大象传媒

Cyfryngau cymdeithasol 'yn bygwth dyfodol yr iaith'

  • Cyhoeddwyd
cyfryngau cymdeithasolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd pryder y gall siaradwyr Cymraeg sy'n newid i'r iaith fwyafrifol fygwth bywiogrwydd parhaus yr iaith.

Mae'n bosib fod y cyfryngau cymdeithasol yn bygwth dyfodol y Gymraeg ac iechyd seicolegol ei siaradwyr, yn 么l astudiaeth newydd.

Daw'r rhybudd yn sgil gwaith gan academyddion ym Mhrifysgol Abertawe a gymharodd ymatebion siaradwyr ieithoedd lleiafrifol a mwyafrifol ar gyfryngau cymdeithasol.

Gwerthusodd y t卯m 800 o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a Saesneg iaith gyntaf rhwng 13 a 15 oed sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

Roedd dros 10% o'r disgyblion yn dangos lefel uchel o ddibyniaeth ar gyfryngau cymdeithasol, sy'n adlewyrchu astudiaethau eraill ar draws Ewrop.

Ond dangosodd y canfyddiadau fod bron i 70% o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio Saesneg yn "aml" neu "bob amser" ar gyfryngau cymdeithasol, gyda'r mwyafrif helaeth yn ei ddefnyddio'n fwy na'r Gymraeg.

Er bod astudiaethau blaenorol wedi dangos fod y Gymraeg wedi sefydlu troedle o fewn y dirwedd ddigidol, roedd pryder y gall siaradwyr Cymraeg sy'n newid i'r iaith fwyafrifol fygwth ei fywiogrwydd parhaus.

Effaith seicolegol

Dywedodd Dr Richard Jones o'r ysgol seicoleg: "Gan gydnabod pwysigrwydd iaith i hunaniaethau diwylliannol a chymdeithasol siaradwyr ieithoedd lleiafrifol, byddai erydiad iaith ar-lein yn bygwth hunaniaeth ddiwylliannol cenedl."

Roedd yr astudiaeth hefyd yn gwerthuso effaith seicolegol defnydd cyfryngau cymdeithasol ar siaradwyr dwyieithog o'r Gymraeg a'r Saesneg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu i academyddion ym Mhrifysgol Abertawe gymharu ymatebion siaradwyr ieithoedd lleiafrifol a mwyafrifol ar gyfryngau cymdeithasol

Datgelodd y data y gallai penderfyniad siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith ar gyfryngau cymdeithasol gael ei ysgogi gan yr awydd i gynyddu hunan-barch, sicrhau mwy o gydraddoldeb ieithyddol 芒 siaradwyr Saesneg, neu i gysylltu 芒 siaradwyr Cymraeg eraill.

"Mae canlyniad siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yn newid i'r iaith fwyafrifol yn bygwth bywiogrwydd parhaus ieithoedd lleiafrifol ac yn codi cwestiynau yngl欧n ag arwyddoc芒d yr iaith leiafrifol o fewn meddyliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol," meddai Dr Jones.

Ychwanegodd ei gydweithiwr, yr Athro Phil Reed: "Mae'r astudiaeth yn dangos bod angen i lywodraethau ystyried nid yn unig effeithiau'r cyfryngau cymdeithasol ar iechyd a lles seicolegol ond hefyd ei effaith ar ddiwylliannau grwpiau lleiafrifol a allai gael eu gorfodi i gefnu ar ddylanwadau pwysig oherwydd yr angen i ddilyn rhyngweithio digidol, sy'n dod yn fwyfwy angenrheidiol ar gyfer bywyd bob dydd."