'Creisis' staff gofal yn rhoi pwysau 'ar bawb'

  • Awdur, Ellis Roberts
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae cartref i'r henoed wedi disgrifio sut y daethon nhw drwy "greisis" prinder staff yn y gwanwyn, wrth i rybuddion cyson am brinder gweithwyr yn y maes gofal barhau.

Mae profiad Cartref Glyn Nest yng Nghastellnewydd Emlyn yn ategu rhybudd gan Arolygiaeth Gofal Cymru fod gwaith recriwtio "mewn argyfwng".

"'N么l ym mis Mawrth bwron ni greisis a bod yn onest i chi o ran staffio," meddai Jayne Evans, rheolwraig Cartref Glyn Nest, wrth Newyddion S4C.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod ymgyrch i ddenu gweithwyr eisoes wedi'i chynnal dros fisoedd yr haf.

Disgrifiad o'r llun, Gyda staff yn gweithio oriau ychwanegol, "roedd y pwysau'n eitha' mawr ar bawb" meddai Jayne Evans

Mae'r diffyg gweithwyr wedi achosi straen ychwanegol ar y staff sydd ganddi yn y cartref, meddai Ms Evans.

"Mi fuon ni'n dibynnu yn ddiogel ar agency staff oedd yn costu lot i ni... Mi fuon ni'n defnyddio nhw am dros flwyddyn.

"Ond mi wnaethon ni recruitment drive ac erbyn heddiw mae'r cartre' n么l 芒 lefel y staff fel dyle fe fod.

"Oedd gobaith 'da fi bod pethe'n mynd i wella... ond roedd hi'n o ddiflas.

"Roedd staff yn gweithio oriau ychwanegol, roedd y pwysau'n eitha' mawr ar bawb, ond y'n ni dal ma, a byddwn ni ma still."

Yn 么l adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru, does dim byd anarferol ym mhrofiadau Cartref Glyn Nest.

Yn ei hadroddiad blynyddol mae'r Prif Arolygydd, Gillian Baranski yn dweud bod "gwaith recriwtio a chadw gweithlu ym maes gofal cymdeithasol mewn argyfwng".

Mae'n ychwanegu: "Os na roddir sylw i hyn ar lefel genedlaethol, bydd awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol mewn perygl o beidio 芒 chyflawni eu dyletswyddau statudol a rheoleiddiol."

Swydd galed sydd 'ddim i bawb'

Uwch-ofalwraig Glyn Nest ydy Meinir Williams, sy'n pwysleisio bod y gwaith yno'n bell o fod yn hawdd.

"Chi'n siarad, gweithio yn y bore, gweithio yn y nos, penwythosau chi'n gwbod, mae'n ddiwrnod mawr i ferched neu ddynion sydd mo'yn gweithio i roi bywyd teuluol hefyd i helpu hwnna...

Disgrifiad o'r llun, Mae gofalwyr fel Meinir Williams fel teulu i rai o'r preswylwyr yn y cartref

"Mae yn swydd galed, oherwydd dydd Nadolig ar agor fel pob diwrnod arall felly mae yn swydd galed i 'neud a dydy hi ddim i bawb i 'neud y swydd yna."

Mae'n dweud y gallai cynnig cyflog uwch fod o gymorth wrth ddenu gweithwyr newydd.

"O ran y cyflog... dyw hi ddim y cyflog gorau, i ddenu mwy o bobl, falle' rhoi bonws i rheiny sy'n gweithio penwythnose, mae fe'n galed yn gyfan gwbl yn dyfe.

"Chi'n iste' 'da nhw, chi'n deulu iddyn nhw oherwydd falle' mai dim ond chi sydd gyda nhw."

'So nhw'n cael eu talu digon'

Galw am well cyflog i'r gofalwyr mae un o breswylwyr y cartref hefyd, Dai Harris - sy'n treulio cyfnod yno gan obeithio dychwelyd adref ar 么l cryfhau.

"Sa' i'n synnu... so nhw'n cael eu talu digon... mae isio' mwy o arian arnyn nhw.

"Maen nhw'n sbesial 'ma, arbennig... yli hon fan hyn," wrth i Meinir ei hebrwng yn 么l i'w gadair.

Disgrifiad o'r llun, Mae gofalwyr fel Meinir Williams yn "sbesial", meddai Dai Harris sy'n byw yn y cartref

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bu ymgyrch recriwtio dwys dros fisoedd yr haf, ac mae gweithwyr gofal yn cael y cyflog byw.

Dywedodd llefarydd: "Fe gynhalion ni ymgyrch recriwtio dwys dros yr haf i ddenu pobl i'r maes gofal ac rydym wedi buddsoddi'n sylweddol i gefnogi recriwtio a chadw staff.

"Rydym wedi cyflwyno'r cyflog byw i weithwyr gofal gan sicrhau bod 拢43m ar gael eleni ac mi fyddwn ni'n dal i weithio gyda'r sector i wella amodau ac amgylchiadau.

"Mae pob bwrdd iechyd wedi ymrwymo i weithio gyda'r cynghorau lleol a phartneriaid eraill i ddarparu rhagor o welyau yn y gymuned... i wella'r llif drwy'r system iechyd a gofal.

"Bydd y newidiadau'n fodd i bobl ddychwelyd adref neu i'w cymunedau pan fyddan nhw'n barod a gwella gofal yn y rhannau eraill o'r maes gofal brys."

Mae Cartref Glyn Nest wedi bod yn cynnig gofal ers dros hanner canrif ers iddo agor ym 1970.

Maen nhw'n dal i chwilio am ragor o weithwyr, ac mae arwydd yn yr ardd flaen yn dweud yn glir "Recriwtio Nawr".

"Mae recriwtio wedi bod dros y blyndde'... nag e dim ond nawr," meddai Jayne Evans.

"Dyw'r cyflog ddim yn arbennig o dda yn dyfe... ond mae rhaid i chi falansio'r llyfrau be' sy' 'da chi'n dod mewn a beth 'ych chi'n gallu hala yndyfe, ond mae recriwtio'n broblem fawr."