Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
S诺n y Nadolig gyda band pres Llaneurgain
"Sna'm byd tebyg i glywed band pres yn chwarae amser y Nadolig"
Mae band arian wedi bod ym mhentref Llaneurgain, Sir y Fflint ers 1892.
Hyd heddiw mae'r band yn parhau i ddenu aelodau o bob cwr o ogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.
Mae'n un o fandiau pres gorau Cymru sy'n esbonio pam fod ambell un yn fodlon teithio'r filltir ychwanegol o'u cartrefi i gael bod yn rhan o'r band.
Mae'r band yn rhoi cyfleoedd i blant, phobl ifanc ac i rai sydd wedi bod yn aelodau ers dros ddegawdau.
Mae'r traddodiad o blant yn dilyn yn 么l troed eu rhieni wrth ymuno 芒'r band hefyd yn parhau.
Mae Awen yn chwarae'r corned, ac yn eistedd wrth ymyl ei thad, David, ac mae hi'n egluro pam ei bod hi wedi ymuno gyda'r band.
"Dwi di bod yn aelod o Band Llaneurgain ers o'n i'n saith mlwydd oed," meddai.
"Dwi'n mwynhau chwarae efo teulu a pan dwi'n chwarae pethau Nadolig, achos mae lot o bethau dwi'n gwybod yn barod a dwi'n gwybod y tiwn."
'Rhoi rhywbeth yn 么l'
Un o'r rhai sy'n teithio dros 100 milltir yr wythnos i chwarae yn y band yw Aled Williams o Flaenau Ffestiniog.
Yn ogystal 芒 chwarae yn y Prif Fand, mae Aled hefyd yn arwain yr ail fand, ac mae'n egluro pwysigrwydd cyfnod y Nadolig i fandiau pres.
"Dwi di chwarae mewn bandiau erioed, a mae'n neis gallu rhoi rhywbeth n么l i'r rhai ifanc," meddai.
"Os 'da chi isio chwarae mewn band da, band adran pencampwriaeth, ma' rhaid trafaelio felly dwi'n trafaelio tua 55 milltir o Blaenau Ffestiniog ddwywaith yr wythnos.
"Mae'r Nadolig yn amser lle 'da ni'n gallu hel lot o bres tra allan yn chwarae yn y stryd. Ond yn bwysicach na hynny, bod yn ddarn o'r gymuned.
"'Sna ddim byd tebyg i wrando ar fand pres yn chwarae adeg y Nadolig," meddai.
Mae'r band hefyd wedi chwarae r么l enfawr yn natblygiad cerddorol sawl aelod, ac un o'r rheiny yw Alice, sydd ar hyn o bryd yn astudio cerddoriaeth yn Llundain gyda'r gobaith o fynd ymaen i chwarae yn broffesiynol.
Yn 么l Alice, heb y band, dyw hi ddim yn credu y byddai mewn sefyllfa lle y gallai un diwrnod droi yn chwaraewr proffesiynol.
"Mae'r band yma wedi chwarae rhan fawr iawn yn fy natblygiad fel cerddor, a fyswn i ddim wedi cyrraedd y safon dwi wedi ei gyrraedd heb y band yma.
"Mae'n neis iawn bod yn rhan o fand pres dros gyfnod y Nadolig, a gallu chwarae gyda pobl eraill yn y gymuned.
"Mae'n dod 芒'r gymuned gyfan at ei gilydd, a [mae'n] neis bod yn rhan o ddathliadau pobl."
'Gweithio fel t卯m'
Er bod y band wedi cael ei ffurfio ymhell dros ganrif yn 么l, mae'n mynd o nerth i nerth, gydag ymarferion wythnosol a gwobrau yn parhau i gael eu hennill.
Un arall sy'n teithio'n bell i chwarae yw Carwyn; mae'n teimlo anrhydedd ei fod o'n cael chwarae ym "mand gorau Cymru".
"Band Pres Llaneurgain ydi un o fandiau gorau Cymru, ac yn sicr y band gorau yng ngogledd Cymru.
"Wedyn 'da ni gyd yn dod at ein gilydd. 'Da ni i gyd o gefndiroedd gwahanol, ond gweithio fel t卯m ydi'r ap锚l mwyaf," meddai.
Hefyd o ddiddordeb: