Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Amddiffyn planhigion prin Eryri rhag traed dringwyr
- Awdur, Sion Tootill
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae offer newydd wedi'u gosod ar rai o glogwyni Eryri er mwyn gwarchod rhai o rywogaethau planhigion prin yr ardal.
Mae Eryri yn gartref i sawl rhywogaeth arbennig megis Lili'r Wyddfa a'r Tormaen Porffor.
Nod y cynllun ydy amddiffyn y planhigion yma rhag dringwyr sy'n defnyddio offer arbennig i ddringo rhew yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae'r bwyeill i芒 a chramponau, sef esgidiau arbennig sy'n helpu dringwyr dringo ar i芒, yn gallu difrodi'r planhigion arbennig yma os nad ydy'r tir wedi rhewi.
Ond mae synwyryddion tymheredd newydd yn gallu darparu data i ddringwyr sy'n gadael iddyn nhw wybod a yw'r amodau'n iawn i ddringo heb beryglu'r planhigion sy'n tyfu yno.
'Prosiect pwysig iawn'
Yn 么l Tom Carrick, sy'n gweithio i Gyngor Mynydda Prydain, mae'r cyfarpar yma yn fuddiol i'r amgylchedd lleol ac i'r dringwyr.
"Mae hon yn brosiect pwysig iawn. I ddechrau, mae'r wybodaeth 'da ni'n cael yn mynd i helpu diogelu dringwyr, a hefyd ar gyfer cadwraeth, i ddiogelu planhigion y mynyddoedd."
Yn ddringwr ei hun, mae Tom yn ymwybodol o'r risg sydd i blanhigion wrth ddringo, yn enwedig yn ystod y gaeaf.
"Rydyn ni'n lwcus yma ym Mhrydain achos mae 'na sawl math o ddringo 'da ni'n gallu gwneud. Gallwn ddringo ar glogwyni sydd wedi rhewi [dringo i芒], neu ar greigiau, neu ar y turf.
"Ond weithiau yn y turf 'da ni'n gallu ffeindio planhigion arbennig, ac os ydych chi'n mynd fyny i'r ardaloedd yma gyda chramponau a bwyeill i芒 yn ystod y gaeaf gyda'r nod o ddringo i芒 a dydi'r turf heb rewi mae'n hawdd iawn difrodi'r planhigion yna.
"Ond yn ogystal mae'n beryglus i'r dringwyr pan nad ydy'r turf wedi rhewi'n iawn achos os nad ydy'ch bwyeill i芒 yn gweithio'n iawn, 'da chi'n fwy tebygol o ddisgyn.
"Felly mae'r gallu i wybod os ydy'r turf gwir wedi rhewi yn gwella profiad dringwyr."
Peiriannau arbennig
Mae dau beiriant wedi'u gosod ar y clogwyni o amgylch Cwm Idwal, ger Bethesda yng Ngwynedd.
Mae un wedi'i leoli 600 metr i fyny'r clogwyni a'r llall 250 metr uwchben hynny.
Yng nghefn y ddau mae 'na chwilwyr tymheredd o wahanol hyd sy'n cael eu gosod yn y pridd.
Mae'r chwilwyr yn mesur tymheredd y pridd gan ddangos a ydy'r ddaear wedi rhewi neu beidio.
Mae dringwyr yn gallu cael y wybodaeth yma ar y we neu du allan i ganolfan Cwm Idwal gan weld os yw'n bosib iddyn nhw fynd i ddringo i芒 yn ddiogel neu beidio.
Mae'r offer newydd yma yn "gam pwysig" wrth ddiogelu planhigion arbennig yr ardal, yn 么l Rhys Weldon-Roberts, sy'n Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal.
"Yn y warchodfa natur mae gennym ni blanhigion Arctig Alpaidd sydd yn relic mwy neu lai o gyn oes yr i芒," meddai.
"Mae gennym ni blanhigion fel Lili'r Wyddfa sydd ond ar gael yn Eryri, a'r Tormaen Porffor hefyd sydd yn brin iawn yn gyffredinol, yn enwedig ym Mhrydain.
"Dyna pam mae'n bwysig bod ni'n gweithredu i sicrhau bod y planhigion yma yn goroesi."
'Helpu dringwyr hefyd'
Mae Cwm Idwal yn denu dros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae llawer o'r rheini yn ddringwyr sydd am ddringo clogwyni enwog yr ardal fel Twll Du.
Gobaith Rhys yw y bydd y synwyryddion tymheredd newydd yn gwella'r profiad i'r ymwelwyr yna, gan hefyd gwarchod amgylchedd yr ardal.
"Dau nod sydd gynnon ni felly. Un, yn sicr i amddiffyn y planhigion. Os ydy'r tir wedi rhewi mae'n anoddach gwneud difrod i'r planhigion.
"Ond, hefyd wrth gwrs os ydy'r dringwyr yn gwybod bod yr amodau yn addas ar gyfer dringo maen nhw'n mynd i gael diwrnod gwell hefyd.
"Dydy dringwyr ddim eisiau mynd fyny 'na os nad ydy'r amodau yn rhai da i ddringo, felly mae'n helpu nhw hefyd."