Cyhoeddi rhagor o streiciau nyrsys 'yn fuan iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r dyddiadau nesaf ar gyfer streic nyrsys gael eu cyhoeddi'n fuan, yn 么l un arweinydd undeb.
Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, mai'r "cam gorau nesaf" fyddai i Lywodraeth Cymru barhau i drafod cyflogau.
"Rydyn ni'n teimlo fel ein bod ni wedi cyrraedd pwynt lle nad oes opsiwn ond dechrau siarad nawr am y dyddiadau streic nesaf yng Nghymru," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5% i staff.
'Dim buddsoddiad mewn nyrsys'
Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan hefyd gynnig taliad untro yn ystod trafodaethau gyda'r undebau ddydd Iau.
Ond dywedodd Ms Whyley wrth raglen Sunday Supplement 大象传媒 Radio Wales na fydden nhw'n ystyried y cynnig hwnnw, ac felly bod y dyddiadau streic nesaf "yn cael eu cyhoeddi'n fuan iawn, iawn".
Yn amlwg y cam gorau nesaf i nyrsys yw bod Llywodraeth Cymru'n newid cyfeiriad o ran ceisio setlo'r anghydfod, dod yn 么l at y bwrdd a dechrau trafodaethau ystyrlon am gyflogau.
"Yn anffodus, dyw hynny ddim yn edrych fel y bydd yn digwydd yn fuan."
Dywedodd Ms Whyley eu bod yn cymryd y camau hyn er lles "diogelwch pobl".
"Mae gofal yn y coridor yn normal [bellach], gyda dim digon o nyrsys i edrych ar 么l pobl," meddai.
"Am flynyddoedd dydyn ni jyst ddim wedi bod yn buddsoddi yn y proffesiwn nyrsio. Mae angen cynllun ar gyfer ble bydd nyrsys yn mynd yn eu gyrfaoedd, nid jyst ble maen nhw'n dechrau."
Streiciau ambiwlans hefyd
Mae gweithwyr ambiwlans hefyd yn bwriadu streicio unwaith eto ar 19 a 23 Ionawr, yn 么l Richard Munn o undeb Unite.
Dywedodd mai gweithredu diwydiannol oedd y "cam olaf un" odd yn cael ei gymryd wedi "dros ddegawd o gwtogi cyflogau mewn termau real".
Er ei fod yn croesawu trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru dydwedodd nad oedd hynny'n ddigon.
"Mae angen codiad cyflog ar ein haelodau," meddai. "Byddai taliad untro ond yn datrys y broblem dros dro."
Dywedodd Eluned Morgan fod y gostyngiad cyflogau mewn termau real yn dod o ganlyniad i ddegawd o lymder a thoriadau gan Lywodraeth y DU.
Ychwanegodd bod cynnig y taliad untro yn "ddechrau'r drafodaeth".
"Mae'n bosib na allwn ni fynd yn bell iawn, ond rydyn ni'n trio'n gorau," meddai wrth 大象传媒 Politics Wales.
Ychwanegodd y gallai ceisio dod 芒'r streiciau i ben fod "un cam yn rhy bell" i Lywodraeth Cymru ei gymryd.
"Rydyn ni mewn lle gwahanol i Loegr ble dydyn nhw heb roi unrhyw beth ar y bwrdd," meddai. "Dydyn nhw ddim yn gwneud unrhyw ymdrech o gwbl.
"Dwi'n meddwl bod y cyhoedd yng Nghymru yn deall fod beth sydd gennym ni i'w wario yng Nghymru yn ganlyniad uniongyrchol i faint sy'n cael ei wario ar iechyd yn Lloegr.
"Fe allwn ni newid o gwmpas ar yr ymylon ond dyna realiti'r sefyllfa."
'Anodd ond nid amhosib'
Dywedodd Russell George, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, fod yn "rhaid i Lywodraeth Cymru drafod o ddifrif" gyda'r undebau ar gyflogau.
"Mae'n rhaid i ni weld y gweinidog iechyd yn rhoi stop ar feio Llywodraeth y DU am rhywbeth sydd yn rhan o'i chyfrifoldeb hi," meddai.
Mae Plaid Cymru'n dweud eu bod wedi gweld arian ychwanegol yn y gyllideb fyddai'n caniat谩u i Lywodraeth Cymru gynyddu eu cynnig cyflog i weithwyr iechyd.
"Rydw i'n cytuno'n llwyr gyda'r gweinidog Llafur nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu digon o adnoddau," meddai llefarydd y blaid ar iechyd, Rhun ap Iorwerth.
"Ond fe glywson ni Eluned Morgan yn dweud ei bod hi'n anodd iawn dod o hyd i'r arian - mae'n anodd, wrth gwrs, ond nid yn amhosib."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2022