AS Arfon, Hywel Williams ddim yn sefyll yn yr etholiad nesaf

Ni fydd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Cafodd Mr Williams ei ethol gyntaf yn 2001 yn sedd Caernarfon, ac yna Arfon o 2010 ymlaen.

Mae wedi cadw'r sedd mewn chwe etholiad ers hynny.

Dywedodd wrth aelodau lleol y blaid ei bod yn "anrhydedd ac yn fraint" cynrychioli'r etholaeth yn San Steffan am dros 20 mlynedd.

'Diolch yn ddiffuant'

Mewn datganiad, dywedodd: "Ar 么l cryn feddwl a thrafod gyda fy nheulu rwyf wedi penderfynu peidio cynnig fy hun fel ymgeisydd i sefyll eto ar ran Plaid Cymru i fod yn Aelod Seneddol dros etholaeth Arfon.

"Bu gwasanaethu fel AS Caernarfon o 2001 ymlaen, gan ddilyn 么l troed Dafydd Wigley, un o gewri gwleidyddol Cymru, ac yna sefyll ac ennill sedd newydd Arfon yn 2010 yn fraint ryfeddol."

Diolchodd i'w deulu am eu "cefnogaeth a'u hamynedd", a chyd-aelodau Plaid Cymru, a dywedodd bod ei "ddyled yn fawr iawn" i'w staff.

Ychwanegodd: "Yn olaf, rwy'n diolch yn ddiffuant i bobl Dwyfor ac Arfon am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd ac yn gobeithio fy mod wedi talu yn 么l yn llawn am eu ffydd ynof."

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod Mr Williams wedi bod yn "ymgyrchydd diflino dros gyfiawnder cymdeithasol, gan roi llais i bobl fregus ac anabl".

"Bydd gr诺p Plaid Cymru San Steffan yn colli ei brofiad a'i ddoethineb - ond gwn y bydd ei gyfraniad gwerthfawr i'r Blaid yn parhau. Dymunaf y gorau iddo i'r dyfodol."