´óÏó´«Ã½

Y chwilio yn parhau wedi diflaniad Aled Glynne Davies

  • Cyhoeddwyd
Aled Glynne DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Aled Glynne Davies ei fod yn gwisgo'r gôt werdd yma pan gafodd ei weld ddiwethaf

Mae'r chwilio yn parhau am gyn-olygydd ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru, Aled Glynne Davies, sydd ar goll yng Nghaerdydd ers nos Galan.

Cafodd Mr Davies, sy'n 65 oed, ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna nos Sadwrn, 31 Rhagfyr.

Yn ôl ei deulu, fe gerddodd ef a'i wraig yn ôl i'w tŷ ym Mhontcanna ar ôl gadael bwyty Uisce am 22:36.

Ar ôl cyrraedd adref, fe adawodd ei dŷ i fynd am dro ar ei ben ei hun.

Roedd yn gwisgo côt werdd dywyll, sbectol, a het werdd a brown tywyll, fel sydd wedi eu rhannu mewn llun gan y teulu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Nos Fawrth dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth am Mr Davies.

Chwilio'n ddyfal

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Michelle Conquer: "Ers i ni gael gwybod fore Sul bod Aled ar goll ry'n wedi ymchwilio'n ddyfal. Ry'n ar hyn o bryd yn chwilio parciau, coetiroedd a dyfroedd cyfagos o dan arweiniad swyddog arbenigol.

"Ry'n hefyd wedi ymchwilio pob camera cylch cyfyng a ffilmiau cloch drysau tai yn drylwyr - gan gynnwys camerâu yr awdurdod lleol, busnesau a thai preifat.

"Ry'n yn hynod bryderus am les Aled ac yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â ni ar frys."

Dywedodd ei deulu mewn apêl brynhawn Sul ei fod "ar goll ac angen tabledi ar frys".

Bu cannoedd o bobl yn helpu gyda'r chwilio yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ddydd Llun, gyda'r chwilio yn parhau ddydd Mawrth.

Yn gynharach fe wnaeth y teulu ofyn i bobl yng Nghaerdydd wirio eu camerâu CCTV neu unrhyw gamerâu eraill tu allan i'w tai.

Maen nhw'n annog pobl i edrych o ychydig o 22:30 nos Galan ymlaen.

Fe ofynnon nhw hefyd i bobl chwilio mewn eglwysi neu adeiladau tu allan.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan Gwenllian

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan Gwenllian

Mae Mr Davies yn chwe throedfedd o daldra a dywedodd ei deulu fod ei gefn wedi crymu rywfaint, a'i fod yn gerddwr araf.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i bobl gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300000314 os ydyn nhw'n amau eu bod wedi ei weld neu â unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth.

Pynciau cysylltiedig