Beti a'i Phobol: Saith pwynt o sgwrs y cyn dditectif CID Iestyn Davies
- Cyhoeddwyd
O gyfnod Meibion Glyndŵr i rai o lofruddiaethau gwaethaf Cymru, mae'r cyn dditectif uwch arolygydd Iestyn Davies wedi bod yn rhannu ei atgofion o yrfa dros 30 mlynedd gyda'r heddlu.
Wedi gweithio ar achosion fel rhai'r llofrudd cyfresol Peter Moore a'r bensiynwraig Mabel Leyshon a laddwyd mewn ffordd erchyll yn ei chartref, mae Mr Davies wedi ymddeol erbyn hyn ac yn gweithio i gwmni sy'n cynnal cyrsiau i bobl sy'n cyflawni troseddau gyrru.
Dyma saith peth rydyn ni wedi ei ddysgu o'i gyfweliad gyda Beti George ar Beti a'i Phobol
1. Roedd gan ddynes glanhau yn Llangefni rôl mewn digwyddiad yn ystod ymgyrch Meibion Glyndŵr wnaeth arwain at wahodd heddlu cudd MI5 i'r ardal a charcharu dyn lleol.
Mae Iestyn Davies yn cofio cael ei stopio rhag mynd ar hyd ei ffordd arferol i'r swyddfa yn Llangefni un bore gan fod dyfais ffrwydrol wedi ei darganfod dan gar un o heddweision yr orsaf.
"[Roedd] plismon yn gweithio am chwech y bore wedi mynd at y car ac roedd 'na ryw ddynes oedd yn glanhau yn swyddfeydd y cyngor wedi dweud wrtha fo 'Ti 'di gadael dy focs sandwiches o dan y car' ond nid bocs sandwiches oedd o, ond dyfais wedi cael ei osod gen Meibion Glyndŵr."
Roedd hyn yn dangos "newid cyfeiriad i Meibion Glyndŵr yn y ffordd roedden nhw'n gweithredu yn erbyn yr heddlu... ond hefyd yn yr ymateb gen yr heddlu yma yn y gogledd a'r penderfyniad i gael help o Lundain gan MI5."
Daeth heddlu cudd i'r ardal i weithio ar yr achos ac arweiniodd hyn at achosion llys a charchariad yr unig berson sydd wedi ei gael yn euog yn ystod yr holl ymgyrch dai haf, Sion Aubrey Roberts.
2. Mae agwedd yr heddlu tuag at y Gymraeg wedi "trawsnewid" ers y 1990au diolch ibrif gwnstabl o Nottingham.
"Yn niwedd yr 1980au a'r 1990au doedd dim gymaint â hynny o ddefnydd o'r iaith o fewn yr heddlu - ond mi wnaeth pethau newid efo prif gwnstabl gwahanol yn dod fewn," meddai Iestyn Davies.
"Fe wnaeth Richard Brunstrom wirioneddol newid pethau efo'r iaith Gymraeg. 'Nath o ddod fewn, 'nath o addo bod o am ddysgu'r iaith a mi wnaeth o ddysgu, yn sydyn iawn hefyd, a gwneud yn siŵr bod popeth yn ddwyieithog ac yn y blaen.
"Mae'n bwysig iawn bod y cymunedau Cymraeg yma'n cael bob chwarae teg ac yn cael eu trin yn gyfartal â'r iaith Saesneg."
3. Does "dim dwywaith" y byddai Peter Moore wedi cario ymlaen i ladd pe bai heb gael ei ddal.
Cafodd Iestyn Davies ei brofiad cyntaf o bwysau sylw'r wasg pan oedd yn dditectif ifanc ar achos llofruddio'r ferch fach Sophie Hook yn Llandudno yn 1995 ond nid dyma'i brofiad olaf:
"Ar ôl ychydig o flynyddoedd wnaeth Peter Moore ladd pedwar o bobl yn y gogledd, y serial killer cyntaf imi ddod ar ei draws.
"Wnes i weithio ar yr achosion yn Sir Fôn a wedyn gafodd o ei ddal, yn ffodus, achos Duw a ŵyr, tasen ni ddim wedi ei ddal, fyse fo wedi cario ymlaen yn lladd, does dim dwywaith yn fy marn i."
4. Roedd Iestyn yn byw yn yr un pentref â Mabel Leyshon pan gafodd ei llofruddio mewn ffordd erchyll gan lanc lleol yn 2001.
"Gafodd Mabel Leyshon ei lladd ddim llawer mwy na ryw 500 llath o lle o'n i'n byw ar y pryd," meddai Iestyn Davies.
Roedd y bensiynwraig wedi cael ei lladd gan lanc 17 oed o'r pentref, Mathew Hardman, oedd ag obsesiwn gyda fampiraeth; roedd wedi tynnu ei chalon o'i chorff ar ôl ei thrywanu fwy na 20 o weithiau.
"O'n i'n gwybod y manylion am be' ddigwyddodd i Mabel Leyshon... ond nes i ddim hyd yn oed rhannu'r manylion efo Gwen [fy ngwraig].
"O'n i wastad yn dweud wrth Gwen am gloi y drws achos roedd y llofrudd allan yna, oedd o'n edrych yn debygol iawn bod y llofrudd yn byw yn y gymuned yn Llanfairpwll. Wedyn o'n i'n arfer dod adre ryw 11.00pm, hanner nos, ac oedd y drws ffrynt ar agor, heb ei gloi! Oni'n poeni mwy am y teulu nag oedden nhw amdana i.
"Nes i erioed ddelio efo achos mor greulon lle oedd 'na anafiadau mor erchyll a rhywun mewn oed wedi cael eu targedu gan rywun mor ifanc.
"Fi [ac un swyddog arall] oedd yn gyfrifol am holi Mathew Hardman dros dridiau yng Nghaernarfon; hogyn oedd ddim yn swil o gwbl, oedd yn ddigon bodlon i siarad efo ni ac ateb bob cwestiwn."
Daeth y dystiolaeth fforensig oedd yn gosod DNA Hardman yn y tÅ· yn oriau olaf yr holi gan sicrhau bod digon o dystiolaeth i'w gadw yn y ddalfa a'i gyhuddo.
5. Roedd Mr Davies yn gweithio ar ymchwiliad Heddlu'r Gogledd i waith "o natur tramgwyddus ac anweddus" a "gweithredoedd troseddol dros ben" a anfonwyd i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2015; roedd yn disgrifio plant yn cael eu cam-drin yn ôl un o'r beirniaid. Mae'r achos yn dal heb ei ddatrys.
"Oedd o'n gais gwahanol; erioed wedi cael cais o'r fath or blaen gan yr Eisteddfod ond yn bendant mi oedd staff yr Eisteddfod wedi eu synnu ar y ffasiwn waith gafodd ei anfon i mewn a phryderu pa fath o berson fyse'n sgwennu a trio cystadlu yn y gystadleuaeth efo'r ffasiwn iaith anweddus oedd yn dwyn pryder.
"Mi wnes i ymchwiliad digon cudd... ond rhywsut mi ddaeth y stori allan yn ystod yr eisteddfod.
"'Nathon ni byth ffeindio allan pwy wnaeth ond mi wnes i orfod sbio ar y dystiolaeth a darllen y llyfr yn ei gyfanrwydd. Mi oedd o'n warthus, fyswn i ddim isho trafod be' oedd yn y llyfr ond mi oedd o reit sâl…"
6. Mae'n difaru na fyddai wedi gofyn am help proffesiynolgydag un achos yn arbennig wnaeth effeithio arno.
Fe wnaeth achos lle cafodd dau frawd ifanc eu lladd mewn tân mewn tŷ effaith fawr ar Iestyn ac fe ddylai fod wedi gofyn am help, meddai.
"[Roedd] un o'r plant yn edrych fel y mab, Aled; oni'n deffro yn y nos... o'n i'n gweld wyneb Aled yn y mortuary ac oedd o'n anodd iawn ei gael o allan o'ch meddwl chi.
"Amser hynny doeddech chi ddim yn gofyn am yr help yn yr heddlu gymaint a fysech chi rŵan a dwi yn difaru na fyddwn i wedi gwneud. Fyswn i'n erfyn ar rywun rŵan sy'n cael ei effeithio efo unrhyw swydd efo unrhyw fath o drauma, mae 'na help allan yna a peidio bod ag ofn gofyn am help."
7. Gweithred olaf, a mwyaf balch, Iestyn gyda'r heddlu oedd clirio enw dyn oedd wedi ei garcharu ar gam am lofruddiaeth yn 1976.
Ddeugain mlynedd ar ôl i Noel Jones gael ei gyhuddo a'i garcharu ar gam am lofruddio'r ferch 15 oed Janet Commins yn y Fflint daeth tystiolaeth DNA i'r fei oedd yn dangos mai llanc ifanc lleol arall, Stephen Hough, oedd yn gyfrifol.
Mewn achos unigryw yn y DU ar y pryd aethpwyd â Steven Hough i'r llys tra roedd Noel Jones, yn swyddogol, yn dal yn euog am yr un drosedd.
Roedd rhaid i reithgor ddatgan bod Noel Jones yn hollol ddieuog cyn gallu symud ymlaen i gael Stephen Hough yn euog.
"O'r diwedd, ar ôl 40 mlynedd, oedden ni wedi ffeindio y person oedd yn wirioneddol gyfrifol a dod â cyfiawnder.
"Mi es i lys yr apêl [i glirio enw Noel Jones] ar ben fy hun ar ddiwrnod olaf fy ngyrfa gyda Heddlu'r Gogledd.
"Diwrnod mwyaf prowd fy ngyrfa i, y diwrnod olaf, a medru ffonio Noel Jones a dweud 'Da ni wedi clirio dy enw di'...sgwrs hynod emosiynol efo fo, ond dim dig. Doedd o ddim yn dangos dig yn erbyn yr heddlu ond roedd o wrth ei fodd bod ni wedi helpu i glirio ei enw."
Hefyd o ddiddordeb: