Sut i arbed costau wrth ofalu am eich anifail anwes

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r argyfwng costau byw dros y blynyddoedd diweddar wedi cael effaith ar sawl agwedd o'n bywydau.

Un peth sydd wedi newid ydy gallu rhai pobl i ofalu am anifeiliaid anwes, gyda'r costau i'w cadw'n golygu bod rhai pobl yn gorfod eu rhoi n么l.

Ar raglen Bore Cothi ar 大象传媒 Radio Cymru ar 18 Ionawr fe siaradodd y milfeddyg Dr Lowri Davies am y sefyllfa bresennol.

"Ma' fe'n broblem fawr a dweud y gwir. Os chi'n edrych n么l ar y pandemig, oedd pobl yn talu arian dwl am g诺n bach. A nawr wrth gwrs ma'r sefyllfa 'di newid, ma pobl n么l yn eu gwaith a'r sefyllfa economaidd 'di newid. Falle doedd dim un ci i gael yn y llefydd ail-gartrefu 'ma, a nawr mae fel bod nhw'n llawn. Ti'n gorfod aros nawr i gael dy gi neu gath i fewn i gael ei ail-gartrefu.

"Mae pobl yn meddwl bod cost o brynu ci, cath neu geffyl, ond i fod yn hollol wir dyna'r gost lleiaf gyda'r anifail. 'Dyw pobl ddim yn meddwl faint ma'r anifail yn mynd i gostio i edrych ar ei 么l yn iawn.

"'Da ni'n gwneud payment plans, ac mae nifer o filfeddygon yn creu rhywfath o glwb ble ti'n talu hyn a hyn bob mis ar gyfer brechiadau a meddyginiaeth llyngyr. Ond dwi'n derbyn bod hyn ddim yn helpu ar gyfer pethau ry'n ni ddim yn ei ddisgwyl, os yw'r anifail yn torri'i goes neu rhywbeth."

Fitiaminau a 'supplements' anifeiliaid

Heddiw, mae llawer o fitaminau a tabledi arbennig ar gael i'r anifeiliaid er mwyn trin eu hiechyd mewn gwahanol ffordd. Ydy rhain yn angenrheidiol yn 么l Lowri? "Na, i fod yn hollol onest dwi'n aml yn trio dysgu'r perchennog i ddarllen y labeli.

"Y mwyaf o bethau sydd yn y bwyd, fel arfer gwaeth yw ansawdd y bwyd. Protein yw'r peth drud mewn bwyd anifail, a protein mewn ffordd sydd fwyaf pwysig i'r anifail. Felly os wyt ti'n gweld bod pethau wedi cael eu rhoi fewn, perlysiau a phethau ts锚p, mae hwnnw'n troi bwyd o ansawdd s芒l yn aml i beth mae'r prynwr yn meddwl sy'n fwyd o ansawdd da - ond ma nhw'n wasto arian."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Oes angen fitaminau ychwanegol ar gi? Neu a yw diet cytbwys yn ddigonol?

"Beth rwy' wastad yn dweud yw i edrych am rywbeth syml heb lot o gynhwysion, ac hyd yn oed os ydyn nhw'n dweud mai cig oen neu cig cyw i芒r sydd ynddo - edrych yn fanwl i weld mai dim ond hynny sydd ynddo fe yn nhermau protein, achos yn aml ma nhw'n rhoi olew cyw i芒r neu wyau."

Hefyd mae lot yn rhoi sugar beet yn y bwyd, meddai Lowri, mewn bwyd ceffylau er enghraifft, sy'n chwyddo'r bwyd ond ddim yn rhoi lot o faeth i'r anifail.

"Ma' rhaid pwyso'r bwyd, achos dwed bod ti'n prynu bag 15kg ac ti'n gorfod defnyddio 500g y dydd yn lle 100g y dydd, dyw'r bag sydd yn edrych fel y rhata' ddim y rhata' go iawn ar ddiwedd y dydd. Dwi'n trio rhoi rhyw dri opsiwn gwahanol i'r perchennog edrych arno yngl欧n 芒 sut mae bwydydd gwahanol am fwydo yr anifail - o'r bwyd drud i'r rhataf, a gwerth am arian."

Sgraps y t欧

Ydy hi'n iawn i fwydo sgraps y t欧 i'r anifail weithia? "Mae'n dibynnu," meddai Lowri. "Os yw sgraps dy d欧 di'n rhywbeth sydd dros ben o McDonalds, na 'dyw e ddim yn iawn. Ond os wyt ti'n gwneud tato ag ati dy hun, does dim byd yn anghywir yn hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ydy hi'n iawn bwydo sgraps y bwrdd bwyd i gi?...

"Dwi'n licio rhoi pysgod ffres i'r c诺n. Ry'n ni'n clywed am ba mor dda yw'r Mediterranian diet i ni, wel mae'r 'run peth yn dda i'r ci neu gath.

"Falle bod hynny'n ffordd arall o arbed arian achos mae 'na nifer o gynhwysion allan ar gyfer y cymalau gyda Omega 3 a 6, ond mae pysgodyn ffres unwaith neu ddwy yr wythnos falle'n rhatach ac yn gwneud mwy o les na gwario punt neu ddwy y dydd am rywbeth sydd mewn potel.

"Os na fydden i'n hapus i fwyta fe fy hunan, yn aml dwi'n meddwl fydden i ddim yn bwydo fe i'r ci neu gath. O fewn rheswm mae sgraps yn iawn - mae winwns yn gallu bod yn wenwynig, a phethau fel siocled a grawnwin - ond defnyddiwch bach o synnwyr cyffredin.

"Ni yn gor-fwydo ein anifeiliaid - rwy'n credu os bydde pobl yn bwydo eu hanifeiliaid yn iawn ac yn rhoi digon o ymarfer corff i nhw, bydden i allan o swydd!"

Yswiriant anifeiliaid

Gyda costau meddygol anifeiliaid anwes yn gallu bod yn uchel iawn, beth fyddai cyngor Dr Davies yngl欧n ag yswiriant?

"Rydyn ni yn argymell i bobl gymryd yswiriant allan neu i gynilo rhywbeth yn y banc bob mis ar eu cyfer nhw.

"Mae e'n wir i ddweud bod ti'n cael beth ti'n talu amdano, ond o fewn hynny mae rhai polis茂au ts锚p yn edrych yn dda iawn. Er enghraifft maen nhw'n dweud 'gyda'r polisi hwn ti'n talu 拢20 yr wythnos ac mae gen ti 拢10,000 y flwyddyn ar gyfer ffioedd milfeddyg'. Ond pan ti'n edrych ar y print man, ti ond yn cael 拢50 gyda pob gwahanol broblem, felly bydde rhaid i'r anifail gael 20 o gwahanol broblemau i gael y gwerth."

Ffynhonnell y llun, ullstein bild

Disgrifiad o'r llun, Yr Irish Wolfhound; ci sydd fel arfer ymysg y mwyaf costus ac anodd i'w edrych ar ei 么l.

"Mae rhai eraill wedyn yn cyfro'r anifail am ei oes; dwed bod problem ar y galon, bydden nhw'n talu mas bob blwyddyn, felly falle bydden nhw'n talu mas 拢2,000 neu 拢6,000 bob blwyddyn - 'na be' ti'n cael gyda be' ma' nhw'n galw'n lifetime policy.

"Mae ambell i fr卯d yn fwy drud. Mae'r c诺n mawr sy'n tueddu cael mwy o brobleme, yn fwy costus i drin, fel yr Irish Wolfhound. Hefyd yn fwy drud mae rhai o'r c诺n ni'n gwybod sydd ag mwy o brobleme fel y French Bulldog.

"Mae'r cod post lle chi' byw hefyd yn gwneud gwahaniaeth - chi'n talu mwy ar gyfer prisiau milfeddygfa yn Llundain nac yng nghefn gwlad Cymru. Mae'n bwysig i ddarllen y print m芒n, ac ni wastad yn argymell polisi am fywyd - mae nhw'n tueddu i fod bach yn ddrytach ond ar y cyfan ma' 'heiny'n werth yr arian achos ti'n gwybod bod nhw'n cadw i dalu allan o flwyddyn i flwyddyn."

Hefyd o ddiddordeb: