Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ansicrwydd rhai ffoaduriaid o Wcr谩in wedi chwe mis o loches
Pan ddaeth Valeriya, Emad a'u dau fab i Gymru am loches rhag taflegrau Rwsia, roedd y teulu Groves yn fwy na hapus i gynnig llety.
Ond misoedd ar 么l dianc o'r rhyfel yn Wcr谩in, roedd y teulu Sloz yn dymuno cartref eu hunain, a dyna pryd y dechreuodd pethau gymhlethu.
Roedd gofyn yn wreiddiol i noddwyr roi to dros bennau'r ffoaduriaid am chwe mis, ond mae'r hyn sy'n digwydd ar 么l hynny'n ansicr.
Yr unig ffordd y cafodd teulu Valeriya gartref parhaol oedd trwy gytundeb eu noddwyr i fod yn warantwyr.
Roedd y teulu Groves wedi cynnig i Valeriya, Emad, a'u meibion Milan,12, ac Adam, sy'n bump oed, aros gyda nhw yn Sir Benfro cyn hired ag sydd angen.
Mae Valeriya'n cyfeirio atyn nhw fel "ail deulu" sydd wedi dangos "gwir gariad" atyn nhw wedi iddyn nhw gyrraedd o brif ddinas Wcr谩in, Kyiv.
Ond wedi pum mis, roedd y teulu Sloz yn dymuno lle eu hunain ac ychydig o annibyniaeth.
"Hyd yn oed os y'ch chi'n caru rhywun, neu bod ganddoch chi deulu, mae angen i chi ddod o hyd i ffordd eich hunain," meddai Valeriya wrth raglen Wales Live 大象传媒 Cymru.
"Dyw e ddim yn newid dim byd rhyngddon ni, ond fe allaf ddechrau ar fy ffordd fy hun, fy ngwaith, a dwi'n angen perchnogi fy mywyd. Dwi'n hoffi cymryd cyfrifoldeb."
Ond gyda galw "enfawr" am dai cymdeithasol yng Nghymru, a'r ffaith nad yw ceisiadau gan ffoaduriaid o Wcr谩in am gartrefi'n cael ei cyflymu, mae yna her yn achos teuluoedd sy'n gadael eu noddwyr.
O'r dros 130,000 o ffoaduriaid Wcreinaidd yn y DU, mae bron i 30,000 wedi bod yma am chwe mis - y cyfnod y gofynnwyd i noddwyr ddarparu llety yn wreiddiol.
Mae gan Valeriya swydd fel cyfieithydd, ac mae Emad yn gweithio fel cogydd, ond mae dod o hyd o le i'w rentu wedi profi'n anodd.
Yn niffyg statws credyd yn y DU, yr unig ffordd iddyn nhw gael cartref yng Nghaerdydd - 100 milltir o Sir Benfro, oedd i'r teulu Groves fod yn warantwyr.
Yn 么l Jane Groves, mae'u profiad nhw'n dangos pa mor "eithriadol o anodd" y gallai fod i ffoaduriaid o Wcr谩in ddod o hyd i gartref parhaol.
"Dwi'n credu bod hi'n mynd i fod yn ofnadwy i bawb," meddai.
"Dydw i ddim yn si诺r pam awgrymodd Cymru ddymuniad i fod yn uwch-noddwr pan nad oes digon o gartrefi a theuluoedd sydd fodlon cartrefu ffoaduriaid."
Nid oedd yn fwriad i'r noddwyr na chanolfannau croeso Llywodraeth Cymru fod yn opsiynau tymor hir.
Mae yna restrau aros hir am gartrefi cymdeithasol ac mae rhenti preifat tu hwnt i gyrraedd llawer.
Gyda'r rhyfel yn parhau yn Wcr谩in, mae dychwelyd i'w mamwlad yn amhosib i lawer ac mae'r dyfodol yn aneglur i'r teuluoedd yng Nghymru.
Yn 么l Llywodraeth y DU, fe gyrhaeddodd dros 100,000 o bobl dan y cynllun Cartrefi i Wcr谩in, ac mae "mwyafrif" y noddwyr yn barod i gynnig cartref wedi'r chwe mis cychwynnol.
Dywedodd llefarydd bod "gan bawb sy'n cyrraedd fynediad at gymorthdaliadau a chyfleoedd gwaith o'r diwrnod cyntaf" a'u bod yn gweithio gyda chynghorau i sicrhau bod Wcreniaid yn derbyn yr help angenrheidiol i sicrhau cartrefi.
Mae tua 6,000 o Wcreiniaid wedi dod i Gymru, ac yn cael eu noddi gan deuluoedd neu gan Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd llefarydd: "Mae gan gynghorau ddyletswydd i sicrhau nad yw teuluoedd yn cael eu gadael heb do dros eu pennau ac maen nhw'n derbyn cyllid y pen i dalu unrhyw gostau ychwanegol."
Her 'enfawr'
Mae arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn awgrymu bod tua chwarter y noddwyr wedi bwriadu gadael y cynllun wedi'r chwe mis cychwynnol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ragor o deuluoedd gynnig llety.
Yn 么l y corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol Cymru, sy'n wynebu'r dasg o gartrefu ffoaduriaid, mae'r galw am dai cymdeithasol yn "enfawr" a does neb yn cael ffafriaeth.
Gan ddiolch i'r noddwyr sydd wedi helpu ffoaduriaid, fe wnaeth llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru gydnabod nad yw cynnig lloches wedi'r chwe mis cyntaf "yn opsiwn i rai".
Dywedodd eu bod yn ceisio denu noddwyr newydd "i leihau'r pwysau ar gartrefi" ac yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant.
Maen nhw hefyd yn "ymrwymo i helpu pawb sydd angen cymorth" ar draws Cymru ac "wedi buddsoddi dros hanner biliwn o bunnau eleni mewn tai cymdeithasol a gwasanaethau cymorth tai".
Wales Live, 22:35 nos Fercher 9 Tachwedd ar 大象传媒 One Wales ac ar iPlayer