Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
URC i gynnal cyfarfod cyffredinol arbennig eleni
Bydd yna gyfarfod cyffredinol arbennig eleni i geisio sicrhau newid i lywodraethiant Undeb Rygbi Cymru (URC), medd cadeirydd yr undeb, Ieuan Evans.
Methodd cynnig yng nghyfarfod cyffredinol yr undeb ym mis Hydref a fyddai wedi galluogi bwrdd URC i benodi cadeirydd annibynnol.
Roedd 66% o'r pleidleisiau o blaid y cynnig, ond roedd angen cyrraedd trothwy o 75%, ac fe gamodd rhagflaenydd Evans fel cadeirydd, Rob Butcher i lawr.
Does dim dyddiad wedi ei gadarnhau eto ar gyfer y cyfarfod cyffredinol arbennig, pan fydd yna wahoddiad i dros 300 o glybiau fod yn rhan ohono.
Fel y mae pethau'n sefyll, mae'n rhaid i'r cadeirydd fod ymhlith wyth aelod bwrdd URC, ond mae yna awydd i benodi unigolyn annibynnol gyda mwy o brofiad i redeg busnes gyda throsiant o 拢100m.
Fe ddisgrifiodd Ieuan Evans y cyn-gadeirydd fel rhywun "sy'n mewn cysylltiad uniongyrchol 芒'r g锚m ar lefel gymunedol" gydag awydd "i foderneiddio URC o'r tu mewn, a'i fod "wedi cyflawni hynny yn rhannol".
Dywedodd: "Mae gen i barch enfawr at Rob a'r hyn y ceisiodd i'w wneud o ran dod 芒 sgiliau newydd i fwrdd URC, tra'n cynnal cysylltiadau 芒'r g锚m gymunedol a chaniat谩u i'r bwrdd benodi cadeirydd o tu fas i'w rhengoedd ei hun.
"Rwy'n bwriadu parhau ar yr un trywydd 芒 Rob yn hyn o beth. Ry'n ni'n gwybod bod angen pleidlais o 75% i basio unrhyw newidiadau i'n cyfansoddiad, ond mae'n hwb i ni bod 66% o'r clybiau wedi cefnogi'r cynnig diwethaf.
"O'r adborth ry'n ni wedi ei gael, byddai mwy o glybiau'n ymuno 芒 ni os y'n ni'n egluro'r rhesymeg yn fwy clir. Dyna'r dasg nawr.
"Byddan ni'n galw cyfarfod arbennig o aelodau, neu cyfarfod cyffredinol arbennig, yn 2023.
"Fe wnawn ni ailedrych ar y syniad y dylai'r bwrdd, petai'n dewis ar 么l ystyried yn gyntaf a allai cyfarwyddwr gyflawni'n r么l, benodi cadeirydd gyda'r medrau, craffter a phrofiad i oruchwylio'r busnes 拢100m sy'n cynnal ein g锚m.
"Byddai'n gam a allai weld nifer y cyfarwyddwyr yn codi o 12 i 13."
Dywed Evans y byddai'r undeb hefyd yn ceisio cynyddu nifer y cyfarwyddwr annibynnol anweithredol ar y bwrdd o dri i bedwar - cam a fyddai hefyd angen o leiad 75% o'r bleidlais.
"Byddan ni'n ymweld 芒 chlybiau a rhanbarthau i egluro'r hyn sydd gyda ni mewn golwg, ateb cwestiynau, gwrando a'r bryderon a'u lleddfu," ychwanegodd.
"Mae'r bwrdd yn credu mai gwelliannau llywodraethol yw'r ffordd gywir ymlaen i rygbi ac yn parhau'n ymroddedig i gymryd camau gwell i wella'r corff.
"Bydd yn diogelu ein dyfodol. Ymhell ar 么l fy nghyfnod i fel cadeirydd, byddai'r strwythurau ry'n ni eisiau eu gosod nawr yn dal yn dwy ffrwyth i'r holl gamp yng Nghymru.
"Mae angen i'n clybiau ddeall ein rhesymau dros newid a chynnydd gyda'r un eglurder 芒 finnau a fy nghyd-aelodau o'r bwrdd.
"Ry'n ni'n hyderus taw dyma'r peth cywir i wneud ond dyw hynny ddim yn golygu bod hawl 'da ni i ddisgwyl aelodau i gytuno 芒 ni.
"Arnom ni mae'r cyfrifoldeb i egluro ein dadleuon, cyflwyno casgliadau ein hadolygiad llywodraethiant diweddar a gadael iddyn nhw farnu a gweld gwerth [newid]."
Mae Evans hefyd yn gobeithio sicrhau mwy o amrywiaeth o fewn yr undeb, a fydd "yn cynnwys gofyn i aelodau basio cynigion i wella amrywiaeth rhywedd ein bwrdd a'n cyngor".
Dywedodd: "Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn y maes yma gydag etholiadau diweddar, ond mae angen i ni adeiladu ar hynny yn 2023.
"Dylai ein bwrdd a'n cyngor fod mor gynrychioladol 芒 phosib, a chyfrannu'n bositif at ddiwylliant sy'n hybu cydraddoldeb a chynhwysiad ac yn rhoi gwerth ar amrywiaeth."
Fe gododd cwestiynau ynghylch y diwylliant o fewn yr undeb pan ddaeth y cyn reolwr cyffredinol rygbi merched, Charlotte Wathan i"i gytundeb cyfeillgar" dros honiadau o anffafriaeth ar sail rhyw.
Roedd yna adroddiadau bod Wathan, a adawodd URC y llynedd, yn honni bod yna ddiffyg gweithredu wedi iddi roi gwybod i'r bwrdd llywodraethol am sawl digwyddiad anaddas honedig. Mae achos tribiwnlys oedd i fod i ddigwydd eleni bellach wedi ei dynnu'n 么l.
罢卯m Cymru a chytundeb rhanbarthol newydd
Dywed Evans bod llwyddiant i'r t卯m cenedlaethol ym mhencampwriaeth Cwpad y Byd yn Ffrainc a chwblhau cytundeb newydd gyda'r rhanbarthau yw blaenoriaethau 2023. Dyw chwaraewyr proffesiynol ddim yn gallu arwyddo cytundebau newydd yn swyddogol ar hyn o bryd.
"Mae gyda ni Warren [Gatland] yn 么l wrth y llyw o ran t卯m y dynion a chytundeb newydd chwe blynedd ar lafar i sicrhau cynaliadwyedd a llwyddiant i'r g锚m broffesiynol yng Nghymru," meddai.
"Rhaid troi'r consensws geiriol yma'r gytundeb ffurfiol, yn enwedig i roi'r hyder angenrheidiol i chwaraewyr yng Nghymru ac i'n g锚m broffesiynol gynllunio a ffynnu yn gyffredinol.
"Ar ddechrau blwyddyn Cwpan y Byd i d卯m dynion Cymru, mae gyda ni bob rheswm i fod yn optimistaidd at y dyfodol.
"Ry'n ni'n parhau i weithio'r galed ar osod y systemau cywir i gefnogi llwyddiant parhaus yn ein g锚m broffesiynol ac yn ddiflino o ran sicrhau diogelwch i'n g锚m gymunedol.
"Mae hwn yn gyfnod cyffrous. Mae Warren yn targedu llwyddiant yn syth yn Chwe Gwlad 2023 a Chwpan y Byd yn Ffrainc yn ddiweddarach eleni.
"Os gall unrhyw un gael effaith bositif yn syth, fe yw e ac mae wedi rhoi'r pwysau mwyaf posib ar ei hun trwy godi disgwyliadau o wirfodd.
"Ry'n ni eisiau iddo ennill bob g锚m yn y Chwe Gwlad, yna i Gymru fynd trwy'r gr诺p yng Nghwpan y Byd a mynd amdani yn y cymalau knockout, gan ysbrydoli'r genedl yn yr un ffordd ag yn 2011 a 2019.
"Rydym yn gosod disgwyliadau uchel, yn hytrach na safonau isafswm a meincnodau isel, ac mae Warren yna gyda ni."