.

Mae'r ysbyty yng Nghaer hefyd yn darparu gwasanaethau ar gyfer trigolion gogledd-ddwyrain Cymru, ac mae'r 大象传媒 yn deall bod rhai o'r 17 baban wedi eu geni i deuluoedd yng Nghymru.

Mae Ms Letby, yn gwadu llofruddio pump o fechgyn a dwy o ferched a cheisio llofruddio pum bachgen a phum merch rhwng Mehefin 2015 a 2016.

Cafodd Lucy Letby, sy'n wreiddiol o Swydd Henffordd, ei harestio mewn cysylltiad 芒'r marwolaethau yng Ngorffennaf 2018 ac yna ym Mehefin 2019.

'Gwenwyno babanod'

Wrth agor achos yr erlyniad yn Llys y Goron Manceinion ddydd Llun, dywedodd y bargyfreithiwr Nick Johnson KC fod Ms Letby yn "bresenoldeb maleisus cyson" yn yr uned.

Roedd yr uned i fabanod newydd-anedig wedi nodi cynnydd sylweddol yn nifer y babanod oedd yn marw neu 芒'u cyflwr yn dirywio'n sydyn a heb esboniad, meddai.

Dywedodd nad oedd nifer o'r babanod hyn yn ymateb fel y disgwyl i driniaethau ac fe gafodd ymchwiliad mewnol ei gynnal.

Pan fethodd yr ymchwiliad ddod i gasgliad gydag esboniad meddygol, fe gafodd yr heddlu eu galw.

Ffynhonnell y llun, ELIZABETH COOK/PA WIRE

Disgrifiad o'r llun, Fe ymddangosodd Lucy Letby yn Llys y Goron Manceinion ddydd Llun

Yn 么l bargyfreithiwr yr erlyniad: "Roedd un peth yn gyffredin rhwng yr holl achosion - presenoldeb Lucy Letby.

"Fe ddigwyddodd nifer o'r achosion hyn yn ystod y nos," meddai. "Pan gafodd y diffynnydd ei symud o shifftiau nos yn yr ysbyty i shifftiau dydd, fe ddechreuodd yr achosion godi yn y dydd."

Canlyniad ymchwiliad yr heddlu oedd bod rhywun yn ystod y cyfnod dan sylw wedi gwenwyno dau o fabanod gydag inswlin.

'Nid trasied茂au naturiol'

Dywedodd yr erlyniad nad "trasied茂au ddigwyddodd yn naturiol" oedd gwaeledd a marowlaeth yr 17 plentyn.

Roedd rhai o'r babanod wedi eu chwistrellu gydag aer, neu wedi cael eu bwydo gyda gormod o lefrith, meddai.

Ond "yr un person cyson pan ddigwyddodd yr ymosodiadau oedd Lucy Letby".

Ar rai adegau, honnodd Mr Johnson, roedd Lucy Letby wedi ceisio llofruddio'r un babi fwy nag unwaith: "Weithiau fyddai babi y llwyddodd hi i'w ladd ddim yn marw'r tro cyntaf, na hyd yn oed yr eildro, ac mewn un achos hyd yn oed y trydydd tro."

Ffynhonnell y llun, Dennis Turner/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Roedd Lucy Letby yn gweithio yn adran babanod newydd-anedig Ysbyty Iarlles Caer

Gan drafod achos plentyn A, y cyntaf i gael ei lofruddio ar 8 Mehefin 2015, dywedodd Mr Johnson ei fod wedi ei eni'n gynamserol ar 么l 31 wythnos ac wedi ei roi yn ystafell gofal dwys yr uned babanod newydd-anedig yn yr ysbyty.

Roedd yn gwneud yn dda ac erbyn y bore yn anadlu heb gymorth ac yn cael ei fwydo, meddai.

Cafodd ei roi yng ngofal Lucy Letby am 20:00 ar 么l iddi ddechrau'r shifft hwyr, ond am 20:26 fe alwodd ar feddyg i ddod i archwilio'r babi, a chafodd ymgynghorydd ei alw hefyd.

'Lliw od' ar groen babi

Sylwodd y ddau ar "liw od" ar groen y plentyn, ddaeth yn "nodweddiadol" o rai o'r achosion ble yr honnir i'r diffynydd chwistrellu aer i waed y dioddefwr.

Er gwaethaf ymdrechion i'w adfer bu farw plentyn A am 20:58, awr a hanner ar 么l i Ms Letby ddod ar ddyletswydd.

Dywedodd yr erlyniad fod yr achosion hyn, ynghyd 芒 gweddill yr achosion wedi eu cyflawni gan Lucy Letby "yn bwrpasol a heb ddamwain".

Mae Ms Letby yn gwadu 22 o gyhuddiadau o lofruddio a cheisio llofruddio babanod rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Mae disgwyl i'r achos barhau am oddeutu chwe mis.