Dynes, 83, wedi marw ar 么l ymosodiad 'treisgar' gan gi
- Cyhoeddwyd
Clywodd agoriad cwest fod dynes 83 oed wedi marw o sepsis a briwiau oedd wedi eu heintio, ar 么l i gi ymosod arni yn ei chartref yng Nghaerffili.
Cafodd y cwest llawn i farwolaeth Shirley Patrick ei ohirio tan fis Hydref wrth i ymchwiliadau'r heddlu i amgylchiadau'r farwolaeth barhau.
Dywedodd Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders, fod yr heddlu wedi dod o hyd i Shirley Patrick, cyn-nyrs oedd wedi ymddeol, gydag anafiadau difrifol ar 3 Rhagfyr.
Dywedodd Ms Saunders fod Ms Patrick wedi ffonio'r heddlu yn gofyn am gymorth.
Arestio pedwar
"Dywedodd yr heddlu fod ci wedi ymosod arni a bod ganddi anafiadau sylweddol i'w hwyneb a'i breichiau," meddai'r crwner.
Fe gafodd y bensiynwraig ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond bu farw ar 20 Rhagfyr.
Dywed adroddiad cychwynnol mai achos y farwolaeth oedd sepsis oedd wedi ei achosi gan friwiau oedd wedi eu heintio o ganlyniad i ymosodiad gan gi, a niwmonia.
Penderfynodd y crwner fod angen ymchwiliad pellach i'r farwolaeth, oedd yn un "treisgar ac annaturiol".
Yn dilyn yr ymosodiad mewn t欧 yn Heol Fawr, cafodd pedwar o bobl eu harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi oedd yn beryglus ac allan o reolaeth.
Cafodd y pedwar eu rhyddhau ar fechn茂aeth amodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2022