Pryder chwaraewyr rygbi am ddiffyg cytundeb cyllid

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Disgrifiad o'r llun, Mae adroddiadau bod Will Rowlands eisoes wedi cytuno i symud o'r Dreigiau i glwb Racing 92 yn Ffrainc

Mae'r corff sy'n cynrychioli chwaraewyr rygbi proffesiynol Cymru wedi rhybuddio bod nifer yn "ceisio dod o hyd i sicrwydd yn rhywle arall" yn sgil ansicrwydd parhaus am ddyfodol ariannol y gamp.

Nid yw Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi dod i gytundeb eto ar gynllun cyllido gyda'r pedwar rhanbarth ac mae hynny wedi atal unrhyw drafodaethau ar gytundebau newydd gyda chwaraewyr.

"Er lles iechyd meddyliol ein haelodau, ni all yr oedi barhau mwyach," medd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA).

Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker, ei fod yn "optimistaidd y bydd setliad cyn hir".

'Effaith andwyol ar y g锚m'

Yn 么l hyfforddwr Caerdydd, Dai Young, mae cytundebau bron i hanner ei chwaraewyr yn dod i ben yr haf nesaf.

Ond yn sgil adroddiadau bod chwaraewr y Dreigiau a Chymru, Will Rowlands, eisoes wedi cytuno i arwyddo i glwb Racing 92 yn Ffrainc, fe wnaeth WRPA ryddhau datganiad yn nodi pryder am y sefyllfa bresennol.

"Mae chwaraewyr bellach, gyda chalon drom, yn ceisio diogelwch mewn mannau eraill trwy chwilio am gyfleoedd y tu allan i Gymru ac o ganlyniad yr wythnos hon roedd yna awgrym bod y chwaraewr proffil uchel cyntaf wedi penderfynu symud i Ffrainc.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Y Dreigiau, Gweilch, Rygbi Caerdydd a'r Scarlets yw'r pedwar t卯m proffesiynol yng Nghymru

"Mae'n amlwg y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar y g锚m ddomestig a rhyngwladol yng Nghymru."

Ychwanegon nhw: "Mae'r oedi parhaus yn cael effaith andwyol ar les chwaraewyr ac o bosib y perfformiadau ar draws y rhanbarthau.

"Mae'r chwaraewyr o'r pedwar rhanbarth, yn unedig, yn galw am ddatrysiad ar unwaith i'r cyfyngder.

"Ni all ein haelodau barhau i chwarae yn sgil yr ansicrwydd.

"Mae cytundeb nifer o'r chwaraewyr yn dod i ben ddiwedd Mehefin 2023 a gydag embargo ar drafodaethau cytundeb, ni all yr aelodau hyn drafod, heb s么n am sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol y tu hwnt i'r chwe mis nesaf.

"Mae peidio 芒 gwybod a oes ganddyn nhw swydd ac felly incwm i dalu morgeisi a biliau yn sefyllfa anodd.

"Mae chwaraewyr yn ei chael hi'n anodd i ailforgeisio neu gael morgeisi newydd gan fod banciau angen prawf o enillion.

"Gyda dim ond chwe mis yn weddill ar gytundebau a dim sicrwydd cyflogaeth wedi hynny, mae banciau'n gwrthod ar hyn o bryd."

'Cytundeb yn gwbl hanfodol'

Mewn ymateb dywedodd Nigel Walker, ar ran Undeb Rygbi Cymru, ei fod yn gobeithio sicrhau datrysiad yn fuan.

"Mae URC yn ymwybodol o bryder chwaraewyr presennol ac mae'n gweithio'n ddiflino i sicrhau datrysiad cynaliadwy hirdymor ochr yn ochr 芒'r rhanbarthau, gyda phob ochr yn cael eu cynrychioli yn nhrafodaethau parhaus y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB).

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Disgrifiad o'r llun, Mae Nigel Walker, Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru, yn gobeithio sicrhau datrysiad yn fuan

"Rydym yn obeithiol bod setliad o fewn ein gafael.

"Rydyn ni'n deall pa mor anodd yw hi i chwaraewyr a'r rhanbarthau yn ystod y cyfnod hwn pan mae trafodaethau cytundeb yn cael eu gohirio oherwydd bod trafodaethau y PRB yn parhau.

"Mae cytuno ar gytundeb aml-flwyddyn newydd yn gwbl hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor rygbi proffesiynol yng Nghymru."

Ychwanegodd: "Mae Malcolm Wall [cadeirydd annibynnol PRB] a minnau'n cyfarfod WRPA ddydd Mercher i drafod sut y gallwn weithio gyda'n gilydd dros yr wythnosau nesaf i fapio a gweithredu cynllun sy'n rhoi sicrwydd i chwaraewyr o fewn amserlen mor fyr 芒 phosib."