Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bwlch ariannol 'argyfyngus' o 拢53m i Gyngor Caerdydd
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio fod cynghorau'n wynebu "sefyllfa argyfyngus" yn sgil chwyddiant a'r galw cynyddol am wasanaethau.
Yn 么l y Cynghorydd Huw Thomas, mae cyngor y brifddinas yn wynebu bwlch ariannol o 拢53m - y mwyaf yn ei hanes.
Dywedodd, hyd yn oed pe bai'r cyngor yn cau pob parc a llyfrgell a rhoi'r gorau i gasglu sbwriel yn llwyr, ni fyddai hynny'n ddigon i wneud yr arbedion sydd eu hangen.
Mae'r cyngor yn wynebu bil o 拢15m yn ychwanegol ar ynni yn unig, meddai.
Daw wrth i adroddiad gan undeb Unsain ddweud y bydd angen i gynghorau yng Nghymru arbed dros 拢200m yn y flwyddyn ariannol nesaf wrth i'r argyfwng costau byw ddwysau.
Cyngor Caerdydd - sy'n cael ei redeg gan y blaid Lafur - sy'n wynebu'r bwlch ariannol mwyaf o bell ffordd o ran cynghorau Cymru.
'Sefyllfa anghredadwy'
Mae Cyngor Sir G芒r eisoes wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i gynghorau ystyried cwtogi gwasanaethau os yw'r sefyllfa economaidd yn gwaethygu.
Dywedodd y cyngor hwnnw wrth 大象传媒 Cymru fis diwethaf eu bod nhw angen dod o hyd i arbedion o hyd at 拢22m.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru fore Iau, dywedodd y Cynghorydd Thomas ei bod yn "sefyllfa anghredadwy".
"Oherwydd pwysau chwyddiant a'r pwysau yn y galw am ein gwasanaethau ry'n ni'n wynebu bil yn y flwyddyn ariannol nesa o 拢15m ychwanegol mewn costau ynni yn unig.
"Wedyn mae'r pwysau o gyflog teg i'n staff ac yna disgwyl cynnydd yn y galw am ein gwasanaethau cymdeithasol i'r henoed i godi i 拢9m.
"Ry'n ni wedi gweld y galw'n dyblu am wasanaethau'r cyngor o ran arian a gwaith dros yr haf yn unig, felly mae'n sefyllfa argyfyngus i gynghorau ledled Cymru.
"Rhyw 拢53m yw'r bwlch ry'n ni'n disgwyl yng Nghaerdydd am y flwyddyn nesa - y gap mwyaf mae'r cyngor wedi ei wynebu mewn hanes."
'Ergyd ysgytwol i gymunedau'
Fis Hydref rhybuddiodd un cynghorydd sy'n gyfrifol am gyllid ar gyngor yn y gogledd bod posibilrwydd o awdurdodau'n mynd yn fethdalwyr.
Yn 么l y Cynghorydd Mike Priestley o Gyngor Sir Conwy maen nhw'n wynebu diffyg o "o leiaf 拢20m" y flwyddyn nesaf.
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Thomas, yn rhybuddio na fyddai torri sawl gwasanaeth yn llwyr yn ddigon i gau'r bwlch ariannol maen nhw'n ei wynebu.
"Os awn ni 'n么l i lymder fel y gwelon ni 10 mlynedd yn 么l, yna dyw'r economi ddim yn mynd i dyfu a bydd cymunedau megis Caerdydd yn derbyn ergyd ysgytwol," meddai.
"Er na fydden ni'n gwneud hyn, fe allwn ni gau pob parc yn y brifddinas, cau pob llyfrgell a stopio casglu biniau yn gyfan gwbl, a byddai yna dal gap i'w lenwi.
"Dyna faint y wasgfa mae gwasanaethau lleol yn ei wynebu."
Llywodraeth Cymru'n wynebu'r un heriau
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod fod chwyddiant a chostau ynni wedi rhoi pwysau ar gyllidebau cynghorau lleol, ond yn pwysleisio fod y llywodraeth hefyd yn wynebu'r un pwysau.
"Rydyn ni hefyd yn wynebu heriau ariannol gwirioneddol oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig," meddai llefarydd fis diwethaf.
"Mae ein cyllideb werth 拢4bn yn llai dros y cyfnod gwario tair blynedd hwn, oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth 大象传媒 Cymru ychydig wythnosau yn 么l fod angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i 拢207m yn ychwanegol i dalu am gostau ynni y gwasanaeth iechyd y gaeaf hwn.
Yn 么l Eluned Morgan mae'r costau ynni yn sylweddol uwch na'r 拢170m y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu i fynd i'r afael 芒'r rhestrau hir o gleifion sy'n aros am driniaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Trysorlys Llywodraeth y DU: "Rydym wedi ymrwymo i dyfu'r economi ledled y DU drwy ein cynllun twf, a fydd yn caniat谩u inni ariannu a buddsoddi'n briodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
"Mae'r cyfrifoldeb am ariannu gwasanaethau cyhoeddus wedi'i ddatganoli i raddau helaeth ar draws y DU, ond rydyn ni wedi rhoi'r swm uchaf erioed o 拢18bn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru am y tair blynedd nesaf - y setliad adolygiad gwariant uchaf ers datganoli."