Rishi Sunak yn wynebu 'tasg enfawr' wrth gymryd yr awenau

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Rishi Sunak yw'r prif weinidog ieuengaf ers dau ganrif, a'r cyntaf o dras Asiaidd Brydeinig

Mae Rishi Sunak wedi cydnabod fod "tasg enfawr" o'i flaen, a "phenderfyniadau anodd i ddod", yn ei araith gyntaf ers cael ei gadarnhau fel prif weinidog nesaf y DU.

Wrth olynu Liz Truss, Mr Sunak, 42, fydd y prif weinidog ieuengaf ar y wlad mewn dau ganrif, a'r cyntaf o dras Asiaidd Brydeinig.

Yn ei haraith olaf hi yn y swydd, mynnodd Ms Truss mai'r cynlluniau economaidd wnaeth arwain at ei chwymp oedd y trywydd iawn i'w gymryd.

Yn dilyn hynny fe deithiodd i Balas Buckingham i gynnig ei hymddiswyddiad i'r Brenin Charles, cyn i Mr Sunak dderbyn y gwahoddiad i ffurfio'r llywodraeth nesaf.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod yn gobeithio am "berthynas adeiladol" gyda Mr Sunak yn ei swydd newydd.

'Angen adfer hyder'

Bydd Mr Sunak nawr yn mynd ati i gadarnhau pwy fydd yn ei gabinet, wrth iddo fynd ati i ffurfio llywodraeth.

Wrth roi araith y tu allan i 10 Downing Street wedi iddo gael ei gadarnhau fel prif weinidog, dechreuodd Rishi Sunak wrth gyfeirio at yr "argyfwng economaidd dwys" oedd yn wynebu'r wlad.

Dywedodd fod hynny wedi dod o ganlyniad i sgil-effaith Covid a'r rhyfel yn Wcr谩in, ond bod hefyd angen iddo adfer hyder yn yr economi wedi'r ansicrwydd yn dilyn cyllideb fechan Liz Truss.

"Doedd hi ddim yn anghywir i fod eisiau annog twf yn y wlad hon," meddai Mr Sunak. "Ond cafodd rhai camgymeriadau eu gwneud.

"Dwi wedi cael fy ethol fel prif weinidog, yn rhannol, er mwyn trwsio'r rheiny."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Rishi Sunak ei wahodd yn ffurfiol ddydd Mawrth gan y Brenin Charles i ffurfio'r llywodraeth nesaf

Ychwanegodd fod "penderfyniadau anodd i ddod" ar yr economi, gan gyfeirio at ei record fel Canghellor yn ystod y pandemig, gan gynnwys y cynllun ffyrlo, fel tystiolaeth y byddai'n "helpu pobl".

"Byddaf yn uno'r genedl hon nid gyda geiriau, ond gyda gweithredoedd," meddai.

Talodd deyrnged hefyd i Boris Johnson "am ei lwyddiannau hynod fel prif weinidog", ond mynnodd fod mandad y Ceidwadwyr i lywodraethu yn dilyn etholiad cyffredinol 2019 "ddim yn berchen i un unigolyn, ond i bob un ohonom".

Roedd cydnabyddiaeth hefyd o'r "dasg enfawr" o'i flaen.

"Dwi'n cydnabod bod gen i waith i wneud i adfer hyder ar 么l popeth sydd wedi digwydd," meddai.

'Dyddiau gwell i ddod'

Ar 么l gwasanaethu am ddim ond 49 diwrnod, Liz Truss yw'r person sydd wedi treulio'r cyfnod byrraf erioed yn y swydd.

Wrth siarad fore Mawrth, dywedodd ei bod hi wedi bod yn "fraint o'r mwyaf" i fod yn brif weinidog ac arwain y wlad yn ystod cyfnod galaru'r Frenhines Elizabeth II, ac esgyniad y Brenin Charles.

Ychwanegodd bod ei llywodraeth wedi gweithredu'n "sydyn a phenderfynol" i helpu teuluoedd a busnesau gyda'u biliau ynni, "fel nad ydyn ni'n ddibynnol mwyach ar bwerau tramor maleisus".

"Nawr yn fwy nag erioed mae'n rhaid i ni gefnogi Wcr谩in," meddai.

"Mae'n rhaid i Wcr谩in lwyddo ac mae'n rhaid i ni barhau i gryfhau amddiffyniad ein cenedl ni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Liz Truss yn rhoi ei haraith olaf y tu allan i 10 Downing Street, wrth i'w theulu wylio

Er bod ei chwymp wedi dod yn bennaf oherwydd yr ymateb gwleidyddol ac ariannol i'w chyllideb fechan hi a Kwasi Kwarteng, wnaeth hi ddim ymddiheuro am hynny, a mynnodd y dylai Prydain barhau i geisio dilyn trywydd o fod yn wlad o drethi isel.

"Mae angen i ni fanteisio ar y rhyddid sy'n dod o Brexit i wneud pethau'n wahanol," meddai, gan ddweud bod angen i arweinwyr wneud penderfyniadau "dewr".

"Mae hyn yn golygu rhoi mwy o ryddid i'n dinasyddion ein hunain ac adfer grym i'n sefydliadau democrataidd.

"Mae'n golygu lleihau trethi fel bod pobl yn cadw mwy o'r arian maen nhw'n ei ennill. Ac mae'n golygu creu twf fydd yn arwain at fwy o sicrwydd gwaith, cyflogau uwch a mwy o gyfleoedd i'n plant, a'u plant nhw."

Gorffennodd ei haraith gan ddymuno "pob llwyddiant" i Rishi Sunak, gan ychwanegu bod "dyddiau gwell i ddod" i bobl Prydain.

'Angen parch at ddatganoli'

Wrth ymateb i benodiad Rishi Sunak dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod am weld "perthynas adeiladol" gydag ef.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai'n cymryd y cyfle i annog Mr Sunak i beidio 芒 chyflwyno "dos arall o lymder Tor茂aidd", pan fydd yn derbyn yr alwad gyntaf gan brif weinidog newydd y DU.

Ni wnaeth Liz Truss gysylltu gyda Mr Drakeford unwaith yn ei chwe wythnos yn y swydd.

Ond wrth siarad yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn gobeithio y bydd Mr Sunak "yn mynd ati'n wahanol gyda'r llywodraethau datganoledig".

Ychwanegodd y byddai'n trafod yr economi, dyfodol gweithfeydd dur Tata, a dyfodol y DU, pan fydd y ddau'n cael y cyfle i siarad.

"Llywodraeth Cymru yw'r unig lywodraeth arall llwyr unoliaethol y bydd e'n cysylltu 芒 nhw, ac rydw i eisiau gweithio gyda fe ar gyfer dyfodol llewyrchus i'r Deyrnas Unedig," meddai.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Craig Williams AS fod Rishi Sunak, fel Mark Drakeford, yn "ddyn da" fyddai'n gweithio "er budd y genedl"

Wrth siarad ar 大象传媒 Radio Wales ddydd Mawrth dywedodd yr AS Ceidwadol Craig Williams, sydd wedi gweithio'n agos 芒 Mr Sunak yn y gorffennol, y byddai'r ddau brif weinidog yn cydweithio "er budd y genedl".

Ychwanegodd fod Mr Sunak a Mark Drakeford yn "bobl dda" a bod angen "perthynas barchus ac aeddfed iawn" rhyngddynt.

"Mae Rishi Sunak yn dod yn brif weinidog ar Gymru yn ogystal 芒 Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon heddiw," meddai Mr Williams wrth siarad ar 大象传媒 Radio Wales.

"Felly mae angen i ni weithio'n agos iawn gyda'n gilydd, a rhoi'r ego ac ideoleg gwleidyddol i un ochr."

Mewn cynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans ei bod hi'n gobeithio y bydd Mr Sunak yn cysylltu 芒 Mr Drakeford "mor fuan 芒 phosib".

"Dwi'n meddwl bod hynny'n dangos awydd i gydweithio ar gyfer pobl," meddai, gan ychwanegu y byddai hynny hefyd yn "dangos parch at ddatganoli a llywodraethau datganoledig" y DU.