大象传媒

Pensiynwr o F么n wedi colli 拢220,000 trwy dwyll cyn marw

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Gerald Corrigan, 74, ar 么l cael ei saethu ger ei gartref ger Ynys Lawd yn Ebrill 2019

Mae llys wedi clywed honiad bod dyn wedi derbyn tua 拢220,000 trwy dwyll gan bensiynwr o Ynys M么n a gafodd ei lofruddio maes o law gyda bwa croes.

Mae Richard Wyn Lewis yn gwadu 11 cyhuddiad o dwyllo sawl person, gan gynnwys y cyn-ddarlithydd 74 oed, Gerald Corrigan.

Mae hefyd yn gwadu ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae ei gymar, Siwan McLean yn gwadu cyhuddiad o brosesu arian yn anghyfreithlon.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug nad oes unrhyw gysylltiad rhwng yr achos a llofruddiaeth Mr Corrigan y tu allan i'w gartref ger Caergybi yn 2019.

'Rhy hwyr i stopio'

Wrth amlinellu achos yr erlyniad, dywedodd Peter Rouch KC bod Mr Lewis "yn dwyllwr" a lwyddodd i gael symiau amrywiol o arian gan wahanol bobl.

Roedd rhai, meddai, wedi colli cannoedd o bunnoedd tra bod eraill wedi colli "miloedd lawer" ac roedd "Wyn Lewis wedi ei gadw, yn anonest".

Clywodd y llys bod y cyhuddiadau'n gysylltiedig 芒 Gerald Corrigan yn ymwneud ag honiadau bod Wyn Lewis wedi defnyddio portreadau ffug i berswadio Mr Corrigan i werthu ei d欧 i ddatblygwr dychmygol, i dalu 拢177,000 am geffylau na wnaeth ymddangos, a chael gwared ar gar a gafodd ei werthu'n ddiweddarach er mwyn prynu tir.

Dywedodd Mr Rouch bod Mr Corrigan a'i bartner Marie Bailey wedi eu gadael gyda "fwy neu lai, dim byd".

Dywedodd Marie Bailey wrth yr heddlu fod Mr Corrigan, yn y pendraw, wedi cyfaddef ei fod yn gwybod bod Mr Lewis yn "gelwyddgi" ond bod "pethau wedi mynd yn rhy bell".

"Roedd wedi talu gymaint o arian roedd hi'n rhy hwyr i stopio," meddai.

Ychwanegodd yr erlyniad yn y llys bod Wyn Lewis wedi perswadio Marie Bailey i drosglwyddo 拢50,000 o werthiant ei th欧 a gafodd ei dalu i gyfrif banc Siwan McLean.

Mae Ms McLean wedi ei chyhuddo o brosesu arian yn anghyfreithlon ar 么l derbyn y swm gan wybod, yn honedig, fod hynny trwy dwyll.

Cafodd Gerald Corrigan ei saethu gyda bwa croes tu allan i'w d欧 yn Ynys M么n yn 2019 a bu farw rai dyddiau'n ddiweddarach.

Yn 2020 cafodd Terence Whall ei garcharu am isafswm o 31 o flynyddoedd ar 么l ei gael yn euog o lofruddiaeth.

Mae'r achos yn parhau gyda disgwyl iddo bara hyd at bedair wythnos.