大象传媒

Tata: Disgwyl cynnig o 拢300m i greu 'dur gwyrdd'

  • Cyhoeddwyd
Tata SteelFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Port Talbot yn gartref i weithfeydd dur mwyaf y Deyrnas Unedig

Fe allai gwaith dur ym Mhort Talbot gael miliynau o bunnoedd i fod yn fwy gwyrdd.

Mae disgwyl i'r Canghellor, Jeremy Hunt, gyhoeddi'r wythnos hon y bydd Tata Steel UK - ynghyd 芒 chwmni British Steel - yn cael gwerth tua 拢300m o grantiau'r un.

Y nod fyddai "symud i ffwrdd" o ffwrneisi glo i leihau allyriadau carbon. Fe fyddai'n gwarchod nifer o swyddi hefyd.

Ond mae 'na rybuddion y byddai angen i'r cymorth ariannol fod lawer yn fwy er mwyn trawsnewid ffyrdd o gynhyrchu dur.

Dywedodd yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wrth y 大象传媒 eu bod yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant dur i sicrhau "dyfodol cynaliadwy a chystadleuol".

Ddydd Sul, fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies y gallai'r trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r cwmn茂au gwaith dur mwyaf am gymorth ariannol ddod i ben "yn fuan".

Ond mae 'na amheuon ynghylch y cynnig o 拢300m ac na fyddai'n ddigon i berswadio'r cwmni i fuddsoddi fel y byddai angen.

Yn ganolog i'r cynnig o gefnogaeth fyddai cyfnewid ffwrneisi chwyth y cwmni am ffordd wyrdd o gynhyrchu dur.

Maen nhw'n defnyddio glo golosg ac yn cynhyrchu llawer iawn o garbon deuocsid, sy'n arwain at gynhesu byd eang.

Mae lle i gredu, yn 么l rhagfynegon mewnol y cwmni, y byddai trawsnewid gwaith y cwmni ym Mhort Talbot i gynhyrchu "dur gwyrdd" yn costio hyd at 拢3bn.

Yn 么l adroddiadau mae'r cwmni sy'n cyflogi 4,000 ym Mhort Talbot wedi gofyn i Lywodraeth y DU am 拢1.5bn i ddatgarboneiddio'r safle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn cyflogi 4,000 o bobl

Mae angen cytundeb yn fuan, dywedodd Steve Turner, pennaeth undeb Unite, wrth y Gweinidog Busnes, Grant Shapps.

Dywedodd fod y diwydiant dur "ar fin dymchwel" mewn llythyr yr wythnos ddiwethaf.

Y llynedd, fe rybuddiodd cwmni Tata y gallen nhw orfod "cau rhai safleoedd" yn y DU pe na fydden nhw'n cael cefnogaeth ariannol i gynhyrchu dur yn fwy gwyrdd.

Dywedodd Henrik Adam, prif weithredwr gweithrediadau Tata yn Ewrop, wrth y 大象传媒 fod angen "yr un gefnogaeth" 芒 chwmn茂au dramor.

Ychwanegodd fod buddsoddiad gan y llywodraeth yn angenrheidiol i helpu'r gweithfeydd ym Mhort Talbot drawsnewid i gynhyrchu dur gwyrdd.

'Angen yr un gefnogaeth 芒 dramor'

Mae Tata'n cynhyrchu tua 3.6 tunnell o ddur bob blwyddyn yn y DU. Mae'n broses sy'n defnyddio digon o ynni i bweru mwy na 600,000 o dai yn y DU.

Mae eu hallyriadau carbon yn cyfateb a 2% o holl allyriadau carbon y DU a mwy na 15% o rai Cymru.

Er mwyn cyrraedd targedau Cymru a'r DU o leihau allyriadau carbon dros y degawdau nesaf, mae 'na gydnabyddiaeth wedi bod ers blynyddoedd fod y ffyrdd arferol o gynhyrchu dur yn mynd yn groes i hynny.

Yr opsiwn mwyaf tebygol yw y byddai Tata Steel a British Steel yn defnyddio ffwrneisi trydan yn hytrach na rhai glo.

Mae disgwyl i gymorth ariannol Llywodraeth y DU fod yn ddibynnol ar fuddsoddiad gan y ddau gwmni dur a sicrwydd y bydd eu gweithfeydd yn parhau i weithredu tan 2030.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Laura Baker, sy'n gweithio i gwmni Tata ym Mhort Talbot, yn edrych ymlaen at ddyfodol carbon isel

Ond mae'r Aelod Seneddol Llafur lleol, Stephen Kinnock, wedi dweud fod y 拢300m sydd wedi ei gynnig i safle Port Talbot "tipyn yn llai" na'r hyn mae gwledydd eraill yn ei gynnig i gwmn茂au dur er mwyn symud tuag at ynni gwyrdd.

"Mae'n bryd i Lywodraeth y DU stopio gyda'r datrysiadau dros dro yma, ac eistedd rownd y bwrdd gyda chwmn茂au dur er mewn gweithio allan beth sydd ei angen o ran cynllun hir-dymor," meddai.

"Mae unrhyw gymorth yn help, ond dwi ddim yn meddwl y bydd hyn yn cyfateb i faint yr uchelgais sydd gan ein gweithwyr a chwmn茂au dur."

Ychwanegodd bod angen i'r llywodraeth "ddechrau buddsoddi a newid nawr", gan fod un o'r ffwrnesi yn debygol o gyrraedd diwedd ei oes erbyn 2026.

Dilyn esiampl yr UDA?

Mae rhai o weithwyr y cwmni ym Mhort Talbot yn optimistaidd ynghylch cynhyrchu dur yn garbon-isel.

"Mae mor gyffrous i feddwl am ddyfodol y gweithfeydd hyn a'r effaith allwn ni gal ar ddatgarboneiddio ar gyfer y DU gyfan," dywedodd Laura Baker.

Ms Baker sy'n creu'r "ryseitiau" i sicrhau fod y dur sy'n cael ei greu ym Mhort Talbot yn cwrdd 芒 gofynion penodol cwsmeriaid.

"Mae'n cwsmeriaid wir eisiau i ni ddatgarboneiddio fel y gallan nhw ddatgarboneiddio eu cadwynai cyflenwi eu hunain," dywedodd.

Yn 么l cadeirydd gr诺p o arweinwyr busnes sydd eisiau cyflymu'r broses o ddatgarboneiddio'r economi ar draws y byd, mae 'na "r么l gan Lywodraeth y DU i'w chwarae i roi cefnogaeth benodol yn y camau cyntaf o drawsnewidiad technolegol gwbl newydd".

"Allwn ni ddim bod yn buraidd am hyn," dywedodd yr Arglwydd Adair Turner, cadeirydd y Comisiwn Trawsnewid Ynni.

"Mae'r UDA nawr yn gwneud hyn ar raddfa enfawr," dywedodd.