大象传媒

Cymru i gynnig 'taliad untro' i atal streiciau iechyd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Gwynedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynhaliodd nyrsys streiciau yng Nghymru a rhannau eraill o Brydain fis diwethaf

Bydd gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael cynnig taliad untro mewn ymdrech i ddod 芒 streiciau i ben, yn 么l y prif weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at undebau llafur yn eu gwahodd i gyfarfodydd yr wythnos nesaf.

Dywed na allai'r llywodraeth fforddio parhau i ychwanegu'r arian at gyflog pobl ar 么l y flwyddyn ariannol hon, sy'n gorffen yn Ebrill.

Ond dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'n "sail ar gyfer trafodaethau".

Mae llythyr a gafodd ei anfon at undebau ddydd Gwener "yn cynnwys cynnig o daliad untro yn y flwyddyn ariannol bresennol", meddai Mr Drakeford ar raglen Sunday Supplement 大象传媒 Radio Wales.

Dywedodd fod y cabinet wedi cyfarfod dros y Nadolig i drafod sut i "ryddhau arian".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gobeithio y byddai cynnig y llywodraeth yn "sail ar gyfer trafodaethau"

Cynhaliodd nyrsys streiciau yng Nghymru a rhannau eraill o Brydain fis diwethaf, ac mae streiciau hefyd yn digwydd yn y gwasanaeth ambiwlans.

Bydd staff ambiwlans yn cynnal dau ddiwrnod arall o weithredu diwydiannol yn yr wythnosau nesaf, a dyw Coleg Brenhinol y Nyrsys ddim wedi diystyru rhagor o streiciau chwaith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5% i staff yn y gwasanaeth iechyd, ond mae Colegau Brenhinol y Nyrsys yn gofyn am 19% o gynnydd.

Mae gweinidogion wedi dweud yn y gorffennol y byddai talu mwy yn golygu tynnu arian yn 么l o wasanaethau, ar adeg pan fo ysbytai yn wynebu rhestrau aros hir.

Yr wythnos ddiwethaf ymddiheurodd prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i gleifion sydd wedi dioddef profiad gwael.

Er mwyn lleddfu'r pwysau, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y gellid rhyddhau pobl sy'n ddigon iach i adael yr ysbyty, hyd yn oed os nad ydy'r trefniadau ar gyfer eu gofal yn y cartref yn barod.

Mae diffyg gofal cymdeithasol wedi cael ei feio am orfodi pobl i aros yn yr ysbyty am gyfnodau hir.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Eluned Morgan eu bod yn gallu cynnig taliad untro, ond na allan nhw gynnig codiad cyflog yn y tymor hir

Ar raglen Bore Sul 大象传媒 Radio Cymru fe gadarnhaodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan eu bod wedi gwahodd undebau am drafodaethau yr wythnos nesaf er mwyn ceisio dod i delerau.

"Dros y Nadolig, ry'n ni gyd wedi bod yn gweithio'n ddiwyd i geisio creu pecyn ar gyfer blwyddyn ariannol eleni," meddai.

"Ry'n ni wedi bod yn ailedrych ar ein cyllidebau i weld beth allwn ni gynnig, os oes rhywbeth ychwanegol, a byddwn ni'n trafod hynny gyda'r undebau yr wythnos nesa'.

"Beth allwn ni ddim cynnig yw arian ychwanegol fydd yn cario 'mlaen ar gyfer y flwyddyn nesa'. Dyna lle mae'r broblem, a dyna lle mae'r broblem gyda San Steffan.

"Ni wedi edrych bobman yn ein cyllidebau eleni i weld beth allwn ni wneud.

"Ry'n ni hefyd wedi ymrwymo i wneud mwy ym maes asiantaeth - i gael llai o weithwyr yn gweithio i asiantaethau - ac ry'n ni eisiau gwneud mwy er mwyn cael mwy o ffydd yn y corff cyflog annibynnol."

'Dim yn ddigon'

Ond yn 么l Heley Whyley, Cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, mae angen datrysiad mwy hir dymor na chynnig taliad untro yn unig i nyrsys.

"Mae nyrsys wedi blino'n l芒n, mae angen i ni weld cynnig go iawn ar y bwrdd sy'n mynd i ddelio gyda hynny, nid jyst yn y flwyddyn ariannol yma, neu'r un nesaf, ond y rhai sydd i ddod.

"Yn fy marn i dyw taliad untro ddim yn debygol o ddatrys yr anghydfod gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu staff y gwasanaeth ambiwlans - fel y rhai yma yng Nghaerdydd - hefyd yn streicio fis Rhagfyr

Yn y cyfamser, mae arweinydd Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am yr hyn maen nhw'n dweud yw'r penderfyniad i "wrthod cymryd rhan mewn trafodaethau cyflog gydag undebau iechyd" hyd yma.

"Mae dirywiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, lle mae un o bob pump o bobl ar restr aros ysbyty, wedi digwydd o dan wyliadwriaeth Llafur Cymru," meddai Adam Price.

"Nid dim ond y tanariannu - y mae pob llwybr yn anochel yn ei arwain yn 么l i San Steffan - ond hefyd y diffyg buddsoddiad llwyr mewn gofal cymdeithasol, a diffyg ymgysylltu ag anghydfodau gweithwyr.

"Er gwaethaf yr holl alwadau cyfiawn ar Lywodraeth Dor茂aidd y DU i gyfarfod ag arweinwyr undebau iechyd, mae Llywodraeth Lafur Cymru hefyd wedi osgoi trafodaethau ystyrlon i ddatrys yr anghydfod cyflog.

"Mae'n rhwystredig iawn gweld ymateb llywodraeth Lafur Cymru - maen nhw'n barod i herio'r Tor茂aid, ond eto maen nhw'n gwneud yn union yr un peth yma yng Nghymru."

Talu mwy tuag at ofal cymdeithasol?

Dywedodd Mr Drakeford hefyd ddydd Sul y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych eto ar y syniad o ofyn i bobl dalu mwy at ofal cymdeithasol trwy ardoll, neu dreth arbennig.

Cafodd y syniad ei lunio ychydig flynyddoedd yn 么l gan yr economegydd Gerald Holtham, cyn iddo gael ei roi o'r neilltu.

"Fe fyddwn ni'n edrych arno," meddai Mr Drakeford.

"Nid yw heb ei gymhlethdodau. Unwaith eto, ni ddylai neb feddwl ei fod yn ateb syml.

"Ond rwy'n meddwl bod ganddo rywfaint o atyniad yn ei gylch oherwydd byddai pobl yn gwybod nad yw'r arian y maent yn ei gyfrannu yn cael ei ddefnyddio ar gyfer anghenion heddiw nac at ddibenion cyffredinol."