大象传媒

Clwb y Bont Pontypridd yn ailagor wedi difrod llifogydd

  • Cyhoeddwyd
Clwg y Bont, PontypriddFfynhonnell y llun, Clwb y Bont
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Clwb y Bont ei daro'n ddifrifol gan lifogydd yn dilyn Storm Dennis yn 2020

Mae clwb Cymraeg yn y cymoedd, gafodd ei ddifrodi'n sylweddol gan lifogydd yn 2020, yn ailagor ddydd Gwener.

Roedd Clwb y Bont ym Mhontypridd yn un o nifer o adeiladau ynghanol y dref ddioddefodd yn ystod Storm Dennis.

"Roedd 'na chwalfa lwyr yma," meddai cadeirydd y clwb, Guto Davies.

"Fe gymrodd hi fisoedd i ni ddod dros hynny a glanhau'r lle. Ond wedyn daeth pandemig Covid wrth gwrs, felly mae wedi bod yn un ergyd ar 么l y llall.

"Naethon ni agor yn rhannol, ond oedd 'na waith adeiladu ac adnewyddu oedd rhaid ei wneud, felly benderfynon ni dyna'r amser gorau i wneud e.

"Mae hwnna wedi'i gyflawni nawr, ac o'r diwedd 'yn ni'n barod i agor."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio'r wythnos hon i gael y clwb yn barod ar gyfer yr ailagoriad

Fe agorodd y clwb yn 1983, ac yn 么l un sydd wedi ymwneud 芒'r lle ers y blynyddoedd cynnar, mae wedi bod yn rhan allweddol o hybu Cymreictod yng nghymoedd y de.

"40 mlynedd yn 么l, ddo'th 'na ryw frwdfrydedd mawr i'r ardal yngl欧n 芒 hybu'r iaith," meddai Wil Morus Jones.

"Mi ddechreuodd C么r Godre'r Garth ychydig flynyddoedd cyn hynny, roedd yr ysgolion Cymraeg yn tyfu yn eitha' dramatig yr amser hynny, a chymaint o ddigwyddiadau a sefydliadau yn cael eu cychwyn yma.

"Mi fuon 'na s么n flynyddoedd cyn hynny am gael canolfan Gymraeg i Bontypridd, ac yn sydyn dyma un neu ddau o'r bobl allweddol yngl欧n 芒 busnes ac yn y blaen yn ffeindio adeilad ynghanol Pontypridd. Hen efail oedd hi, a dyna brynu hwnnw, ac wrth gwrs mae'r lle wedi ffynnu byth er hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Wil Morus Jones mae'r clwb wedi bod yn rhan allweddol o hybu Cymreictod yng nghymoedd y de

Mae'r clwb yn agor fore Gwener yng nghwmni AS Pontypridd, Mick Antoniw, ac mae cyfres o ddigwyddiadau - yn Gymraeg a Saesneg - wedi'u trefnu dros yr wythnosau nesa'.

"Mae cymaint o bobl wedi bod yn gofyn pryd 'yn ni'n agor a dweud eu bod nhw mor falch byddwn ni'n ailagor," meddai Guto Davies.

"Mae'n ganolfan i'r gymuned - yn ganolfan a bar, tafarn - sy'n hyrwyddo'r iaith Gymraeg a Chymreictod.

"Ond mae 'na gymaint mwy na hynny - mae'n ganolfan i grwpiau lleol... c么r cymunedol, cymdeithas hoyw Proud in Ponty, Cyfeillion y Ddaear, grwpiau ailgylchu."

Ffynhonnell y llun, Clwb y Bont
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tipyn o waith adeiladu ac adnewyddu wedi digwydd ar y safle yn ystod y pandemig

Fe fydd Clwb y Bont hefyd yn rhan o gynllun G诺yl Cymru sydd wedi'i threfnu gan y gymdeithas b锚l-droed i gyd-fynd ag ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar.

Mae Mr Davies yn edrych yn hyderus at y dyfodol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Guto Davies fod ailagor "fel dechreuad newydd i'r clwb"

"Byddwn ni'n dathlu 40 mlynedd blwyddyn nesa', ac mae fel dechreuad newydd i'r clwb," meddai.

"Byddwn ni'n dal 'mlaen at rai o draddodiadau'r gorffennol a chadw'r pwyslais ar y gymuned, ond mae'n ddechrau newydd hefyd ac mae'n rhaid i ni, mewn ffordd, ail-ddiffinio'n hunain.

"Mae'n rhyddhad enfawr. Mae gwaith caled iawn wedi bod yn digwydd - yr wythnos hon yn benodol - gyda llwyth o wirfoddolwyr o'r gymuned leol yn dod mewn, ac felly gobeithio bydd pawb yn dod mewn i fwynhau a chanu o amgylch y piano... a bydd Clwb y Bont ar agor unwaith eto."

Pynciau cysylltiedig