Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tri Llun: Jennifer Jones
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Dyma oedd y cwestiwn ofynnodd Cymru Fyw i Jennifer Jones, cyflwynydd newyddion a radio 大象传媒 Cymru. Dyma oedd dewisiadau Jennifer.
Dyma un o fy hoff luniau ohono i a fy chwaer h欧n, Alison. Roedden ni'n byw ar y pryd mewn fflat uwchben deintyddfa fy nhad ar Ffordd Y Coleg ym Mangor. 'Da ni wedi bod yn ffrindiau agos erioed ac mae pobl wedi gofyn ar hyd y blynyddoedd os ydyn ni'n efeilliaid (sy'n hynod o annoying gan fy mod i ddwy flynedd a hanner yn fengach!)
Llun sy'n dod ag atgofion o blentyndod a bywyd teuluol hynod o hapus ac sy'n gwneud i mi wenu.
Digwydd bod, fi oedd yn cyflwyno'r rhaglen Wales Today olaf o'r ganolfan ddarlledu yn Llandaf ym mis Medi 2020 - tynnwyd y llun yma yn syth ar 么l y rhaglen. Diwedd cyfnod! (Trwy gyd-ddigwyddiad mi gefais i gyflwyno'r rhaglen nosweithiol gyntaf o'r ganolfan newydd yn Sgw芒r Canolog hefyd.)
Mi roedd hi'n fraint cael gweithio ar rhaglenni Newyddion S4C a 大象传媒 Wales Today yn stiwdio 'C2' ac mae'n rhyfedd meddwl bod yr adeilad wedi dymchwel erbyn hyn, ond mi roedd hi'n gyfnod hapus iawn.
Tynnwyd y llun yma yn fuan ar 么l i Gymru guro Wcrain i ennill eu lle yng Nghwpan y byd ym mis Mehefin. Mi rydym ni fel teulu'n aelodau o'r wal goch ac wedi gweld holl gemau cartref Cymru ers 2016... fel da chi'n gweld mi roedden ni gyd yn hapus iawn! I fi mae p锚l-droed yn rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau fel teulu - edrych ymlaen rwan at yr ymgyrch nesaf!
Hefyd o ddiddordeb: