Chris Bryant yn farchog yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol ac un o s锚r y byd p锚l-droed ymysg y bobl o Gymru sydd wedi'u cydnabod yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Dyma'r rhestr gyntaf o'r fath ers marwolaeth y Frenhines Elizabeth II, sy'n golygu mai'r Brenin Charles sy'n eu rhoi.
Mae Aelod Seneddol Rhondda, Chris Bryant, wedi ei urddo'n farchog am "wasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus".
Mae capten t卯m merched Cymru, Sophie Ingle, yn derbyn OBE am wasanaethau i b锚l-droed.
Mae Mr Bryant wedi cynrychioli etholaeth Rhondda ar ran y blaid Lafur ers 2001.
Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru bod yr anrhydedd yn gydnabyddiaeth o'i waith yn ymgyrchu ar anafiadau i'r ymennydd a melanoma - math o ganser croen.
Cafodd Mr Bryant ei hun lawdriniaeth ar gyfer canser y croen yn 2019.
Dywedodd y cyn-offeiriad yn yr eglwys Anglicanaidd ei fod yn cael ei urddo hefyd am ei waith gyda'r sgandal hacio ffonau, ac am wthio i gael sancsiynau yn erbyn Rwsia yn sgil yr ymgyrch filwrol yn Wcr谩in.
'Fy annog i wneud mwy'
Dywedodd Mr Bryant ei fod "wedi synnu ac yn bles iawn" i gael ei urddo, ac y byddai'r anrhydedd yn "fy annog i wneud mwy gyda'r gwaith rwy'n ei wneud ar anafiadau i'r ymennydd, ar y Pwyllgor Safonau, ar melanoma ac wrth geisio gwneud yn si诺r bod Putin yn colli".
Fe wnaeth Mr Bryant roi teyrnged hefyd i'r elusennau a'r mudiadau y mae'n ymwneud 芒 nhw ac ychwanegodd bod hwn yn "anrhydedd i bobl y Rhondda achos nhw yw'r bobl sy'n fy ethol i'r Senedd a fyddwn i methu gwneud y gwaith yma oni bai am bobl y Rhondda".
Mae Mr Bryant yn gadeirydd ar hyn o bryd ar Bwyllgor Safonau T欧'r Cyffredin a bu'n feirniadol iawn o'r cyn-Brif Weinidog Boris Johnson.
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu y byddai rhai yn cwestiynu'r penderfyniad i'w urddo'n farchog, dywedodd Mr Bryant: "Mae'n ddigon posib na fydd Boris Johnson yn bles iawn!"
Ingle - sy'n chwarae i Chelsea ac wedi ennill 105 o gapiau dros Gymru - yw'r unig Gymry o fyd y campau sydd ar y rhestr.
Dywedodd y chwaraewr 31 oed fod cael OBE yn "anhygoel", a'i fod yn adlewyrchu'r twf yn y gamp i ferched.
"Mae'n anhygoel cymharu sut oedd pethau pan wnes i ddechrau chwarae yn 16 oed gyda sut mae pethau nawr," meddai.
"Mae wedi tyfu'n aruthrol dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf. Mae wedi cyrraedd lefel uwch ac rwy'n edrych ymlaen at weld ble mae'n parhau i fynd."
Ymysg y Cymry eraill ar y rhestr mae ymgyrchydd iechyd a chyfarwyddwr cerddorol.
Ian Green o Lanfair-ym-muallt, Powys, ydy prif weithredwr Ymddiriedolaeth Terence Higgins - elusen sy'n helpu pobl sy'n byw gyda HIV.
Dywedodd ei fod "ar ben fy nigon", a'i bod yn "anrhydedd" derbyn OBE.
"Fel rhywun sy'n byw gyda HIV, mae fy ngwaith yn llawer mwy na dim ond swydd, ac rydw i wedi buddsoddi fy amser, egni a brwdfrydedd er mwyn creu newid i'r rheiny sy'n cael eu heffeithio gan HIV," meddai.
'Meddwl mod i'n cael fy sgamio!'
Un arall sy'n cael ei anrhydeddu ydy Dr Michael Thomas - cyfarwyddwr cerddorol C么r Meibion Cwmbach - sy'n derbyn MBE.
"Fe ges i e-bost, ac fe wnes i ffonio fy ngwraig a dweud 'dwi'n meddwl mod i'n cael fy sgamio'. Ro'n i'n barod i'w ddileu e!" meddai am y foment y cafodd wybod am yr anrhydedd.
Mae'n derbyn yr MBE am ei wasanaeth i'r traddodiad corawl yng Nghymru, yn ogystal 芒'i wasanaeth i gymoedd Cynon a Phelenna.
Mae Euryl Howells o Gaerfyrddin yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaeth i'r gaplaniaeth yn GIG Cymru.
Ef yw uwch-gaplan Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn Sir G芒r, Sir Benfro a Cheredigion, a dywedodd ei bod yn "fraint" cael ei gydnabod.
"Dwi'n meddwl bydde unrhyw un o fy nghydweithwyr yn medru derbyn yr anrhydedd hon, ond dwi'n ei dderbyn ar ran y t卯m caplaniaeth a chydweithwyr yn Hywel Dda, a phobl sydd wedi gweithio gyda ni," meddai.
"Mae'r gair caplan yn Lladin yn golygu clogyn. Dyna beth ni'n medru gwneud ydy amddiffyn, estyn allan a chysuro a rhoi clogyn o gwmpas pobl sydd mewn pryder neu sydd mewn rhyw ing."
'Arloeswyr'
Mae Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Colin Riordan, hefyd ar y rhestr, gan dderbyn CBE am ei wasanaeth i fyd addysg.
Dywedodd ei fod "wedi synnu", ond hefyd yn "werthfawrogol dros ben" o'r anrhydedd.
Fe wnaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd roi clod i ddau "arloeswr" sydd wedi'u cydnabod ar y rhestr.
Mae cyn-gyfarwyddwr gweithredol safon a nyrsio'r gwasanaeth, Claire Bevan, yn derbyn OBE am ei gwasanaeth i nyrsio a gofal cleifion.
Mae'r parafeddyg Macmillan, ac arweinydd y gwasanaeth ar ofal diwedd oes, Edward O'Brian, yn derbyn Medal Gwasanaeth Ambiwlans y Brenin.
Ymysg y bobl eraill o Gymru sydd wedi'u hanrhydeddu, mae:
Dr Bridget Emmett o Fiwmares, Ynys M么n - OBE am ei gwasanaeth i'r pridd a gwyddoniaeth ecosystemau. Mae hi'n gweithio yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU.
Felicity Bennee o'r Fenni, Sir Fynwy - OBE am wasanaeth cyhoeddus o'i r么l fel dirprwy gyfarwyddwr a chyd-gadeiryddes Gr诺p Cyngor Technegol Cymru.
Alexander Loven o Wrecsam - MBE am ei wasanaeth i'r economi a'r gymuned. Ef sy'n berchen ar gwmni masnach Net World Sports.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2019