Hanes coll argae Llyn y Fan Fach

Ffynhonnell y llun, Cadw

Disgrifiad o'r llun, Argae Llyn y Fan Fach

"Bydd rhestru Llyn y Fan Fach yn sicrhau y bydd ei etifeddiaeth hanesyddol yn cael ei chadw'n fyw ac fe gofir amdano am genedlaethau i ddod."

Mae Cadw wedi cyhoeddi bod argae Llyn y Fan Fach yn y Bannau Brycheiniog bellach 芒 statws rhestredig Gradd ll.

Er nad yw hanes yr argae yn un adnabyddus iawn heddiw mae hi'n hynod arwyddocaol yn ardal Sir Gaerfyrddin ac yn dweud darn o stori bwysig gwrthwynebwyr cydwybodol y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd y diwydiant tunplat yn ffynnu yn Llanelli ar ddiwedd y 19eg ganrif ac o ganlyniad cyrhaeddodd bwynt ble roedd prinder d诺r ar gyfer y dref, y ffatr茂oedd a'i phobl.

Ffynhonnell y llun, Cadw

Disgrifiad o'r llun, Gweithwyr yn yr argae - roedd poblogaeth Llanelli wedi codi 34% rhwng 1901 a 1911

Roedd hi'n fater brys, ac o ganlyniad daeth gweithlu arbenigol o 175 o Wyddelod i ddechrau ar y gwaith o greu argae yno yn 1912.

Gan ymestyn 300m uwch lefel y m么r, dechreuodd y gwaith peirianyddol drawsnewid y llyn yn gronfa dd诺r a gosodwyd pibell i gludo d诺r 25 milltir i Lan-on a Llanelli.

Llyn y Fan Fach yn Llanddeusant, lleoliad hen chwedl Gymreig am 'Forwyn y Llyn', oedd cyflenwad d诺r newydd i dref Llanelli.

Ond daeth y gwaith i ben yn sydyn iawn. Gydag Ewrop yn paratoi at ryfel byd, byr iawn oedd cyfnod y gweithwyr yno a bu'n rhaid rhoi gorau i'r adeiladu.

Ffynhonnell y llun, Cadw

Disgrifiad o'r llun, Cartref y gweithwyr

Wedi i'r rhyfel ddechrau mi fethodd Cyngor Llanelli 芒 sicrhau carcharorion rhyfel i gwblhau'r gwaith peirianyddol - gan adael yr argae yn anghyflawn.

'Parhau i rannu ei stori'

Ond mae cyfraniad gr诺p o wrthwynebwyr cydwybodol y Rhyfel Byd Cyntaf yn chwarae rhan allweddol yn y stori.

Gyda'r argae yn sych daeth Llanddeusant yn gartref i gannoedd o wrthwynebwyr cydwybodol, yn bennaf dynion o ogledd-orllewin a chanolbarth Lloegr. Yn sgil eu gwaith diflino, llwyddwyd i gwblhau'r argae a thrawsnewid y llyn, o'r diwedd, yn gronfa dd诺r oedd fawr ei hangen ar Sir Gaerfyrddin.

Ffynhonnell y llun, Richard Hayman

Disgrifiad o'r llun, Yr argae heddiw

"Mae'r gronfa dd诺r yn enghraifft anarferol a phrin o gyfraniad ehangach y Gwrthwynebwyr at waith sy'n bwysig yn genedlaethol, ond nid yn ymwneud 芒 rhyfel," meddai Gwilym Hughes, pennaeth Cadw.

Roedd yr amodau ar gyfer y gwaith peirianneg ar y mynydd yn heriol iawn, a bu'n rhaid i'r gweithwyr gwblhau'r gwaith tir mewn tywydd garw a gweithio oriau hir.

Ond erbyn 1919 roedd digon o dd诺r bellach ar gael i bobl Llanelli.

Ffynhonnell y llun, Richard Hayman

Disgrifiad o'r llun, D诺r y llyn yn llifo lawr i'r i'r argae

"Rydym yn falch y byddwn nawr yn gallu diogelu Llyn y Fan Fach a pharhau i rannu ei stori," meddai Gwilym Hughes.

Hefyd o ddiddordeb: