Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Vaughan Gething yn amddiffyn ymweliad 芒 Qatar
Wrth i Gymru baratoi i chwarae yn erbyn Lloegr yn eu g锚m gr诺p olaf yng Nghwpan y Byd, mae Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething wedi amddiffyn ei benderfyniad i fod yno.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu am fynd i Qatar, oherwydd record hawliau dynol y wlad.
Mae arweinydd y Blaid Lafur drwy'r DU, Syr Keir Starmer wedi gwrthod mynd i'r bencampwriaeth.
Ond dywedodd Mr Gething fod mynd yno yn fwy na chefnogi'r t卯m; a'i fod yn ymwneud 芒'r ffaith fod gan Gymru blatfform byd-eang, a "chyfle go-iawn i gael y byd i ystyried dod i Gymru, ac i Gymru i fynd allan i'r byd".
Cyfle i hyrwyddo Cymru
Mae ymweliad Mr Gething yn dilyn ymweliad y Prif Weinidog Mark Drakeford 芒 Qatar ar gyfer g锚m gyntaf Cymru, yn erbyn yr UDA.
Mewn cyfweliad 芒 大象传媒 Radio Wales Breakfast, dywedodd bod cyfle i hyrwyddo Cymru drwy'r byd: "Mae am beidio ildio y cyfle byd-eang yma i Gymru, i fod yn falch o bwy ydym ni ar y llwyfan rhyngwladol yma.
"Mae 'na lawer mwy o ddiddordeb yng Nghymru am ein bod ni yma."
Yn ystod ei ymweliad mae'r gweinidog wedi cyfarfod Gweinidog Cyllid Qatar, a dywedodd fod ganddo ddiddordeb mewn buddsoddi yng Nghymru.
"Fe wnaethom ni drafod nifer o opsiynau ble mae gan Qatar ddiddordeb mewn buddsoddi ymhellach.
"Maen nhw'n awyddus i ddatblygu eu heconomi mewn ffordd fwy amrywiol, achos maen nhw'n deall na fydd nwy naturiol, a'r cynnydd yn ei werth wedi i Rwsia ymosod ar Wcr谩in, yn para am byth.
"Felly mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn nifer o bethau rydym ni yn ceisio cael mwy o fuddsoddiad ar eu cyfer."
Ond, dywedodd eu bod nhw hefyd wedi trafod gwerthoedd, a'i fod wedi pwysleisio gwerthoedd Cymru.
"Pan ddywedom ni y byddem ni'n trafod ein gwerthoedd, rydyn ni'n gwneud be' ddywedom ni y byddem ni'n ei wneud, a dwi eisiau cadw mewn cysylltiad yn y dyfodol.
"Mae newid yn digwydd yn araf, ac mae 'na ddewis ydym ni'n mynd i hybu hynny ai peidio.
"Dwi'n meddwl ein bod ni'n gwneud ein rhan drwy fod yn rhan o'r sgwrs -'da ni'n awyddus i weithio'n agos gyda Qatar a gwledydd eraill yn y rhanbarth a siarad am pam ein bod ni'n falch o'r Gymru sydd ohoni heddiw."