Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gohirio rhai apwyntiadau
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi "digwyddiad mewnol difrifol" wrth iddyn nhw geisio ymdopi 芒 "galwadau digynsail" ar draws eu system iechyd a gofal.
Mae mwyafrif y triniaethau ac apwyntiadau ar gyfer dydd Mawrth, 3 Ionawr wedi'u gohirio .
Dywedodd Cyfarwyddwr Nyrsio'r bwrdd, Angela Wood, fod cynnydd sylweddol yn yr achosion o ffliw a Covid ac yn y niferoedd o gleifion wedi'u hanafu'n ddifrifol neu angen gofal brys.
Hwn yw'r ail ddigwyddiad mewnol difrifol i'w gyhoeddi gan y bwrdd o fewn y mis diwethaf yn dilyn pryderon am Strep A ac anafiadau o ganlyniad i'r tywydd oer ar 19 Rhagfyr.
Yn y cyfamser, yn y de, mae bwrdd iechyd Bae Abertawe wedi rhybuddio pobl i gadw draw o'r uned gofal frys yn Ysbyty Treforys heblaw am achosion sy'n bygwth bywyd oherwydd pwysau ar y gwasanaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pobl sydd 芒 chyflyrau nad ydynt yn peryglu bywyd i ddefnyddio gwefan 111 GIG Cymru yn y lle cyntaf.
"Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gefnogi cleifion sy'n feddygol ffit i gael eu rhyddhau o'r ysbyty ac rydym yn defnyddio'r holl staff sydd ar gael," meddai Ms Wood o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
"Mae hwn yn gyfnod eithriadol o heriol i gydweithwyr ar draws ein gwasanaethau iechyd ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr ymdrechion parhaus sy'n cael eu gwneud mewn amgylchiadau mor anodd."
Ag eithrio'r rhai mwyaf brys, bydd rhai apwyntiadau yn gael eu gohirio ddydd Mawrth, gyda'r bwrdd yn dweud y byddan nhw'n cysylltu 芒'r rhai fydd yn cael eu heffeithio er mwyn aildrefnu cyn gynted 芒 phosib.
Er hynny, fe ddylai'r rhai sydd i fod i dderbyn triniaeth neu apwyntiad o ddydd Mercher 4 Ionawr ymlaen gymryd yn ganiataol y byddan nhw'n dal i fynd yn eu blaen oni bai bod y bwrdd iechyd yn cysylltu'n uniongyrchol 芒 nhw.
'Helpu i leihau'r pwysau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r GIG yn wynebu galw digynsail y gaeaf hwn yn ymateb i achosion o'r ffliw a Covid.
"Bydd penderfyniadau staffio priodol yn cael eu gwneud i liniaru'r risgiau gyda ffocws ar barhau i ddarparu gofal achub bywyd a chynnal bywyd.
"Mae Byrddau Iechyd Lleol yn canolbwyntio ar ryddhau'r cleifion hynny nad oes angen gofal ysbyty arnynt mwyach.
"Er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar wasanaethau, gofynnwn i bobl 芒 symptomau tebyg i ffliw gadw draw o'r ysbyty oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol ac annog pawb sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw i wneud hynny.
"Cynghorir unrhyw un sydd 芒 chyflyrau nad ydynt yn peryglu bywyd i ddefnyddio gwefan 111 GIG Cymru yn y lle cyntaf."