Caniat芒d i godi fferm solar ddadleuol yn Sir G芒r

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniat芒d cynllunio i godi fferm solar fawr yn Sir G芒r er gwaethaf gwrthwynebiad sylweddol yn lleol.

Bydd fferm solar 72 hectar yn Llanedi ger Pontarddulais yn gallu cynhyrchu 30MW o drydan, sy'n ddigon i bweru dros 11,400 o dai.

Brynrhyd fydd y drydedd fferm solar fawr yn yr ardal - gyda'r cyfanswm yn gorchuddio tua 300 erw o dir amaethyddol.

Er mai Cyngor Sir G芒r yw'r awdurdod cynllunio, Llywodraeth Cymru oedd 芒'r gair terfynol oherwydd bod y cynllun yn cael ei ystyried yn "ddatblygiad o arwyddoc芒d cenedlaethol".

Gwnaed y penderfyniad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James ar 么l iddi dderbyn adroddiad gan yr Arolygydd Cynllunio.

Mae Llywodraeth Cymru am weld 70% o drydan Cymru yn cael ei gynhyrchu trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2030.

Roedd gwrthwynebwyr lleol wedi dadlau fod y safle ar dir amaethyddol da a bod yna safleoedd gwell, 么l-ddiwydiannol ar gyfer y paneli solar.

Disgrifiad o'r llun, Mae Rhodri Williams yn byw ger y safle lle fyddai'r fferm yn cael ei hadeiladu

Siom a syndod oedd ymateb un o'r gwrthwynebwyr, Rhodri Williams, wrth siarad gyda Cymru Fyw.

Syndod, meddai, oherwydd na chafodd y cais ei ystyried fel "rhan o un datblygiad mawr".

"Mae yna, yn yr ardal 'ma, un safle solar, un arall i'r gorllewin o'r safle hwn sydd wedi ei ganiat谩u a nawr un i'r dwyrain.

"Y brif ddadl o ran diddordeb pobl leol yw effaith y cyfan - y cumulative imapct - mae'n ardal enfawr."

Ychwanegodd nad oedd y ddadl leol yn erbyn ffermydd solar yn yr ardal yn gyfan gwbl, ond fod yna safleoedd 么l-ddiwydiannol, neu 'dir brown', fyddai'n fwy addas.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r tri safle yn Llanedi yn gorchuddio tua 300 erw o dir amaethyddol

Dywedodd y gweinidog Julie James ei bod yn derbyn casgliadau'r arolygydd wrth benderfynu o blaid y cynllun "yng ngoleuni newid hinsawdd sylweddol a'r budd o ran diogelwch ynni".

Dywed yr adroddiad nad oedd y cynllun yn annerbyniol a bod yna gyfiawnhad ar 么l "y pwyso a mesur o ran newid natur y tirlun a newid gweledol".

Creu swyddi?

Mewn dogfen aeth gerbron pwyllgor cynllunio Cyngor Sir G芒r yn 2021, fe honnodd y datblygwyr - cwmni Island Green Power - y bydd yna 67 o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yn cael eu creu.

Dywedwyd hefyd y bydd yn cyfrannu 拢500,000 tuag at economi Sir G芒r bob blwyddyn, dros gyfnod o 40 mlynedd.

Wrth ymateb i'r ddogfen ar y pryd, dywedodd y cynghorydd lleol Gareth Beynon Thomas fod ganddo bryderon am golli tir amaethyddol da.

"Dwi ddim yn gwrthwynebu'r egwyddor o baneli solar, ond beth dwi'n gwrthwynebu yw bod yna gannoedd o erwau mewn un ardal fach a'r effaith mae'n cael ar yr ardal hynny, dyna'r cwestiwn sydd gen i ofyn i rywun.

"Os ni'n colli tir sydd yn gynhyrchiol, fel sydd gyda ni yn yr ardal yn Llanedi, o ble mae'r bwyd yn mynd i ddod?"