大象传媒

Llywodraeth Cymru: Dim cynnig ffurfiol i staff y GIG eto

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr ambiwlans ar linell biced ym Mae Colwyn ddydd Mercher 11 Ionawr 2023
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gweithwyr ambiwlans ar linell biced ym Mae Colwyn ddydd Mercher

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes cynnig ariannol ffurfiol wedi ei wneud i undebau iechyd cyn y trafodaethau ddydd Iau.

Roedd adroddiadau bod gweinidogion yn ystyried cynnig taliad untro o 拢1,000 i weithwyr iechyd, sydd ar streic.

Mewn llythyr at yr undebau ddydd Gwener diwethaf, fe gynigiodd y Prif Weinidog Mark Drakeford daliad untro - ond doedd dim s么n am swm penodol yn hwnnw.

Bydd yr undebau'n cyfarfod 芒 gweinidogion ddydd Iau, ond mae ffynhonnell yn y llywodraeth wedi dweud bod dim "ffigyrau pendant ar y bwrdd ar y foment".

"S茂on" yw'r adroddiadau yn 么l ffynhonnell arall, sy'n mynnu bod dim swm pendant wedi ei awgrymu i'r undebau yn ffurfiol.

Byddai taliad ychwanegol o 拢1,000 ar ben y codiad cyflog sydd eisoes wedi ei gyflwyno yn dod 芒 chynnig eleni'n agosach at lefel y costau byw presennol.

Ond wrth bwysleisio nad oes swm pendant wedi ei grybwyll, mae unigolion o fewn y llywodraeth yn dweud pe byddai'r undebau'n awyddus i drafod, "bydd taliad untro yn destun trafodaeth".

Digon i sicrhau cefnogaeth?

Yn 么l un o'r ffynonellau, mae'r syniad o daliad untro yn "wir ymgais" i ddod 芒 gweithredu diwydiannol i ben a bod dim bwriad i wneud "cynnig pitw".

Dywedodd ffynhonnell, sy'n uchel o fewn un o'r undebau llafur iechyd, y byddai unrhyw gynnig sydd tua 拢1,000 yn cael ei roi gerbron aelodau.

Ond fe ddywedodd nad yw'n sicr y byddai'n ddigon i sicrhau eu cefnogaeth.

Roedd cynnig y llywodraeth haf diwethaf i roi codiad cyflog o 拢1,400 i weithwyr yn cynnwys nyrsys, glanhawyr a phorthorion yn gyfystyr 芒 chynnydd o rhwng 4% a 5.5%, gan ddibynnu ar radd yr unigolyn.

Byddai taliad untro o 拢1,000 yn agosach at lefel chwyddiant, sydd o gwmpas 10.7%

Mae dros 1,000 o weithwyr ambiwlans yng Nghymru sy'n perthyn i undeb y GMB yn cynnal streic 24 awr tan hanner nos, nos Fercher - yr eildro iddyn nhw weithredu o fewn tair wythnos.