Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trefynwy: Parhau 芒 dosbarthiadau Cymraeg er 'siom' tri disgybl
Mae cyngor am fwrw ymlaen gyda chynlluniau all weld ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Nhrefynwy, er mai ond tri o blant sydd wedi cofrestru ar gyfer mis Medi.
Bwriad Cyngor Sir Fynwy yw sefydlu dosbarthiadau cyfrwng Gymraeg ar gyfer disgyblion meithrin, derbyn a Blwyddyn 1 ar safle Ysgol Gynradd Overmonnow.
Byddai'r cyfleuster newydd yn "ddosbarth lloeren" o Ysgol Gymraeg y Ffin yng Nghil-y-coed.
Ond yn ystod cyfarfod o'r cabinet yr wythnos hon fe gadarnhawyd mai ond tri disgybl sydd wedi cofrestru o flaen llaw ar gyfer y dosbarthiadau newydd.
'Debyg na chawn ni fwy na llond llaw'
Penderfyniad cabinet y cyngor Llafur, serch hynny, oedd bwrw ymlaen gydag ymgynghoriad ar sefydlu ysgol cyfrwng Gymraeg penodedig, hefyd ar safle Overmonnow, o fis Medi 2024.
Byddai'r ysgol yn costio 拢2,115,699, wedi'i ariannu gan grant Llywodraeth Cymru.
Cyfaddefodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, yr aelod cabinet dros addysg, ei fod yn "siomedig" fod cyn lleied wedi cofrestru ar gyfer mis Medi.
"Gadewch i mi fod yn ddi-flewyn ar dafod - mae'n siomedig mai dim ond tri o blant yn Nhrefynwy sydd wedi cofrestru," meddai.
"Byddai'n hyfryd pe bai 50 yn fwy o rieni yn penderfynu, fel y gallant wneud, i gofrestru. Mewn gwirionedd mae'n debyg na chawn ni fwy na llond llaw."
Dau o blant sydd wedi cofrestru ar gyfer y dosbarth derbyn ac un ar gyfer y meithrin.
'Cymryd naid ffydd'
Gyda'r "dosbarth lloeren" yn agor fis Medi o dan reolaeth Ysgol y Ffin, bydd yr ymgynghoriad yn cynnig sefydlu ysgol ar gyfer plant tair i 11 oed, gyda'i phennaeth a chorff llywodraethu ei hun.
Byddai wedi'i lleoli ar safle Overmonnow, lle bydd yr ysgol cyfrwng Saesneg yn parhau ar agor.
Dywedodd arweinydd yr wrthblaid, y Cynghorydd Richard John, ei fod yn cefnogi rhoi dewis cyfrwng Saesneg neu Gymraeg i rieni lleol.
"Nid oes ganddyn nhw hynny mewn gwirionedd ar hyn o bryd oherwydd amseroedd teithio [i'r Fenni]," meddai'r Cynghorydd John.
Gofynnodd hefyd a oedd y cyngor wedi ystyried "effaith" dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg newydd ar ysgolion cyfrwng Saesneg presennol yn yr ardal - ble mae niferoedd disgyblion yn gostwng ac nad oes disgwyl iddynt godi.
Dywedodd yr aelod cabinet Tudor Thomas ei fod wedi bod ynghlwm 芒 sefydlu Ysgol y Fenni yn 1994 a ddechreuodd gydag ond 19 o ddisgyblion ond sydd bellach 芒 bron i 270.
"Rhaid i ni gymryd y naid ffydd honno," meddai gan ychwanegu fod "materion staffio oherwydd afiechyd" wedi bod ym meithrinfa Cylch Meithrin Trefynwy yn ddiweddar a allai fod wedi effeithio ar gofrestriadau.
Mae'r ymgynghoriad ar sefydlu ysgol newydd yn digwydd rhwng Mehefin a Gorffennaf eleni.
Yn dibynnu ar ei ganfyddiadau'r ymgynghoriad, fe allai'r cyngor gynnig agor yr ysgol cyfrwng Gymraeg o fis Medi 2024.