大象传媒

Y rhanbarthau yn galw ar fwrdd Undeb Rygbi Cymru i fynd

  • Cyhoeddwyd
Steve PhillipsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hyd yn hyn mae'r Prif Weithredwr, Steve Phillips, wedi gwrthod galwadau i ymddiswyddo

Mae pedwar rhanbarth rygbi Cymru wedi cefnogi e-bost sy'n galw ar brif weithredwr a bwrdd Undeb Rygbi Cymru i ymddiswyddo neu gael eu diswyddo.

Mae 大象传媒 Cymru yn deall bod y llythyr, gafodd ei ysgrifennu gan gyfarwyddwr anweithredol Rygbi Caerdydd, Hayley Parsons, wedi'i anfon at gadeirydd URC, Ieuan Evans.

Dosbarthwyd yr e-bost hefyd i'r pedwar rhanbarth - Scarlets, Gweilch, Dreigiau a Rygbi Caerdydd - sy'n cymeradwyo ac yn cefnogi'r cynnwys.

Dywedodd cadeirydd URC, Ieuan Evans, nad yw'r undeb yn fyddar i'r feirniadaeth y mae wedi'i wynebu, ac y bydd yn cyfarfod 芒 Ms Parsons i drafod ei phryderon.

Daw'r llythyr yn sgil ymchwiliad gan raglen 大象传媒 Wales Investigates i honiadau o "ddiwylliant gwenwynig" yn URC.

Cafodd honiadau difrifol eu gwneud gan gyn-bennaeth rygbi merched yng Nghymru a chyn-gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Charlotte Wathan yn gweithio i Undeb Rygbi Cymru am bedair blynedd

Yn 么l Charlotte Wathan, cyn-Reolwr Cyffredinol Rygbi Cymru, fe ddywedodd cydweithiwr gwrywaidd wrthi ei fod eisiau ei "threisio".

Dywed URC fod ymchwiliad annibynnol wedi'i gynnal i'r cyhuddiad a'i fod yn parhau i fod heb ei brofi ac na allen nhw wneud sylw pellach oherwydd setliad cyfreithiol.

Hyd yn hyn mae'r prif weithredwr, Steve Phillips, wedi gwrthod galwadau i ymddiswyddo.

Yn y cyfamser, mae'r cadeirydd Ieuan Evans wedi cyhoeddi y bydd tasglu allanol yn ymchwilio i honiadau o rywiaeth, hiliaeth ac anffafriaeth o fewn yr undeb.

'Gwneud hyn gyda'n gilydd'

Wrth ymateb nos Iau ychwanegodd Mr Evans: "Rhaid i ni edrych eto a gweithredu ar unwaith os ydyn yn canfod fod camweithredu wedi digwydd a symud ymlaen o hynny.

"Fe fyddwn yn gwneud hyn gyda'n gilydd. Rydyn yn derbyn cyfrifoldeb gyda'n gilydd.

"Fe fyddwn ni hefyd yn cael cyngor o'r tu allan ac yn troi at y cyfarwyddwyr annibynnol ar y bwrdd fel mae Hayley yn awgrymu.

"Fe ddefnyddiwn ni'r pwysau ry'n yn ei wynebu, y pwysau ry'n yn gyfrifol amdano, i wella. Fyddai ddim yn gwyro oddi wrth y dasg hon."