Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dim digon o arbenigwyr canser mewn adrannau brys'
- Awdur, Ben Price
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Pan glywodd Matthew Batten fod ganddo ganser, roedd yn sioc fawr iddo.
Cafodd lawdriniaeth frys ar gyfer llid y pendics yn 2018, ond ddeufis yn ddiweddarach fe gafodd wybod mai canser y ceilliau oedd yn achosi'r boen yn ei stumog.
Yn 么l Coleg Brenhinol y Meddygon mae 'na ddiffyg arbenigwyr oncoleg o fewn adrannau brys sy'n gallu adnabod a thrin argyfyngau canser, ac mae hyn yn destun pryder.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai pob ysbyty sy'n trin salwch difrifol cynnig gwasanaeth oncoleg brys.
"Ar 么l y llawdriniaeth, fe ddywedodd y doctor eu bod nhw wedi ffeindio mass ar y pendics," meddai Mr Batten, sy'n 45 oed.
"Ond achos roeddwn i'n teimlo mor s芒l doeddwn i ddim yn gallu meddwl am unrhyw gwestiynau i ofyn ac heb ragor o wybodaeth fe es i adref.
"Doedd neb wedi esbonio beth gallai'r mass wedi bod a wnaeth neb ddweud efallai bod angen gweld os oedd hwn yn ganser."
Ddeufis wedi'r llawdriniaeth i dynnu ei bendics, fe dderbyniodd lythyr yn gofyn iddo fynychu apwyntiad yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd.
'Doedd neb wedi dweud'
Dywedodd: "Os ti'n byw yn ne Cymru, ti'n gwybod beth yw Ysbyty Felindre. Mae'n ysbyty canser.
"Roedd e'n sioc ac yn brifo. Pam bod angen i fi fynd i'r ysbyty canser? Doedd neb wedi dweud efallai bod gen i ganser."
Fe aeth i'r ysbyty ac fe ddechreuodd y broses o dderbyn cemotherapi. Mae wedi byw heb ganser ers pedair blynedd erbyn hyn.
Ond mae'n teimlo y gallai fod wedi cael diagnosis yn gynt pe bai arbenigwr oncoleg wedi bod ar gael yn yr ysbyty pan aeth i'r adran frys yn y lle cyntaf.
Yn 么l adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon, mae gwasanaethau arbenigol canser dan bwysau mawr oherwydd prinder adnoddau a phrinder staff.
Mae'r problemau yma'n ychwanegu at y pwysau a'r oedi presennol o fewn adrannau gofal brys, medden nhw.
Mae tua chwarter o welyau ar gyfer pobl gyda salwch difrifol a chleifion gyda phroblemau'n gysylltiedig 芒 chanser. Fe eillid osgoi hyn, yn 么l y meddygon.
Daw'r pwysau yma yn ystod cyfnod lle mae nifer y gwelyau llawn mewn ysbytai ar ei uchaf, ac mae dros 1,000 o gleifion bob wythnos yn methu 芒 gadael yr ysbyty er eu bod nhw'n ddigon iach i wneud hynny.
Yn 么l yr adroddiad, mae angen ymestyn oriau'r gwasanaethau oncoleg a chynnig darpariaeth dros nos, ond dyw hynny ddim yn bosib mewn nifer o lefydd ar hyn o bryd.
Dywedodd yr adroddiad hefyd bod angen lleihau'r amrywiaeth rhwng rhanbarthau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a diarffordd.
Dywedodd Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, Dr Olwen Williams: "Beth rydyn ni'n galw amdano yw bod timau 芒 sgiliau gwahanol i edrych ar 么l pobl sydd hefo diagnosis canser am y tro cyntaf, a hefyd y rhai sydd wedi cael cymhlethdodau gyda'u triniaeth neu'n dod i fewn gyda salwch oherwydd eu canser.
"Un peth rydyn ni gyd yn gwybod yw bod hanner y boblogaeth am gael canser rhyw bryd yn eu bywyd. Y ffaith yw bod hyn yn dod 芒 lot o boen i'r unigolyn a'u teuluoedd nhw.
"Os rydyn ni'n gallu rhoi gofal brys iddyn nhw wrth y drws ffrynt, beth mae hynny'n golygu yw bod nhw'n aros yn llai yn yr ysbytai, bod nhw'n cael mynd adref i'w teuluoedd nhw a chael eu triniaeth yn y cartref, ac mae hynny'n bwysig iawn i rywun sydd yn wirioneddol s芒l."
Fe ymrwymodd cynllun canser 2016-20 Llywodraeth Cymru i ddarpariaeth saith diwrnod yr wythnos ar gyfer gwasanaethau oncoleg, ac roedd yna addewid ym Mawrth 2021 i "integreiddio gwasanaethau oncoleg penodol mhob ysbyty sy'n darparu gofal penodol".
Er gwaethaf hyn, mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn dweud bod y ddarpariaeth yn anghyson o hyd.
Dywedodd yr adroddiad gan Goleg Brenhinol y Meddygon fod gan Gymru enghreifftiau da o unedau gofal canser arbenigol, gyda staff sy'n cynnig gofal 24 awr.
Ond mewn llefydd ble nad yw'r fath ofal yn bodoli, "mae cleifion canser yn gallu cael profiad gwael tra'n mynychu adrannau gofal brys".
Un o 32 o awgrymiadau yn yr adroddiad yw buddsoddiad ychwanegol i sicrhau bod mwy o nyrsys oncoleg yn y gymuned er mwyn helpu gwella profiad cleifion wrth dderbyn triniaeth, yn enwedig y rhai sy'n byw yn bell o wasanaeth arbenigol oncoleg.
Dywedodd uwch-nyrs oncoleg Ysbyty Felindre, Sarah Owen: "Rydyn ni'n trin pobl yma mor bell i'r gogledd 芒 Brycheiniog, Pen-y-bont i'r gorllewin a'r Fenni i'r dwyrain.
"Mae'n bwysig dechrau'r driniaeth mor gyflym 芒 sy'n bosib i drin y canser a hefyd i drin y sgil-effeithiau fel y poen a'r teimlo'n s芒l.
"Mae gweld arbenigwr mor gyflym 芒 sy'n bosib yn helpu ni i wneud hynny mor gyflym 芒 sy'n bosib.
"Mae'n ofnadwy o bwysig bod gan glaf ofal arbenigol yn agos i'w cartref achos pan rydych chi'n s芒l, dyw hi ddim yn neis gorfod teithio pellterau hir i gael triniaeth."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi cyhoeddi ein cynllun cynhwysfawr i wella canlyniadau canser, gan gynnwys sicrhau ein bod ni'n darganfod canser claf yn gynt a disgwyl y bydd gan bob ysbyty sy'n trin salwch difrifol wasanaeth oncoleg.
"Bydd pob bwrdd iechyd yn ymateb i'r addewidion yma trwy gynllunio a chyflwyno y gwasanaethau sydd eu hangen."