Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Rhyddhad' Ceidwadwyr Cymreig dros ddewis Sunak fel arweinydd
Cymysg yw'r ymateb yng Nghymru wedi'r newydd mai Rishi Sunak fydd Prif Weinidog nesaf y DU.
Mr Sunak fydd yn olynu Liz Truss yn 10 Downing Street wedi i Penny Mordaunt dynnu'n ôl ar y funud olaf ddydd Llun o'r ras i arwain y Ceidwadwyr.
Mae Ceidwadwyr Cymreig amlwg wedi croesawu canlyniad yr ornest, gydag arweinydd y grŵp Ceidwadol yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, yn disgrifio Mr Sunak fel "cyfaill i Gymru".
Ond mae Llafur a Phlaid Cymru wedi beirniadu'r broses gan ddweud nad oes gan Mr Sunak fandad i fod yn Brif Weinidog.
'Mae e'n deall heriau pobl Cymru'
Dywedodd Andrew RT Davies bod Aelodau Seneddol y blaid yn San Steffan "wedi dangos yn glir eu ffydd yn Rishi Sunak i arwain y llywodraeth".
Dywedodd y bydd ASau Ceidwadol yn San Steffan "yn sylweddoli'r wir angen i ddod at ei gilydd" er budd pobl Cymru a'r DU yn wyneb heriau fel yr argyfwng costau byw a'r rhyfel yn Wcráin.
"Fel cyfaill i Gymru, mae Rishi'n deall yr heriau rydym yn eu hwynebu, gyda biliau ynni uchel, chwyddiant uchel a chyllidebau aelwydydd ar fin torri dan straen aruthrol.
"Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i fynd i'r afael â'r heriau yna.
"Dylid dathlu hefyd ein bod yn croesawu - yn ystod gŵyl Diwali, dim llai - Prif Weinidog Prydeinig-Asiaidd a Hindŵaidd cyntaf y DU."
Mewn sgwrs ar raglen Post Prynhawn ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru, dywedodd yr is-weinidog yn Swyddfa Cymru, David TC Davies, ei fod yn "hapus iawn bod ni wedi setlo'r cwestiwn" ac mai Mr Sunak yw'r person gorau i fynd i'r afael â'r heriau economaidd.
Ychwanegodd ei fod yn ffyddiog y gallai'r Prif Weinidog newydd sicrhau hyder y marchnadoedd ariannol ac uno'r blaid Geidwadol, ac mae'n galw ar gyd-aelodau i ymatal rhag ceisio "tanseilio" eu harweinydd diweddaraf.
'Llaw gadarn'
Yn ôl cyn Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, mae penodiad "clir a phendant" Mr Sunak "yn rhoi terfyn ar yr ansicrwydd gwleidyddol".
Ychwanegodd mewn neges ar-lein bod yna "heriau anferthol i ddod ond mae Rishi Sunak yn dod â chynllun clir a llaw gadarn".
Dywedodd cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Glyn Davies ei fod yn teimlo "rhyddhad ac yn falch mai Rishi Sunak sydd am arwain ein gwlad drwy'r misoedd anodd i ddod.
"Mae ganddo'r crebwyll a'r ddawn i fynd i'r afael â'r her orau."
"Dwi'n falch hefyd bod y penderfyniad wedi bod mor bendant. Er lles ein gwlad bydd ei fuddugoliaeth gynhwysol yn ei alluogi i ddechrau 'fory gyda chefnogaeth unedig fy mhlaid."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Mewn neges yn llongyfarch Mr Sunak, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fod "wir angen cyfnod o sefydlogrwydd a chydweithrediad er mwyn canolbwyntio ar yr heriau sy'n ein hwynebu".
Mynegodd obaith hefyd o allu cydweithio "i gefnogi pobl drwy'r cyfnod anodd hwn mewn ffordd nad oedd y ddau brif weinidog diwethaf yn caniatáu".
'Gwrth-ddemocrataidd'
Mae Mr Sunak wedi sicrhau'r arweinyddiaeth yn gyfan gwbl ar sail enwebiadau gan ei gyd-ASau Ceidwadol yn NhÅ·'r Cyffredin, heb hyd yn oed wynebu pleidlais o blith aelodau cyffredin y blaid.
"Mae natur wrth-ddemocrataidd system San Steffan wedi'i arddangos i'r byd," dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts.
"Nid oes gan Rishi Sunak unrhyw fandad etholiadol. Mae democratiaeth yn mynnu Etholiad Cyffredinol.
"Efallai y bydd coroni Rishi Sunak yn lleddfu'r marchnadoedd ariannol yn y tymor byr, ond mae'r blaid Dorïaidd yn dal wedi'i hollti i garfanau a fydd yn brwydro am reolaeth gyda phleidleisiau hollbwysig.
"Yn fwy sylfaenol, mae'r argyfwng cronig o gamddefnyddio democratiaeth heb ei ddatrys o hyd."
Ychwanegodd bod dim mandad gan Mr Sunak i weithredu'r "mesurau llymder y mae'n bwriadu eu cyflwyno ar ein gwasanaethau cyhoeddus, sydd eisoes yn agos at gwympo ar ôl 12 mlynedd o gamreoli gan y Ceidwadwyr. Ni bleidleisiodd Cymru dros hyn yn 2019."
Mae pobl Cymru, meddai, "yn haeddu cyfle i wrthod system bwdr San Steffan yn y blwch pleidleisio gydag etholiad cyffredinol".
'Y blaid ei hun yw'r broblem'
Mewn neges ar Twitter, ysgrifennodd llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur yn NhÅ·'r Cyffredin, Jo Stevens: "Ni bleidleisiodd neb dros hyn. Mae'n bryd am etholiad cyffredinol."
Galw am etholiad cyffredinol mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds hefyd.
Mae'r Ceidwadwyr, meddai, "wedi trin y DU fel maenoriaeth i gynnal brwydrau mewnol, ac o ganlyniad mae'r wlad wedi dioddef dro ar ôl tro.
"Mae'n amlwg nad unrhyw Brif Weinidog neu Weinidog unigol yw'r broblem ond y Blaid Geidwadol fel sefydliad, sy'n rhoi ei les ei hun uwchlaw lles y wlad, ac mae wedi ei rhannu'n fewnol gymaint does dim gobaith cael llywodraeth sy'n gweithredu'n dda.
"Mae'r cyhoedd wedi colli ffydd yn y Ceidwadwyr a does dim mandad i Sunak gan y bobl. 'Dan ni angen etholiad cyffredinol rŵan i'n cael ni allan o'r anhrefn barhaus yma a rhoi gobaith newydd i'r wlad."