Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cadair Eisteddfod Genedlethol LlÅ·n ac Eifionydd 'yn siapio'
Mae siâp a stori Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yn dod at ei gilydd gwta dri mis cyn dyddiad cau y gystadleuaeth.
Mae'r gadair sy'n cael ei chreu o goed derw lleol a ddisgynnodd mewn storm, "wedi cymryd ei siap" yn ôl y saer Stephen Faherty.
Gyda Ebrill 1, dyddiad cau cystadleuaeth y gadair yn nesáu, aeth cyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes, i weld datblygiad y gadair.
Cadair sy'n dweud ei stori
Cafodd Stephen Faherty, saer coed sy'n arbenigo mewn cerflunio o Brenteg ger Porthmadog ei ddewis i greu'r gadair gan yr Eisteddfod ar ôl gwneud cais.
Un o'r gofynion oedd fod y saer yn defnyddio'r coedyn eiconig o'r Lôn Goed a ddisgynnodd mewn storm. Plannwyd y coed yno tua 200 mlynedd yn ôl, ac mae'r llecyn wedi ei anfarwoli gan gerdd R Williams Parry, Eifionydd.
'A llonydd gorffenedig. Yw llonydd y Lôn Goed' meddai R. Williams Parry yn y gerdd. Er mai anorffenedig yw'r gadair ar hyn o bryd, mae gweledigaeth Steven ar ei chyfer yn hollol glir, sef ei bod yn dweud ei stori.
Meddai: "Pan welis i'r horwth o goedyn oedd ar y llawr i gychwyn, do'n i'm yn teimlo yn hyderus i roi cais i mewn achos dwi'n fwy o naddwr yn hytrach na saer coed.
"Ond pan welis i'r bonyn oedd ar y llawr, 'nath hwnna gyfathrebu efo fi mewn ffordd ryfadd - a deud 'mi fedri di neud hyn efo fi', a dangos natur y boncyff ei hun.
"Mae hon yn dangos stori - mae'n gymaint o deyrnged i'r goedan dderw ei hun a mae hi i Mr Dafydd Orwig (gan deulu'r diweddar Dafydd Orwig y cyflwynir y gadair).
"Felly mae hi'n ddwywaith o deyrnged mewn ffordd, a mae rhywun yn meddwl - pan oedd y goedan yma yn tyfu ac yn rhoi mês a dail - oedd hi'n cyfoesi efo R. Williams Parry 'doedd."
Er bod siâp y gadair yn ei lle, mae gan Stephen dipyn o "waith pydru a naddu i lawr arni".
Mae'n debyg y bydd elfennau naturiol iawn i Gadair Eisteddfod LlÅ·n ac Eifionnydd. Eglura: "Dyna oedd y syniad i ddeud gwir - i adael i'r goeden ei hun serennu ac i gadw gymaint o raen y goeden a fedrwn i. Mae hi yn gymaint o gerflun a mae hi o gadair mewn ffordd."
"'Da ni wedi ei dylunio hi fel ei bod hi yn gyfforddus yn mynd i mewn i gongl - alla i ddweud hynny amdani hi. I bwy bynnag fydd yn dod i mewn i'r stafall ac yn gweld hon wedi iddi orffan, bydd hi yn tynnu llygad, mae hynna yn bendant."
Dyddiad cau yn nesáu
Hefyd yn gweld datblygiad cyffrous y gadair oedd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.
Meddai Myrddin: "Dwi wrth fy modd yng nghwmni crefftwyr ac yn eu clywed nhw yn dy dywys di i mewn i gyfrinachau crefft, a ddes i yma gynta fis yn ôl a wnes i wirioni, ma'n gyffrous ac mae o'n ehangu'r dychymyg hefyd.
"O'n i yn gyfarwydd â'r gadair fel boncyff a dweud y gwir achos mae'r Lôn Goed i mi yn gyfarwydd fel i lawar yn yr ardal 'ma, yn lle 'dan ni'n mynd am dro, ac o'n i yn gyfarwydd â'r storm yna a ddigwyddodd a'r goedan yn dod i lawr.
"Fuodd hi yn gorwedd wedi ei thorri yn fras ar ochr y Lôn Goed am flynyddoedd ac o'n i'n meddwl - be sy'n mynd i ddigwydd i hon a wir wnes i ddim dychmygu y basan ni yn dod i fan hyn…
"Ond mae'n wych - y cysylltiad llenyddol yna efo'r Lôn Goed a bo' ni'n cael cadair o'r Lôn Goed.
Awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau dan y testun, Llif, yw gofynion cystadleuaeth y gadair eleni, ac mae gan Myrddin air o gyngor i'r beirdd:
"Y cyntaf o Ebrill, dyna'r dyddiad cau, a tasach chi'n gweld be 'dan ni'n ei weld rŵan dwi'n meddwl fydda 'na giw reit hir am y gadair!"
Hefyd o ddiddordeb: