大象传媒

Cynnydd sylweddol i incwm ffermwyr yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
gwartheg mewn caeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffermwyr llaeth sydd wedi gweld eu hincwm yn cynyddu fwyaf, a hynny o 46%

Mae incwm ffermydd Cymru wedi cynyddu'n gyson dros y pedair blynedd diwethaf, yn 么l ffigyrau newydd.

Rhwng Mawrth 2021 a Mawrth 2022, fe wnaeth incwm ffermydd gwartheg a defaid ar dir uchel godi 29% - i gyfartaledd o 拢38,000 - ac i ffermydd ar dir isel roedd cynnydd o 16%.

Ond dyw'r cyfnod hwnnw ddim yn cynnwys effaith y cynnydd mewn prisiau a welwyd i'r diwydiant amaeth ers y rhyfel yn Wcr谩in.

Ac mae'r ffigyrau incwm iach yn creu darlun camarweiniol, yn 么l un ffermwraig adnabyddus, oherwydd y pwysau ar ffermwyr o ffactorau eraill.

'Ffigyrau camarweiniol'

Dangosodd ffigyrau diwedddaraf Llywodraeth Cymru bod incwm cyfartalog fferm laeth yng Nghymru bellach yn 拢88,000, gyda chynnydd mewn prisiau llaeth yn ddiweddar wedi helpu hynny.

Roedd hynny'n gynnydd o 46% o'i gymharu gyda'r flwyddyn gynt, gyda ffermydd b卯ff wedi gweld llai o gynnydd - 16% dros 12 mis.

"Mae fferm b卯ff a defaid ar lawr gwlad, fi'n credu mai'r ffigwr yw tua 拢26,500 y flwyddyn," meddai Meinir Howells, ffermio cig eidion ger Llandysul.

"Ond wedyn os wnewch chi edrych ar y llun ehangach, yr oriau ni'n rhoi mewn, mae'n gweithio allan tua 拢3.50 yr awr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ffigyrau incwm ffermwyr ychydig yn gamarweiniol heb ystyried y ffactorau eraill sy'n effeithio arnyn nhw, meddai Meinir Howells

"Pwy fydde'n fodlon gweithio am 拢3.50 yr awr y dyddie hyn? Mae'n afresymol."

Ychwanegodd Ms Howells, sydd hefyd yn un o gyflwynwyr rhaglen Ffermio ar S4C, mai dyma un o'r cyfnodau mwyaf ansicr erioed i'r diwydiant, ac mai heriau yn hytrach nag incwm oedd ar flaen meddyliau nifer.

"Dwi'n meddwl mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn shwt ni'n dadansoddi nhw achos realiti'r peth yw mae'r ffigyrau'n gamarweiniol iawn," meddai.

"Mae 'da ni bethau fel TB yn poeni ni, yr NVZs [Parthau Perygl Nitradau], rheolau d诺r newydd, ni'n poeni am beth fydd y Bil Amaeth Cymru, yr SFS [Cynllun Ffermio Cynaliadwy] - lot o bethau sydd yn poeni ffermwyr ar hyn o bryd."

Effaith Wcr谩in eto i ddod

Tra bod effeithiau'r pandemig yn cael eu hadlewyrchu'n rhannol, dyw cyfnod y rhyfel yn Wcr谩in ddim yn rhan o ffenest y ffigyrau.

Mae hynny wedi arwain at gynnydd mewn prisiau dros y misoedd diwethaf, ac mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn poeni felly na fydd ffigyrau'r flwyddyn nesaf mor llewyrchus.

"Mae [pris] gwrtaith 'di codi'n arw, mae bwydydd [anifeiliaid] 'di codi, mae ynni - nwy, tanwydd, ac yn y blaen - wedi codi'n aruthrol hefyd," meddai Glyn Roberts.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rwsia ac Wcr谩in yn cynhyrchu llawer o wrtaith a bwyd anifeiliaid y byd - ac felly mae'r rhyfel wedi achosi i brisiau gynyddu'n sylweddol

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud iddyn nhw gyhoeddi 拢227m dros yr haf llynedd i gynorthwyo ffermwyr dros dair blynedd.

Ond er yr heriau cynyddol, mae Meinir Howells yn dweud na fyddai hi eisiau newid dim ar ei bywoliaeth.

"Pan chi'n gweld bywyd newydd yn cyrraedd y lle, mae'n codi'ch calon chi, ac ma' fe'n rhywbeth eitha' arbennig," meddai.

"Ond mae isie help arnon ni nawr gan y llywodraeth, cyn ei bod hi'n rhy hwyr, a chyn bod ni'n colli ffermwyr am byth."

Pynciau cysylltiedig