大象传媒

Gwaharddiad pibellau d诺r yn y de-orllewin yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Cronfa Dd诺r Llys-y-fr芒nFfynhonnell y llun, D诺r Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae lefelau Cronfa Dd诺r Llys-y-fr芒n ger Hwlffordd bellach wedi adfer yn ddigonol i godi'r gwaharddiad

Mae D诺r Cymru wedi cadarnhau fod y gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dyfrio yn y de-orllewin wedi dod i ben, dros ddeufis ar 么l iddo ddod i rym.

Fe ddaeth y gwaharddiad ar y defnydd o bibellau d诺r i rym yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin ar 19 Awst.

Daeth hynny yn dilyn cyfnod hir o dywydd sych, a olygodd fod lefelau Cronfa Dd诺r Llys-y-fr芒n ger Hwlffordd wedi disgyn yn llawer is na'r arfer.

Dyma oedd y gwaharddiad cyntaf o'r fath yng Nghymru ers dros 30 mlynedd, ac roedd pobl yn wynebu dirwy o 拢1,000 am dorri'r rheolau.

'Pwysig parhau i osgoi gwastraffu'

Ond mae D诺r Cymru wedi cyhoeddi fore Mawrth fod y gwaharddiad wedi'i godi, ac y bydd hynny'n digwydd ar unwaith.

Er yn codi'r gwaharddiad, mae D诺r Cymru yn dweud ei bod yn bwysig parhau i osgoi gwastraffu d诺r er mwyn i gronfeydd ledled Cymru ail-lenwi dros y gaeaf.

Ffynhonnell y llun, D诺r Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y gwaharddiad wedi bod mewn grym ar gyfer y mwyafrif o Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin

"Er bod glaw'n disgyn nawr, ac yn helpu rhai cronfeydd fel Llys-y-fr芒n, nid yw'r glaw'n ddigon trwm nac yn para'n ddigon hir i gael effaith sylweddol ar lefelau'r holl gronfeydd," meddai'r cwmni.

"Mae hyn yn arbennig o wir am y cronfeydd yn y de-ddwyrain, lle mae'r lefelau mewn rhai cronfeydd yn parhau i ddisgyn.

"Heb unrhyw law o bwys yn y rhagolygon, mae angen ychydig bach o gymorth ychwanegol ar y cronfeydd i sicrhau eu bod yn llenwi'n ddigonol ar gyfer yr haf nesaf."

Ychwanegodd D诺r Cymru ei fod yn diolch i'w cwsmeriaid yn y de-orllewin am "sicrhau bod modd cadw'r d诺r yn llifo i'n cwsmeriaid yno trwy gydol yr haf".

Pynciau cysylltiedig