Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Marchnad tai rhent yng Nghaerdydd yn 'boncyrs'
- Awdur, Gareth Pennant
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Pan wnaeth y landlord godi rhent Martha Ifan a'i chariad o 拢950 i 拢1,300 y mis, fe ddaethon nhw i'r casgliad nad oedd hynny'n fforddiadwy.
Fe benderfynon nhw symud, a dyna pryd y sylweddolon nhw pa mor anodd oedd ffeindio lle i'w rentu yng Nghaerdydd.
Daw hynny wrth i un gwerthwr tai ddweud eu bod wedi derbyn 126 o ymholiadau am d欧 teras tair ystafell am 拢1,050 y mis - a bod hynny'n "eithaf cyffredin" yn y brifddinas.
Mae deddf newydd a fydd yn dod i rym yng Nghymru yn rhoi rhagor o hawliau i denantiaid, ond mae rhai yn ofni y bydd hi'n gwneud pethau'n fwy anodd i landlordiaid.
Beth ydy'r sefyllfa?
Mae ffigyrau gan y wefan eiddo Rightmove yn dangos bod costau rhentu yng Nghymru yn cynyddu'n gynt nag yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig tu allan i Lundain.
Mae un corff sy'n ymwneud 芒 thai yn dweud bod y pandemig a'r argyfwng costau byw wedi rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar farchnad rentu, ble roedd prinder eiddo yn barod.
Mae cyfraddau llog uchel, chwyddiant, diffyg tai a landlordiaid yn gwerthu oherwydd rheolau newydd yn cael eu cynnig fel rhesymau dros y galw a'r costau cynyddol yn y farchnad rentu.
Mae ffigyrau Rightmove hefyd yn dangos bod rhent am eiddo yng Nghaerdydd rhwng mis Gorffennaf a Medi eleni ar gyfartaledd yn 拢1,041, o'i gymharu 芒 拢870 yr un adeg y llynedd - cynnydd o 19.6%.
Yng Nghymru, mae'n awgrymu bod y gost am eiddo i'w rentu ar gyfartaledd yn 拢974 - 15% yn uwch na'r llynedd.
Ym mis Mai fe glywodd Martha a'i chariad bod eu rhent am gynyddu 拢350.
"Oedd e'n dipyn o sioc," meddai. "Fe wnaethon ni feddwl am y peth a doedden ni jyst methu fforddio talu gymaint 芒 hynny bob mis.
"Oedden ni'n goro' mynd ati wedyn ar bach o hast i ffeindio rhywle newydd a dyna pryd wnaethon ni ffeindio mas gymaint o her yw hi i ddod o hyd i rywle i fyw, i rentu yng Nghaerdydd."
Dywedodd bod y prisiau yn "silly o uchel" a bod ciw o bobl y tu allan i dai wrth iddyn nhw ymweld.
"Oedd e'n awyrgylch eithaf amhleserus," ychwanegodd.
Ar 么l tua wyth wythnos o chwilio fe gawson nhw le, ond mae eu profiad nhw yn gyffredin yn y brifddinas.
Mae'r cwmni gwerthu tai Jeffrey Ross wedi disgrifio marchnad rentu Caerdydd fel un "boncyrs".
Dywedodd Gwyn Davies, sy'n gweithio yn eu hadran rentu: "Mae gormod o bobl yn edrych a does dim digon o dai a flats iddyn nhw symud mewn i.
"Mae'n dda i landlords achos mae lot o bobl yn dangos diddordeb, ond pan mae'n dod i'r tenant sy'n edrych, ma' fe'n anodd i ni i ddangos y llefydd i bawb."
Mae'r gwerthwr tai yn dweud fod tua 100 o bobl yn gallu dangos diddordeb mewn eiddo yn y brifddinas, ac roedd yna 250 o ymholiadau ar gyfer un eiddo.
Pryder am fwy o ddigartrefedd
Mae deddf newydd a fydd yn dod i rym yng Nghymru yn rhoi rhagor o hawliau i denantiaid.
Ond mae rhai yn dadlau y bydd Deddf Rhentu Tai Cymru yn gwneud pethau'n anoddach ac yn fwy cymhleth i landlordiaid.
Mae rhai yn credu y bydd nifer yn gwerthu eu tai, gan olygu y bydd hyd yn oed llai o dai rhent ar gael.
Mae Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn dweud bod cost eiddo yn y sector rhentu preifat yn aml yn rhy uchel oherwydd y galw, a'r ffaith fod bod nifer yr eiddo sydd ar gael yn lleihau.
Dywedodd eu cyfarwyddwr, Matt Dicks: "Mae yna brinder sylweddol o dai ar rent sy'n rhai fforddiadwy a chymdeithasol hefyd, felly beth sy'n bryderus yw gallwn ni weld cynnydd yn nifer y digartref o ganlyniad.
"Dyma ganlyniad dim digon o dai cymdeithasol a fforddiadwy yn hanesyddol. Byddai mwy o dai fforddiadwy yn ein hynysu rhag tueddiadau anweladwy'r farchnad ry'n ni'n weld ar hyn o bryd.
"Ond roedd hynny yn wir am gyfnod hir cyn y pandemig a'r argyfwng costau byw. Mae'r ddau ddigwyddiad yma wedi darparu chwistrelliad o steroid i beth oedd yn barod yn brinder mawr o dai."
Un o'r prif resymau am y sefyllfa bresennol yw'r diffyg tai cymdeithasol - tai sy'n rhatach na'r rheiny sydd ar y farchnad agored. Mae 'na 89,000 o aelwydydd erbyn hyn ar y rhestr aros yn disgwyl am un.
"Oherwydd bod y prinder stoc tai yna mae'n rhaid i bobl ddibynnu ar y sector rhentu preifat," meddai Heddyr Gregory o elusen Shelter Cymru.
Mae hi'n dweud bod landlordiaid bellach yn dechrau gwerthu eu heiddo a bod yna "nifer o resymau" am hynny.
"Ry'n ni'n gwybod bod prisiau tai ar eu hucha' a bod darogan bod crash am ddigwydd, ac felly mae pobl eisiau gwerthu eu heiddo tra bod eu prisiau ar eu huchaf," meddai.
"Mae'r esgid fach yn gwasgu ar landlordiaid hefyd - mae'n rhaid i ni beidio anghofio hynny - oherwydd y cyfraddau llog uchel bellach ar forgeisi a nifer wedi cymryd benthyciadau prynu er mwyn rhentu.
"Dyw hynny ddim bellach yn fodel busnes cynaliadwy."