Ymosodiad ci Caerffili: Menyw 83 wedi marw o'i hanafiadau
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 83 oed wedi marw dros bythefnos ar 么l i gi ymosod arni yng Nghaerffili.
Cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty ar 么l y digwyddiad ar ddydd Sadwrn, 3 Rhagfyr.
Bu fawr o'i hanafiadau yn ystod oriau m芒n fore Mawrth, 20 Rhagfyr.
Dywed yr heddlu fod dyn 55 oed a gafodd driniaeth am f芒n anafiadau bellach wedi'i ryddhau o'r ysbyty.
Yn dilyn y digwyddiad mewn t欧 yn Heol Fawr, cafodd pedwar o bobl eu harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi oedd yn beryglus ac allan o reolaeth.
Mae'r pedwar wedi cael eu rhyddhau ar fechn茂aeth amodol.
Cafodd y ci, bully cross cane corso XL du, ei ddifa ar 么l y digwyddiad.
Dywed Heddlu Gwent fod yr ymchwiliad yn parhau a'u bod yn parhau i gasglu tystiolaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2022