大象传媒

Y Gymraeg i'w chlywed yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y Gymraeg yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf

Mae Ben Davies wedi dweud ei fod yn deimlad "arbennig" i greu hanes drwy fod y person cyntaf i siarad Cymraeg mewn cynhadledd i'r wasg yng Nghwpan y Byd.

Dywedodd yr amddiffynnwr ei bod hi'n swr茅al gweld yr iaith yn cael ei defnyddio ar lwyfan y byd hefyd gan bobl fel cyn-seren Brasil, Cafu.

Ond mae'r sylw ychwanegol i Gymru fel gwlad, meddai, i gyd yn deillio o gael y chwaraewyr yn "gwneud pethau'n iawn ar y cae".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ian Gwyn Hughes a Ben Davies yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Sadwrn

Bydd Cymru'n herio'r UDA yn eu g锚m agoriadol ddydd Llun, gyda'r gic gyntaf am 19:00 ein hamser ni.

Fel un oedd yng ngharfan Cymru ar gyfer Euro 2016 ac Euro 2020, bydd Davies yn chwarae yn ei drydydd twrnament rhyngwladol eleni.

Yn Ffrainc roedd yn gyfrifol am un o eiliadau mwyaf tyngedfennol y t卯m yn yr ornest agoriadol, gan glirio'r b锚l oddi ar y linell yn y munudau cyntaf cyn i Gymru fynd ymlaen i guro Slofacia 2-1.

Mae'n gwybod cystal 芒 neb felly am yr angen i bwyllo a thawelu'r meddwl ar ddechrau achlysur mor fawr, rhywbeth y bydd yn rhaid gwneud unwaith eto nos Lun.

'G锚m gyntaf yn bwysig'

"Ni'n gwybod bod y g锚m gyntaf mor bwysig i sut fydd y gystadleuaeth yn mynd," meddai.

"Yn y 10, 15 munud cynta', jyst cadw'n eitha calm, ymlacio cymaint 芒 ni'n gallu, a codi mewn i'r g锚m fel ni'n mynd 'mlaen."

Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe siaradodd Ben Davies yn y Gymraeg yn unig yn y gynhadledd i'r wasg brynhawn Sadwrn

Cafodd Cymru g锚m gyfartal 0-0 y tro diwethaf iddyn nhw herio'r UDA yn 2020, yng ng锚m gyntaf Rob Page wrth y llyw.

Roedd Davies ar y fainc y noson honno wrth i rai o chwaraewyr ymylol y garfan gael eu dewis, ond mae'n gwybod y bydd yr ornest nesaf tipyn yn fwy heriol.

"Ni wedi 'neud lot o waith paratoi mas ar y cae ac ar fideo. Maen nhw'n d卯m da a bydd e'n g锚m anodd yn erbyn nhw."

Fideo Cafu'n 'class'!

Fe siaradodd Davies yn y Gymraeg yn unig yn y gynhadledd i'r wasg brynhawn Sadwrn, gan greu hanes ar lefel byd eang i'r iaith wedi i Gymdeithas B锚l-droed Cymru roi platfform tebyg iddi yn yr Ewros.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae un o'r adeiladau yn Doha 芒 llun mawr o Gareth Bale

"Mae'n deimlad ffantastig i fod yn rhan o'r garfan ac i gael y siawns i ddod 芒 Chymru i lefydd o gwmpas y byd, i wledydd sydd ddim wedi gweld ni'n chwarae o'r blaen," meddai.

"Mae'n deimlad sbesial iawn i fod yn rhan ohono.

"Dyna beth 'dyn ni'n ceisio 'neud, 'dyn ni'n ceisio dangos y pethau gorau am Gymru a bydd pawb yn gwisgo'r crys gyda lot o falchder."

Ffynhonnell y llun, @BudweiserUK
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cafu, cyn-seren Brasil, yn rhan o fideo gan Budweiser sy'n dymuno'n dda i Gymru

Yn ystod yr wythnos yn cynnwys cyn-seren Brasil, Cafu - a enillodd Gwpan y Byd yn 1994, ac yn 2002 fel capten.

Mae'n dechrau'r fideo drwy ddweud 'Cymru, croeso 'n么l', cyn disgrifio'r t卯m fel ysbrydoliaeth a gorffen gydag 'iechyd da'.

"O'n ni 'di gweld y fideo ddoe - ma' fe'n class," meddai Davies.

"Ma' fe jyst yn deimlad bach yn od i weld pobl fel Cafu yn gwisgo'r bucket hat a siarad bach o Gymraeg, ond mae'n dangos bod ni 'di 'neud pethau'n iawn ar y cae."