大象传媒

Ffafrio Efa Gruffudd Jones fel Comisiynydd y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, 大象传媒/MARIAN IFANS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Efa Gruffudd Jones yn brif weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers 2015

Efa Gruffudd Jones yw'r ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer r么l Comisiynydd y Gymraeg.

Wedi marwolaeth y cyn-gomisiynydd, Aled Roberts fis Chwefror, ei ddirprwy, Gwenith Price, sydd wedi ymgymryd 芒 dyletswyddau'r r么l.

Mae Efa Gruffudd Jones yn dweud mai ei chymhelliant dros wneud cais i fod yn Gomisiynydd y Gymraeg oedd ei bod "am weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru, yn iaith y mae pobl yn mwynhau ei defnyddio ac yn gallu ei defnyddio yn ddi-rwystr bob dydd".

"Rwyf yn ffodus fy mod oherwydd fy amgylchiadau teuluol a'm gwaith yn gallu byw trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifddinas Cymru, ond gwn nad pawb sy'n cael yr un profiad.

"Mae gwarchod a datblygu cymunedau, gofodau, a chymdeithasau ble gall pobl siarad Cymraeg yn ddi-rwystr yn hanfodol i'w dyfodol bywiog hi. Dylai pobl ble bynnag y mae'n nhw'n byw yng Nghymru allu mwynhau siarad Cymraeg."

Dywed y byddai "am ystyried sut y gellir defnyddio pwerau a r么l y Comisiynydd orau er mwyn sicrhau bod gan fwy o bobl gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, a'n bod yn rhoi cyfleoedd ystyrlon, er enghraifft, i bobl ifanc sy'n dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau".

Ychwanegodd: "Rwyf o'r farn fod y Gymraeg yn drysor sy'n perthyn i bawb yng Nghymru. Fel pob trysor mae angen gofalu amdano.

"Ni fyddwn am ei weld mewn amgueddfa draddodiadol - ond hoffwn ei weld yn cael ei ddefnyddio a'i ddathlu."

Naw ymgeisydd

Derbyniwyd cyfanswm o naw cais am y r么l newydd ac fe gafodd pedwar ymgeisydd eu cyfweld ar 23 Medi.

Ystyriodd y panel cynghori ar asesu fod "un ymgeisydd penodiadwy", a "hoff ymgeisydd y Prif Weinidog [Mark Drakeford] a Gweinidog Addysg a'r Gymraeg [Jeremy Miles] yw Efa Gruffudd Jones".

Mae Ms Jones yn wreiddiol o Dreforys ac yn gweithio fel prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cyn hynny bu'n brif weithredwr ar Urdd Gobaith Cymru.

Ers 2018 mae hi wedi bod yn rhannu ei dyletswyddau yn y Ganolfan gyda'i r么l fel cadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr Theatr Genedlaethol Cymru.

Aelodaeth y panel cynghori ar asesu oedd:

  • Bethan Webb, dirprwy gyfarwyddwr y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

  • Craig Stephenson, uwch aelod annibynnol o'r panel

  • Rhian Huws-Williams, aelod annibynnol o'r panel

  • Heledd Fychan AS (ar 么l i Delyth Jewell AS dynnu'n 么l).

Beth sy'n digwydd nesaf?

Y cam nesaf fydd gwrandawiad cyn penodi o flaen pwyllgor diwylliant Senedd Cymru ddydd Iau.

Diben y sesiwn hon, medd y pwyllgor, yw "gwella tryloywder y broses o wneud penodiadau cyhoeddus a rhoi cyfle i'r ymgeisydd a ffefrir gael profiad o waith craffu seneddol a chyhoeddus. Bydd adroddiad ar y sesiwn yn cael ei anfon at y gweinidog sy'n gyfrifol am wneud y penodiad".

"Mater i'r gweinidog yw penderfynu a yw am dderbyn argymhellion y pwyllgor ynghylch penodiad ai peidio," esboniodd y pwyllgor.

Bydd y Comisiynydd yn cael ei benodi gan Brif Weinidog Cymru.

Penodiad saith mlynedd fydd hwn, ac ni fydd modd ymestyn y cyfnod. Mae'r cyflog tua 拢95,000.

Cyflawni

Dywed Efa Gruffudd Jones mai'r tri phrif beth y byddai am eu cyflawni yn y r么l yw:

1. "Byddwn am sicrhau bod defnydd o'r Gymraeg yn cynyddu o ganlyniad i fy ngwaith fel Comisiynydd y Gymraeg. Byddwn am sicrhau, nid yn unig bod mwy o wasanaethau Cymraeg ar gael o ganlyniad i'r broses o osod a monitro Safonau, ond bod defnydd cynyddol yn cael eu gwneud o'r gwasanaethau hynny wrth i'r gwasanaethau ddod yn fwy cyffredin a hygyrch i bobl."

2. "Byddwn am sicrhau bod y pwerau sydd gan Swyddfa'r Comisiynydd yn cael eu defnyddio i'w llawn botensial, gan sicrhau bod y gwaith o rheoleiddio sefydliadau sy'n dod o dan y drefn o osod Safonau'r Gymraeg yn cael ei wneud yn gadarn ond yn gymesur. Fy nod fyddai cynorthwyo sefydliadau i fod yn uchelgeisiol yn eu dehongliad o'r safonau, gan gynnig y gwasanaethau gorau posibl i'r cyhoedd trwy gyfrwng y Gymraeg."

3. "Byddwn am sicrhau bod y Comisiynydd yn chwarae ei rhan yn yr ymdrechion i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Gymraeg, gan gefnogi Strategaeth Cymraeg 2050 yn llawn, gan archwilio beth sy'n bosibl o ran cydweithio gydag eraill i sicrhau bod mwy o bobl yn mwynhau defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau cymdeithasol, gan gynnwys wrth ymwneud 芒'r celfyddydau a'r cyfryngau a thechnoleg. Nid iaith ymwneud 芒 sefydliadau cyhoeddus yn unig ddylai'r Gymraeg fod - ond iaith mwynhau a iaith hwyl."

45 o staff

Ers dod i rym yn 2012, bwriad r么l y Comisiynydd, sydd 芒 45 o staff, yw hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, gosod safonau ar sefydliadau a hybu statws swyddogol yr iaith.

Yn dilyn cyfnod Meri Huws fel deilydd cyntaf y swydd, penodwyd Aled Roberts ym mis Ebrill 2019.

Yn gyn-aelod Democratiaid Rhyddfrydol o'r Cynulliad, dywedodd Mr Roberts bod "hybu a hyrwyddo yn fwyfwy pwysig", yn ogystal 芒'r gwaith o reoleiddio.

Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth hirdymor, sef Cymraeg 2050. Mae'r strategaeth yn amlinellu'r uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.