Lansio ymchwiliad twyll i 拢122m coll Betsi Cadwaladr

  • Awdur, Dafydd Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae ymchwiliad wedi dechrau i dwyll posib gwerth miliynau o bunnau ym mwrdd iechyd mwyaf Cymru.

Mae t卯m arbenigol wedi eu galw i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 么l i archwilwyr ddweud ei bod hi'n ymddangos bod o leiaf 拢122m heb ei adrodd yn iawn yng nghyfrifon y bwrdd.

Mae'r corff sy'n arolygu gwariant cyhoeddus yng Nghymru, Archwilio Cymru, hefyd yn cynnal "adolygiad ar lefel uchel i effeithiolrwydd y bwrdd" i weld beth aeth o'i le.

Mae 大象传媒 Cymru yn deall nad oes unrhyw un o'r materion o dan ymchwiliad yn y bwrdd iechyd yn ymwneud ag elwa'n bersonol.

'Neb wedi elwa'n bersonol'

Dywed un o Aelodau o'r Senedd y gogledd, Rhun ap Iorwerth, ei bod hi'n amser "cael gwared ar y bwrdd iechyd yma... a dechra' eto".

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru'n dweud na allan nhw wneud sylw tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Cafodd materion eu codi gyntaf pan sylwodd archwilwyr yn gynharach eleni ar nifer o "wallau sylweddol" yng nghyfrifon y bwrdd ym mlwyddyn ariannol 2021-22.

Fe ddywedon nhw ei bod hi'n ymddangos bod 拢72m o filiau ac anfonebau heb eu talu wedi eu cynnwys yn y cyfrifon, ond ni allai'r archwilwyr ddod o hyd i dystiolaeth ohonynt.

Yn gyffredinol, roedd archwilwyr yn bryderus ei bod hi'n ymddangos nad oedd 拢122m o wariant wedi ei adrodd yn iawn.

Mae Archwilio Cymru'n dweud eu bod yn dal i ymchwilio i sut y cafodd yr arian ei wario.

Cafodd cwmni cyfrifwyr EY eu galw i adolygu'r cyfrifon ar 么l i archwilwyr godi eu pryderon.

Yn dilyn adroddiad EY, gofynnwyd i Wasanaethau Atal Twyll Cymru y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ymchwilio.

Mae Gwasanaethau Atal Twyll Cymru y GIG yn gorff annibynnol sy'n ymchwilio i droseddau ariannol yn y Gwasanaeth Iechyd - yn cynnwys twyll, llwgrwobrwyaeth a llygredd.

Cyllideb 拢1.87bn

Dywedodd llefarydd ar ran Archwilio Cymru: "Fe ddatgelodd yr archwiliad o gyfrifon Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer 2021-22 wallau difrifol.

"Doedd y bwrdd iechyd ddim yn gallu darparu tystiolaeth ddigonol i brofi bodolaeth 拢72m o gostau oedd heb eu talu yn y flwyddyn honno.

"Roedd 'na hefyd dystiolaeth annigonol i gadarnhau bod 拢122m o wariant wedi digwydd yn y flwyddyn neu wedi ei adrodd yn iawn yn y cyfnod cyfrif cywir.

"Yn dilyn ein hargymhellion, mae Archwilio Cymru yn ymwybodol bod y bwrdd iechyd wedi gofyn i EY gynnal archwiliad allanol o'r amodau a arweiniodd at y gwallau a nodwyd.

"Mae Archwilio Cymru hefyd yn cynnal adolygiad ar lefel uchel i effeithiolrwydd y bwrdd fel rhan o'i raglen flynyddol o archwilio perfformiad y bwrdd."

Disgrifiad o'r llun, Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am dair ysbyty cyffredinol - Glan Clwyd, Gwynedd a Maelor Wrecsam

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ydy corff iechyd mwyaf Cymru, yn cyflogi 19,000 o staff gyda chyllideb flynyddol o 拢1.87bn.

Mae'n cael ei redeg gan fwrdd yn cynnwys aelodau gweithredol (y prif feddygon, nyrsys, a rheolwyr cyllid ac adnoddau dynol) ac aelodau anweithredol (pobl heb hyfforddiant meddygol, ond sy'n goruchwylio a chynghori ar waith y Gwasanaeth Iechyd yng ngogledd Cymru).

Mewn ymateb i gwestiynau 大象传媒 Cymru dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd bod ymchwiliad yn digwydd i'r "berthynas waith ar lefel uwch arweinwyr".

"Mae pryderon wedi eu codi trwy'r Polisi Codi Pryderon yn y Gwasanaeth Iechyd yngl欧n 芒 llywodraethiant ac arweinyddiaeth.

"Bydd y rhain yn cael eu hymchwilio yn unol 芒'r polis茂au a'r dulliau gweithredu presennol."

Ychwanegodd: "Mae Gwasanaeth Atal Twyll Gwasanaeth Iechyd Cymru yn ymchwilio ar gais Archwilio Cymru.

"Mae gennym ddyletswydd i ofalu am staff ac ni fyddwn yn gwneud sylw pellach."

Roedd llywodraethiant yn un o'r meysydd a arweiniodd yn 2015 at osod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig, y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru.

Fis Tachwedd 2020, cafodd yr oruchwyliaeth honno ei gostwng i Ymyrraeth wedi ei Dargedu.

Mewn ymateb i bryderon Archwilio Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ni allwn wneud sylw tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal."

'Codi cwestiynau sylfaenol'

Dywedodd Aelod o'r Senedd Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth, sydd hefyd yn llefarydd iechyd Plaid Cymru, ei fod yn "ystyried hyn i fod yn fater difrifol iawn".

"Mae'n codi cwestiynau difrifol yngl欧n 芒 rheolaeth ariannol y bwrdd ond dwi'n credu bod o'n codi cwestiyna' sylfaenol eraill.

"Faint o afael sydd gan Lywodraeth Cymru dros y bwrdd iechyd yma? Ac yn ail, faint o obaith sydd yna i droi petha' rownd?

"Dwi'n grediniol erbyn hyn mai'r peth gora' fysa dechra' eto a chael gwared ar y bwrdd yma - er mwyn staff, er mwyn cleifion - a dechra' eto."