Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips, wedi ymddiswyddo.
Mae wedi bod dan bwysau ers i ymchwiliad gan raglen 大象传媒 Wales Investigates ddatgelu cyfres o honiadau o ragfarn rhyw, hiliaeth a chasineb at ferched o fewn y sefydliad.
Cyn-chwaraewr Cymru, Nigel Walker - y cyfarwyddwr perfformiad presennol - fydd yn camu i'r adwy tra fod URC yn chwilio am Brif Weithredwr newydd.
Cyfaddefodd Walker fod rygbi Cymru yn wynebu "argyfwng dirfodol" ac fod angen i URC wneud yn "lawer gwell".
Galwadau cynyddol
Roedd Phillips, 58, wedi wynebu pwysau am y modd yr ymdriniodd y corff llywodraethu 芒'r materion a godwyd yn y rhaglen.
Roedd y pedwar rhanbarth wedi cefnogi galwadau gan gyfarwyddwr o Gaerdydd i Phillips a'r bwrdd adael, tra roedd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru yn dweud eu bod wedi'u "brawychu gan yr honiadau".
Yn wreiddiol roedd Phillips wedi gobeithio parhau yn ei r么l, ond mae bellach wedi gwrando ar y galwadau cynyddol arno i adael.
"Gyda chryn ofid yr wyf wedi penderfynu cyflwyno fy ymddiswyddiad," meddai Phillips.
"Rwyf wastad wedi bod 芒 lles gorau rygbi Cymru wrth wraidd pob gweithred a meddwl, ond wedi dod i'r casgliad ei fod bellach yn bryd i rywun arall arwain y ffordd."
'Diolch am ei ymroddiad'
"Mae hon yn gamp rwy'n ei charu ac yn un sy'n cael ei hedmygu cymaint ledled y byd, a dymunaf bob llwyddiant i bawb sy'n ymwneud 芒'r g锚m a fy nymuniadau gorau," ychwanegodd Phillips.
"Rwyf eisoes wedi dweud cymaint rwy'n difaru'n fawr y teimladau a'r emosiynau a fynegwyd yn ddiweddar gan gyn-aelodau o staff."
Pwysleisiodd URC na wnaed unrhyw honiadau yn erbyn Phillips yn rhaglen ddiweddar y 大象传媒 ac ni chafodd ei gyhuddo o unrhyw gamwedd.
"Rwy'n diolch i Steve am ei ymroddiad a'i gefnogaeth i rygbi Cymru," meddai Cadeirydd URC, Ieuan Evans.
"Mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'n cynnydd ar lwyfan y byd, ac yn fwyaf diweddar bu'n allweddol wrth sicrhau bod Warren Gatland yn dychwelyd i'r llyw.
Cyfaddefodd Nigel Walker ei fod yn cymryd y llyw ar adeg gythryblus.
"Does dim dwywaith fod rygbi Cymru yn wynebu argyfwng dirfodol," meddai.
Mewn cyfweliad pellach nos Sul, dywedodd Mr Walker bod yr honiadau a gafodd eu darlledu ar raglen 大象传媒 Wales Investigates yn "ddirdynnol" a bod hygrededd yr undeb "mor isel ag erioed"
Fe fynegodd "edifeirwch" ar ran yr undeb "ac ymddiheuriad i'r gweithwyr hynny a aeth drwy'r hyn y gwnaethon nhw, ac awydd i gael pethau'n iawn"
"Rydym yn cydnabod nad ydyn ni wedi cyrraedd y safonau uchel angenrheidiol," dywedodd ar raglen Scrum V.
"Rydym yn ymddiheuro, rydym yn derbyn ein bod wedi gwneud llawer o gamgymeriadau. Nid ydym nawr yn edrych ar sut allwn ni liniaru'r helynt rydym ynddo.
"Yr hyn rydym am ei wneud nawr yw gwella, a chael rhyw fath o hygrededd yn 么l gan ein bod yn deall bod hwnnw bellach ar ei lefel isaf erioed."
"Y cam cyntaf i unrhyw adferiad yw cyfaddef y broblem.
"Rhaid i ni nawr wrando'n astud ar yr hyn y mae pobl o'r tu allan i'n sefydliad yn ei ddweud wrthym.
"Rydym yn malio ac yn ymroddedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed yn y maes hwn gydag adnoddau a buddsoddiad ymroddedig.
"Ond mae angen i ni wneud yn well. Mae angen i ni wneud yn llawer gwell ac mi fyddwn ni."
Dywedodd Ieuan Evans, a gymerodd yr awenau yn Nhachwedd 2022, wrth raglen Sunday Supplement Radio Wales ei fod yn aros ymlaen i geisio gyrru newid llywodraethu oddi fewn y sefydliad.
'Dechrau ac nid diwedd y newidiadau strwythurol'
Mae ymddiswyddiad Steve Phillips wedi ei groesawu gan rai ffigyrau gwleidyddol.
Dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, fod y penderfyniad yn "anochel".
Ychwanegodd Mr Brennan, sy'n aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan: "Mae angen arwydd clir o'r ffordd ymlaen oherwydd, ar drothwy'r Chwe Gwlad, fe ddylen ni fod yn s么n am lwyddiant Cymru ar y maes ar bob lefel."
Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Heledd Fychan, hefyd wedi dweud fod sefyllfa Mr Phillips wedi dod yn "annaladwy".
"Rhaid i benodiad Nigel Walker fel Prif Weithredwr dros dro nodi dechrau ac nid diwedd y newidiadau strwythurol a diwylliannol sylweddol sydd eu hangen yn URC," meddai Ms Fychan, llefarydd chwaraeon, diwylliant a rhyngwladol y Blaid.
"Dylai llywodraeth Cymru nawr ystyried a yw'n briodol i URC dderbyn unrhyw arian cyhoeddus pellach hyd nes y bydd y newidiadau hyn yn cael eu gwneud."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023