Gallai 'miloedd ar filoedd' o swyddi gael eu colli - rhybudd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mark Drakeford: "Bydd toriad o 15% yn rhywbeth nas clywyd amdano yn nyddiau dyfnaf y cyni."

Gallai "miloedd ar filoedd" o swyddi gael eu colli yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru pe bai gweinidogion y DU yn gorfodi toriadau mawr ar gyllideb Llywodraeth Cymru, yn 么l y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Cyfeiriodd at rybudd melin drafod economaidd bod angen toriadau "mawr a phoenus" i wariant Llywodraeth y DU.

Dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) bod angen gostyngiadau o hyd at 拢60bn i fantoli'r cyfrifon.

Dywedodd Trysorlys y DU y byddai'n sicrhau cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau.

Mae disgwyl i'r Canghellor Kwasi Kwarteng gyhoeddi ei gynllun economaidd ddiwedd mis Hydref.

Mewn adroddiad newydd, amlinellodd yr IFS rai mesurau a allai helpu i gyflawni'r arbedion hynny - roedd un yn cynnwys torri cyllidebau adrannol, ac eithrio iechyd ac amddiffyn, 15%.

'Mor ddifrifol ag y gallaf'

Dywedodd Mr Drakeford wrth y Senedd ddydd Mawrth: "Bydd toriad o 15% i gyllideb Llywodraeth Cymru yn rhywbeth nas clywyd amdano yn nyddiau dyfnaf y cyni.

"Ac rwyf eisiau dweud, mor ddifrifol ag y gallaf heddiw, os ydym yn wynebu toriadau ar y raddfa honno, rydym yn s么n am filoedd ar filoedd o bobl yn colli eu swyddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, gyda'r holl effaith y bydd hynny'n ei chael ar bywydau'r bobl hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hynny."

Wrth ymateb i adroddiad yr IFS, dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Trwy doriadau treth a diwygiadau uchelgeisiol i'r ochr gyflenwi, bydd ein cynllun twf yn sbarduno twf hirdymor cynaliadwy, a fydd yn arwain at gyflogau uwch, mwy o gyfleoedd a chyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus."

"Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i gyfrifoldeb cyllidol a chael dyled yn disgyn fel cyfran o gynnyrch domestig gros (GDP) yn y tymor canolig," ychwanegon nhw.